Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/804

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

o Teman; a'r rhai o Dedan a syrthiant gan y cleddyf.

14 A rhoddaf fy nialedd ar yr Edom-iaid trwy law fy mhobl Israel: a hwy a wnant ag Edom yn ôl fy nicllonedd, ac yn ôl fy llid; fel y gwypont fy nialedd, medd yr ARGLWYDD DDUW.

15 y Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am wneuthur o'r Philistiaid trwy ddial, a dialu dial trwy ddirmyg calon, i'w dinistrio am yr hen gas;

16 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn estyn fy llaw ar y Philistiaid, a thorraf ymaith y Cerethiaid, a difethaf weddill porthladd y môr.

17 A gwnaf arnynt ddialedd mawr trwy gerydd llidiog: a chant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan roddwyf fy nialedd arnynt.


PENNOD 26

1 A yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

2 Ha fab dyn, oherwydd dywedyd o Tyrus am Jerwsalem, Aha, torrwyd hi, pyrth y bobloedd: trodd ataf fi: fo'm llenwir; anrheithiedig yw hi:

3 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Wele fi i'th erbyn, O Tyrus, a chodaf genhedloedd lawer i'th erbyn, fel y cyfyd y môr ei donnau.

4 A hwy a ddinistriant geyrydd Tyrus, a'i thyrau a ddinistriant: minnau a grafaf ei llwch ohoni, ac a'i gwnaf yn gopa craig.

5 Yn daenfa rhwydau .y bydd yng nghanol y môr: canys myfi a lefarodd hyn, medd yr ARGLWYDD DDUW: a hi a fydd yn ysbail i'r cenhedloedd.

6 Ei merched hefyd y rhai sydd yn y maes a leddir a'r cleddyf; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.

7 Canys fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Wele fi yn dwyn,ar Tyrusc o'r gogledd, Nebuchodonosor brenin Babilon, brenin brenhinoedd, 'a' meirch ac a cherbydau, ac a marchogion,' a thorfoedd, a phobl lawer.

8 Dy ferched a ladd efe yn y maes a'r cleddyf; ac a esyd wrthglawdd i'th erbyn, ac a fwrw glawdd i'th erbyn, ac 'a gyfyd darian i'th erbyn.

9 Ac efe a esyd beiriannau rhyfel yn erbyn dy geyrydd, a'th dyrau a fwrw efe i lawr a'i fwyeill.

10 Gan amider ei feirch ef, eu llwch a'th doa: dy geyrydd a gynhyrfant gan swn y marchogion, a'r olwynion, a'r cerbydau, pan ddelo trwy dy byrth di, fel dyfod i ddinas adwyog.

11 A charnau ei feirch y sathr efe dy heolydd oil: dy bobl a ladd efe a'r cleddyf, a'th sefyllfannau cedyrn a ddisgyn i'r llawr.

12 A hwy a anrheithiant dy gyfoeth, ac a ysbeiliant dy farchnadaeth; ac a ddin¬istriant dy geyrydd, a'th dai dymunol a dynnant i lawr: a'th gerrig, a'th goed, a'th bridd, a osodant yng nghanol y dyfroedd.

13 Agwnafiswndyganiadaubeidio;ac ni chlywir mwy lais dy delynau.

14 A gwnaf di yn gopa craig: taenfa rbwydau fyddi: ni'th adeiledir mwy: canys myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais, medd yr ARGLWYDD DDUW.

15 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW wrth Tyrus: Oni chryn yr ynysoedd gan swn dy gwymp, pan waeddo yr archolledig, pan ladder lladdfa yn dy ganol?

16 Yna holl dywysogion y môr a ddisgynnant o'u gorseddfeinciau, ac a fwriant ymaith eu mantelloedd, ac a ddiosgant eu gwisgoedd symudliw: dychryn a wisgant, ar y ddaear yr eisteddant, ac a ddychrynant ar bob moment, ac a synnant wrthyt.

17 Codant hefyd alamad amdanat, a dywedant wrthyt. Pa fodd y'th ddifethwyd, yr hon a breswylir gan forwyr, y ddinas ganmoladwy, yr hon oedd gref ar y môr, hi a'i thrigolion, y rhai a roddasant eu harswyd ar ei holl ymdeithwyr hi?

18 Yr awr hon yr ynysoedd a ddychryn¬ant yn nydd dy gwymp; ie, yr ynysoedd y rhai sydd yn y môr a drallodir wrth dy fynediad di ymaith.

19 Canys fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Pan roddwyf