Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/797

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

DDUW; Eto yn hyn y'm cablodd eich tadau, gan wneuthur ohonynt gamwedd i'm herbyn.

28 Canys dygais hwynt i'r tir a dyng¬aswn ar ei roddi iddynt, a gwelsant bob bryn uchel, a phob pren brigog; ac aberthasant yno eu hebyrth, ac yno y rhoddasant eu hoffrymau dicllonedd: yno hefyd y gosodasant eu harogi peraidd, ac yno y tywalltasant eu diod-offrymau.

29 Yna y dywedais wrthynt, Beth yw yr uchelfa yr ydych chwi yn myned iddi? a Bama y galwyd ei henw hyd y dydd hwn.

30 Am hynny dywed wrth dy Israel, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Ai ar ffordd eich tadau yr ymhalogwch chwi? ac a buteiniwch chwi ar ôl eu ffieidd-dra hwynt?

31 Canys pan offrymoch eich offrymau, gan dynnu eich meibion trwy y tân, yr ymhalogwch wrth eich holl eilunod hyd heddiw: a fynnaf fi gennych ymofyn a mi, ty Israel? Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, nid ymofynnir a migennych.

32 Eich bwriad hefyd ni bydd ddim, yr hyn a ddywedwch, Byddwn fel y cen¬hedloedd, fel teuluoedd y gwledydd, i wasanaethu pren a maen.

33 y Fel mai byw fi, medd yr AR¬GLWYDD DDUW, yn ddiau a llaw gadarn, ac a braich estynedig, ac a llidiowgrwydd tywalltedig, y teyrnasaf arnoch.

34 A dygaf chwi allan ymysg y bob-loedd, a chasglaf chwi o'r gwledydd y rhai y'ch gwasgarwyd ynddynt, a llaw gadarn, 'ac a braich estynedig, ac a llidiowgrwydd tywalltedig.

35 A dygaf chwi i anialwch y bobloedd, ac ymddadleuaf & chwi yno wyneb yn wyneb.

36 Fel yr ymddadleuais a'ch tadau yn anialwch tir yr Aifft, felly yr ymddadleuaf fi chwithau, medd yr ARGLWYDD DDUW.

37 A gwnaf i chwi fyned dan y wialen, a dygaf chwi i rwym y cyfamod.

38 A charthaf ohonoch y rhai gwrthryfelgar, a'r rhai a droseddant i'm herbyn: dygaf hwynt o wlad eu hymdaith, ac i wlad Israel ni ddeuant: a chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.

39 Chwithau, ty Israel, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Ewch, gwasanaethwch bob un ei eilunod, ac ar ol hyn befyd, oni wrandewch arnaf fi: cmd na halogwch mwy fy enw sanctaidd fi'oh offrymau, ac a'ch eilunod.

40 Canys yn fy mynydd sanctaidd, ym mynydd uchelder Israel, medd yr ARGLWYDD DDUW, yno y'm gwasanaetha tiioll dy Israel, cwbl o'r wlad: yno y byddaf fodlon iddynt; ac yno y gofynnaf eich offrymau, a blaenf&wyth eich offrym¬au, gyda'ch holl sanctaidd bethau. ,

41 Byddaf fodlon i chwi gyda'ch arogi peraidd, pan ddygwyf chwi allan o blith y bobloedd, a'ch casglu chwi o'r tiroedd y'ch gwasgarwyd ynddynt; a mi a sanct-eiddir ynoch yng ngolwg y cenhedloedd.

42 Hefyd cewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan ddygwyf chwi i dir Israel, i'r tir y tyngais am ei roddi i'ch tadau.

43 Ac yno y cofiwch eich ffyrdd, a'ch holl weithredoedd y rhai yr ymhalogasoch ynddynt; fel yr alaroch arnoch eich hun am yr holl ddrygioni a wnaethoch.

44 A chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan wnelwyf a chwi er mwyn fy enw, nid yn ôl eich ffyrdd drygionus chwi, nac yn ôl eich gweithredoedd llygredig, O dy Israel, medd yr ARGLWYDD DDUW.

45 y Daeth drachefn air yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

46 Gosod dy wynebj fab dyn, tua'r deau, ie, difera eiriau tua'r deau, -a jthroffwyda yn erbyn coed raaes y deau;

47 A dywed wrthgoedy deau, Gwrando air yr ARGLWYDD: Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn cynnau ynot ti dan, ac efe a ysa ynot ti bob pren ir, a phob pren sych: ffagi y fflam ni ddiffydd, a'r holl wynebau o'r deau hyd y gogledd a losgir ynddo.

48 A phob cnawd a welant mai myfi yr ARGLWYDD a'i cyneuais: nis diffoddir ef.

49 Yna y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, y maent hwy yn dywedyd amdanaf, Onid damhegion y mae hwn yn eu traethu?