Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/803

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

17 Taw a llefain, na wna farwaad; rhwym dy gap am dy ben, a dod dy esgidiau am dy draed, ac na chae ar dy enau, na fwyta chwaith fara dynion.

18 Felly y lleferais wrth y bobl y bore a bu farw fy ngwraig yn yr hwyr? a gwneuthum y bore drannoeth fel y gorchmynasid i mi.

19 y A'r bobl a ddywedasant wrthyfe Oni fynegi i mi beth yw hyn i fiij gah i ti Wneuthur felly?

20 Yna y dywedais wrthynt, Gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

21 Dywed wrth dy Israel, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn halogi fy nghysegr, godidowgrwydd eich nerth, dymuniant eich llygaid, ac anwyl-dra eich enaid: a'ch meibion a'ch merched, y rhai a adawsoch, a syrthiant gan y cleddyf.

22 Ac fel y gwneuthum i, y gwnewch chwithau; ni chaewch ar eich geneuau, ac ni fwytewch fara dynion.

23 Byddwch a'ch capiau am eich pennau, a'ch esgidiau am eich traed: ni alerwch, ac nid wylwch; ond am eich aawiredd y dihoenwch, ac ochneidiwch bob un wrth ei gilydd.

24 Felly y mae Eseciel yn arwydd i chwi: yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe, y gwnewch chwithau: a phan ddelo hyn, tihwi a gewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYOD DDUW.

25 Tithau fab dyn, onid yn y dydd y cymeraf oddi wrthynt eu nerth, llaw-enydd eu gogoniant, dymuniant eu llygaid, ac anwyldra eu henaid, eu meibion a'u merched,

26 Y dydd hwnnw y daw yr hwn a ddihango, atat, i beri i ti ei glywed a'th glustiau?

27 Yn y dydd hwnnw yr agorir dy safn wrth yr hwn a ddihango; lleferi hefyd, ac ni byddi fud mwy: a byddi iddynt yn arwydd; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.


PENNOD 25

1 A GAIR yr ARGLWYDD a ddaeth ataf gan ddywedyd,

2 Ha fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn meibion Ammon, a phroffwyda yn eu herbyn hwynt;

3 A dywed wrth feibion Ammon, Gwrandewch air yr ARGLWYDD DDUW; Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Am ddywedyd ohonot. Ha, ha, yn erbyn fy nghysegr, pan halogwyd; ac yn erbyn tir Israel, pan anrheithiwyd; ac yn erbyn ty Jwda, pan aethant mewn caethglud:

4 Am. hynny wele fi yn dy roddi di yn etifeddiaeth i feibion y dwyrain, fel y gosodant eu palasau ynot, ac y gosodant eu pebyll o'th fewn: hwy a ysant dy ffrwyth, a hwy a yfant dy laeth.

5 Rhoddaf hefyd Rabba yn drigfa camelod, a meibion Ammon yn orweddfa defaid: fel y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.

6 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Oherwydd taro ohonot dy ddwylo, a churo ohonot a'th draed, a llawenychu ohonot yn dy galon a'th holl ddirmyg yn erbyn tir Israel;

7 Am hynny wele, mi a estynnaf fy llaw arnat, ac a'th roddaf yn fwyd i'r cenhedloedd, ac a'th dorrafymaith o fysg y bobloedd, ac a'th ddifethaf o'r tiroedd: dinistriaf di; fel y gwypech mai myfi yw yr ARGLWYDD.

8 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am ddywedyd o Moab a Seir, Wele dy Jwda fel yr holl genhedloedd:

9 Am hynny wele fi yn agori ystlys Moab o'r dinasoedd, o'i ddinasoedd ef y rhai sydd yn ei gyrrau, gogoniant y wlad, Bethjesimoth, Baal-meon, a Ciriathaim,

10 I feibion y dwyrain ynghyd a meibion Ammon, a rhoddafhwynt yn etifeddiaeth; fel na chofier meibion Ammon ymysg y cenhedloedd.

11 Gwnaf farn hefyd ar Moab; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.

12 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am i Edom wneuthur yn erbyh , ty Jwda wrth wneuthur dial, a gwneuthur camwedd mawr, ac ymddial arnynt;

13 Am hynny, medd yr ARGLWYDD DDUW, yr estynnaf finnau fy llaw ar Edom, a thorraf ohoni ddyn ac anifail; a gwnaf hi yn anrhaith