Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/796

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

tyngais wrth had ty Jacob, ac y'm gwneuthum yn hysbys iddynt yn nhir yr Aifft, pan dyngais wrth¬ynt, gan ddywedyd, Myfi yw yr AR¬GLWYDD eich Duw chwi;

6 Yn y dydd y tyngais wrthynt ar eu dwyn hwynt allan o dir yr Aifft, i wlad yr hon a ddarparaswn iddynt, yn llifeirio o laeth a mel, yr hon yw gogoniant yr holl diroedd:

7 Yna y dywedais wrthynt, Bwriwch ymaith bob un ffieidd-dra ei lygaid, ac nac ymhalogwch ag eilunod yr Aifft. Myfi yw yr ARGLWYDD eich Duw chwi.

8 Er hynny gwrthryfelasant i'm herbyn, 3 ac ni fynnent wrando arnaf: ni fwriasant ymaith ffieidd-dra eu llygaid bob un, ac ni adawsant eilunod yr Aifft. Yna y dywed¬ais, Tywalltaf arnynt fy llidiowgrwydd, i gyflawni fy nig arnynt yng nghanol gwlad yr Aifft.

9 Eto gwneuthum er mwyn fy enw, rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd y rhai yr oeddynt hwy yn eu mysg; yng ngwydd pa rai yr ymhysbysais iddynt hwy, wrth eu dwyn hwynt allan o dir yr Aifft.

10 Am hynny y dygais hwynt allan o dir yr Aifft, ac a'u dygais hwynt i'r anialwch.

11 A rhoddais iddynt fy neddfau, a hysbysais iddynt fy marnedigaethau, y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a'u gwna hwynt.

12 Rhoddais hefyd iddynt fy Sabothau, i fod yn arwydd rhyngof fi a hwynt, i wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD a'u sancteiddiodd hwynt.

13 Er hynny ty Israel a wrthryfelasant i'm herbyn yn yr anialwch: ni rodiasant yn fy neddfau, ond diystyrasant fy marnedigaethau, y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a'u gwnelo hwynt; fy Sabothau hefyd a halogasant yn ddirfawr. Yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt yn yr anialwch, i'w difetha hwynt.

14 Eto gwneuthum er mwyn fy enw, fel na halogid ef yng ngolwg y cenhedloedd, y rhai y dygais hwynt allan yn eu gwydd.

15 Ac eto mi a dyngaswn iddynt yn yr anialwch, na ddygwn hwynt i'r wlad a roddaswn iddynt, yn llifeirio o laeth a mel; honno yw gogoniant yr holl wiedydd:

16 Oherwydd iddynt ddiystyru fy marn¬edigaethau, ac na rodiasant yn fy neddfg au, ond halogi fy Sabothau: canys eu calon oedd yn myned ar ôl eu heilunod.

17 Eto tosturiodd fy llygaid wrthynt rhag eu dinistrio, ac ni wneuthum ddiben amdanynt yn yr anialwch.

18 Ond mi a ddywedais wrth eu meibion hwynt yn yr anialwch, Na rodiwch yn neddfau eich tadau, ac na chedwch eu barnedigaethau hwynt, nac ymhalogwch chwaith a'u heilunod hwynt.

19 Myfi yw yr ARGLWYDD eich Duw chwi: rhodiwch yn fy neddfau, a ched¬wch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt:

20 Sancteiddiwch hefyd fy Sabothau; fel y byddont yn arwydd rhyngof fi a chwithau, i wybod mai myfi yw yr AR¬GLWYDD eich Duw chwi.

21 Y meibion hwythau a wrthryfelasant i'm herbyn; yn fy neddfau ni rodiasant, a'm barnedigaethau ni chadwasant trwy eu gwneuthur hwynt, y rhai y bydd byw yn¬ddynt y dyn a'u gwnelo hwynt: halogasant fy Sabothau: yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt, i gyflawni fy nig wrthynt yn yr anialwch.

22 Eto troais heibio fy llaw, a gwneuth¬um er mwyn fy enw, fel na halogid ef yng ngolwg y cenhedloedd y rhai y dygaswn hwynt allan yn cu gwydd.

23 Hefyd mi a dyngaswn wrthynt yn yr anialwch, ar eu gwasgaru hwynt ymysg y cenhedloedd, a'u tacnu hwynt ar hyd y gwledydd;

24 Oherwydd fy marnedigaethau ni wnaethent, ond fy neddfau a ddiystyrasent, fy Sabothau hefyd a halogasent, a'u llygaid oedd ar ôl eilunod eu tadau.

25 Minnau hefyd a roddais iddynt ddeddfau nid oeddynt dda, a barnedig¬aethau ni byddent fyw ynddynt:

26 Ac a'u halogais hwynt yn eu hoffrymau, wrth dynnu trwy dan bob peth a agoro y groth, fel y dinistriwn hwynt; fel y gwybyddent mai myfi yw yr AR¬GLWYDD.

27 Am hynny, fab dyn, llefara wrth dy Israel, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD