Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/799

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ymaith y goron; nid yr un fydd hon: cyfod yr isel, gostwng yr uchel.

27 Dymchwelaf, dymchwelaf, dymchwelaf hi; ac ni bydd mwyach hyd m ddelo yr hwn y mae yn gyfiawn iddo; ac iddo ef y rhoddaf hi.

28 Proffwyda dithau, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD -DDUW am feibion Ammon, ac am eu gwaradwydd hwynt; dywed di, Y cleddyf, y cleddyf a dynnwyd: i ladd y gloywyd ef, i ddifetha oherwydd y disgleirdeb:

29 Wrth weled gwagedd i ti, wrth ddewinio i ti gelwydd, i'th roddi ar yddfau y lladdedigion, y drygionus y rhai y daeth eu dydd, yn amser diwedd eu hanwiredd.

30 A ddychwelaf fi ef i'w wain? yn y lle y'th grewyd, yn nhir dy gynefin, y'th famaf.

31 A thywalltaf fy nicllonedd a -nat, a than fy llidiowgrwydd y chwythaf arnat, a rhoddaf di yn llaw dynion poethion, cywraint i ddinistrio.

32 I'r tân y byddi yn ymborth; dy waed fydd yng nghanol y tir; ni'th gofir mwyach: canys myfi yr ARGLWYDD a'i dywedais.


PENNOD 22

1 GAIR yr ARGLWYDD a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,

2 Tithau, fab dyn, a ferni di, a ferni ddinas y gwaed? ie, ti a wnei iddi wybod ei holl ffieidd-dra.

3 Dywed dithau, Fel hyn y dywed .yr ARGLWYDD DDUW; TywaUt gwaed y mae y ddinas yn ei chanol, i ddyfod o'i hamser, ac eilunod a wnaeth hi yn ei herbyn ei hun i ymhalogi.

4 Euog wyt yn dy waed, yr hwn a dywelltaist; a halogedig yn dy eilunod, y rhai a wnaethost; a thi a neseaist dy ddyddiau, a daethost hyd at dy flynyddoedd: am hynny y'th wneuthum yn warth i'r cenhedloedd, ac yn watwargerdd i'r holl wiedydd.

5 Y rhai agos a'r rhai pell oddi wrthyt a'th watwarant, yr halogedig o enw, ac ami dy drallod.

6 Wele, tywysogion Israel oeddynt ynot, bob un yn ei allu i dywallt gwaed.

7 Dirmygasant ynot dad a mam; gwnaethant yn dwyllodrus a'r dieithr o'th fewn: gorthrymasant ynot yr amddifad a'r weddw.

8 Dirmygaist fy mhethau sanctaidd, a halogaist fy Sabothau.

9 Athrodwyr oedd ynot i dywallt gwaed; ar y mynyddoedd hefyd y bwytasant ynot ti: gwnant ysgelerder o'th fewn.

10 Ynot ti y datguddient noethni eu tad: yr aflan o fisglwyf a ddarostyngent ynot.

11 Gwnai ŵr hefyd ffieidd-dra a gwraig ei gymydog; a gŵr a halogai ei waudd ei hun mewn ysgelerder; ie, darostyngai gŵr ynot ei chwaer ei hun, merch ei dad.

12 Gwobr a gymerent ynot am dywallt gwaed; cymeraist usuriaeth ac ocraeth, ac elwaist ar dy gymdogion trwy dwyll, ac anghofiaist fi, medd yr ARGLWYDD DDUW.

13 Am hynny wele, trewais fy llaw wrth dy gybydd-dod yr hwn a wnaethost, ac am y gwaed oedd o'th fewn.

14 A bery dy galon, a gryfha dy ddwylo, yn y dyddiau y bydd i mi a wnelwyf a thi? myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais, ac a'i gwnaf.

15 Canys gwasgaraf di ymysg y cen-hedloedd, a thaenaf di ar hyd y gwledydd, a gwnaf i'th aflendid ddarfod allan ohonot.

16 A thi a etifeddi ynot dy hun yng ngwydd y cenhedloedd: a chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.

17 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

18 Ha fab dyn, ty Israel a aeth gennyf yn amhuredd: pres, ac alcam, a haearn, a phlwm, ydynt oll yng nghanol y pair: amhuredd arian ydynt.

19 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Am eich bod ohwi oll yn amhuredd, am hynny wele fi yn eich casglu chwi i ganol Jerwsalem.

20 Fel casglu arian, a phres, a haearn, a phlwm, ac alcam, i ganol y ffwrn, i chwythu tân arnynt i'w toddi; felly yn fy llid a'm dig y casglaf chwi, ac a'ch gadaw-af yno, ac a'ch toddaf.