yd, Y tadau a fwytasant rawnwin sunon, ac ar ddannedd y plant y mae dincod?
3 Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, ni bydd i chwi mwy arferu y ddïareb hon yn Israel.
4 Wele, yr holl eneidiau eiddof fi ydynt; fel enaid y tad, felly hefyd enaid y mab, eiddof fi ydynt; yr enaid a becho, hwnnw a fydd farw.
5 Canys os bydd gwr yn gyfiawn, ac yn gwneuthur barn a chyfiawnder,
6 Heb fwytta ar y mynyddoedd, na chyfodi ei lygaid at eilunod tŷ Israel, ac heb halogi gwraig ei gymmydog, na nesâu at wraig fisglwyfus,
7 Na gorthrymu neb, ond a roddes ei wysti i’r dyledwr yn ei ol, ni threisiodd draia, ei fara a roddodd i’r newynog, ac a ddilladodd y noeth,
8 Ni roddes ar usuriaeth, ac ni chymmeredd ychwaneg, ei law a dynnodd yn ei hol oddi wrth anwiredd, gwir farn a wnaeth rhwng gwr a gwr.
9 Yn fy neddfau y rhodiodd, a’m barnedigaethau a gadwodd, i wneuthur gwirionedd: cyfiawn yw; gan fyw efe a fydd byw, medd yr ARGLWYDD DDUW.
10 Os cenhedla efe fab yn lleidr, ac yn tywallt gwaed, ac a wna gyffelyb i’r un o’r pethau hyn,
11 Ac ni wna yr un o’r pethau hynny, ond ar y mynyddoedd y bwytty, a gwraig ei gymmydog a haloga,
12 Yr anghenus a’r tlawd a orthrymma, trais a dreisia, gwystl ni rydd drachefn, ac at eilunod y cyfyd ei lygaid, a wnaeth ffieidd-dra,
13 Ar usuriaeth y rhoddes, ac ychwaneg a gymmerth; gan hynny a fydd efe byw? Ni bydd byw: gwnaeth yr holl ffieidd-dra hyn; gan farw y bydd farw; ei waed a fydd arno ei hun.
14 Ac wele, os cenhedla fab a wêl holl bechodau ei dad y rhai a wnaeth efe, ac a ystyria, ac ni wna felly,
15 Ar y mynyddoedd ni fwytty, a’i lygaid ni chyfyd at eilunod tŷ Israel, ni haloga wraig ei gymmydog,
16 Ni orthrymma neb chwaith, ni attal wystl, ac ni threisia drais, ei fara a rydd i’r newynog, a’r noeth a ddillada,
17 Ni thry ei law oddi wrth yr anghenog, usuriaeth na llog ni chymmer, fy marnau a wna, yn fy neddfau y rhodia: hwnnw ni bydd farw am anwiredd ei dad; gan fyw y bydd efe byw.
18 Ei dad, am orthrymmu yn dost, a threisio ei frawd trwy orthrech, a gwneuthur yr hyn nid oedd dda ym mysg ei bobl, wele, efe a fydd marw yn ei anwiredd.
19 Etto chwi a ddywedwch, Paham? oni ddwg y mab anwiredd y tad? Pan wnelo y mab farn a chyfiawnder, a chadw fy holl ddeddfau, a’u gwneuthur hwynt, gan fyw efe a fydd byw.
20 Yr enaid a becho, hwnnw a fydd marw. Y mab ni ddwg anwiredd y tad, a’r tad ni ddwg anwiredd y mab: cyfiawnder y cyfiawn fydd arno ef, a drygioni y drygionus fydd arno yntau.
21 Ond os yr annuwiol a ddychwel oddi wrth ei holl bechodau y rhai a wnaeth, a chadw fy holl ddeddfau, a gwneuthur barn a chyfiawnder, efe gan fyw a fydd byw; ni bydd efe marw.
22 Ni chofir iddo yr holl gamweddau a wnaeth: yn ei gyfiawnder a wnaeth y bydd efe byw.
23 Gan ewyllysio a ewyllysiwn i farw yr annuwiol, medd yr ARGLWYDD DDUW, ac na ddychwelai oddi wrth ei ffyrdd, a byw?
24 Ond pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a gwneuthur yn ol yr holl ffieidd-dra a wnelo yr annuwiol; a fydd efe byw? ni chofir yr holl gyfiawnderau a wnaeth efe: yn ei gamwedd yr hwn a wnaeth, ac yn ei bechod a bechodd, ynddynt y bydd efe marw.
25 Etto chwi a ddywedwch, Nid cymmwys yw ffordd yr ARGLWYDD. Gwrandêwch yr awr hon, tŷ Israel, onid yw gymmwys fy ffordd i? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymmwys?
26 Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthir anwiredd, a marw ynddynt; am ei anwiredd a wnaeth y bydd efe marw.
27 A phan ddychwelo yr annuw-