Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/795

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

iol oddi wrth ei ddrygioni yr hwn a wnaeth, a. gwneuthur barn a chyfiawnder, hwnnw a geidw yn fyw ei enaid.

28 Am iddo ystyried, a dychwelyd oddi wrth ei holl gamweddau y rhai a wnaeth, gan fyw y bydd byw, ni bydd marw.

29 Eto t Israel a ddywedant, Nid cymwys yw ffordd yr ARGLWYDD. Ty Israel, onid cymwys fy ffyrdd i? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymwys?

30 Am hynny barnaf chwi, ty Israel, bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun, medd yr AR¬GLWYDD DDUW. Dychwelwch, a throwch oddi wrth eich holl gamweddau; fel na byddo anwiredd yn dramgwydd i chwi.

31 Bwriwch oddi wrthyeh eich holl gamweddau y camweddasoch ynddynt, a gwnewch i chwi galon newydd, ac ysbryd newydd: canys paham, ty Israel, y byddwch feirw?

32 Canys nid oes ewyllys gennyf i farwolaeth y marw, medd yr ARGLWYDD DDUW, Dychwelwch gan hynny, a byddwch fyw.


PENNOD 19

1 CYMMER dithau alarnad am dywysogion Israel,

2 A dywed, Beth yw dy fam? lleweS: gorweddodd ymysg llewod, yng nghanol y llewod ieuainc y maethodd hi ei chenawon.

3 A hi a ddug i fyny uo o'i chenawon: efe a aeth yn Hew ieuanc, ac a ddysgodd ysglyfaethu ysglyfaeth; bwytaodd ddyoion.

4 Yna y cenhedloedd a glywsant sfia amdano; daliwyd ef yn eu ffos hwynt, a dygasant ef mewn cadwynau i dir yr Aifft.

5 A phan welodd iddi ddisgwyl, a dar-fod am ei gobaith, hi a gymerodd un arall o'i chenawon, ac a'i gwnaeth ef yn. Hew ieuaoc.

6 Yntau, a dramwyodd ymysg y llewod i: efe a aeth yn llew ieuanc, ac a ddysgodd ysglyfaethu ysglyfaeth; bwytaodd ddynion.

7 Adnabu hefyd eu gweddwon hwynt, a'u dinasoedd a anrheithiodd efe; ie, anrheithiwyd y tir a'i gyflawnder gan lais ei ruad ef.

8 Yna y cenhedloedd a ymosodasant yn ei erbyn ef o amgylch o'r taleithiau, ac a daenasant eu rhwyd arno; ac efe a ddaliwyd yn eu ffos hwynt.

9 Ahwya'irhoddasantefyngngharchar mewn cadwyni, ac a'i dygasant at frenin Babilon: dygasant ef i amddiffynfeydd, fel na chlywid ei lais ef mwy ar fynyddoedd Israel.

10 Dy fam sydd fel gwinwydden yn dy waed di, wedi ei phlannu wrth ddyfroedd: ffrwythlon a brigog oedd, oherwydd dyfroedd lawer.

11 Ac yr oedd iddi wiail cryfion yn deyrnwiail llywodraethwyr, a'i huchder oedd uchel ymysg y tewfrig; fel y gwelid hi yn ei huchder yn arnlder ei chang-hennau.

12 Ond hi a ddiwreiddiwyd mewn llidiowgrwydd, bwriwyd hi i'r llawr, a gwynt y dwyrain a wywodd ei ffrwyth hi: ei gwiail cryfion hi a dorrwyd ac a wywasant; tân a'u hysodd.

13 Ac yr awr hon hi a blannwyd mewn anialwch, mewn tir eras a sychedig.

14 A than a aeth allan o wialen ei changhennau, ysodd ei ffrwyth hi, fel nad oedd ynddi wialen gref yn deymwialen i lywodraethu. Galarnad yw hwn, ac yn alarnad y bydd.


PENNOD 20

1 YN y seithfed flwyddyn, o fewn y 1 pumed mis, ar y degfed dydd o'r .mis, y daeth gwyr o henuriaid Israel i ymgynghori a'r ARGLWYDD, ac a eisteddasant ger fy mron i.

2 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

3 Ha fab dyn, llefara wrth henuriaid Israel, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Ai i ymofyn a mi yr ydych chwi yn dyfod? Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, ni fynnaf gennych ymofyn a mi.

4 A femi di hwynt, mab dyn, a femi di hwynt? gwna iddynt wybod ffieidd-dra eu tadau:

5 A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Ar y dydd y dewisais Israel, ac y