Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/811

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

breswyliant ynddi, yna y cant wybod mai myfi yw yr AR¬GLWYDD.

16 Dyma y galar a alarant amdani hi: merched y cenhedloedd a alarant amdani hi; galarant amdani hi, sef am yr Aifft, ac am ei lliaws oil, medd yr Arglwydd DDUW.

17 Ac yn y ddeuddegfed flwyddyn, ar y pymthegfed dydd o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

18 Cwyna, fab dyn, am liaws yr Aifft, a disgyn hi, hi a merched y cenhedloedd enwog, i'r tir isaf, gyda'r rhai a ddisgyn¬nant i'r pwll.

19 Tecach na phwy oeddit? disgyn a gorwedd gyda'r rhai dienwaededig.

20 Syrthiant yng nghanol y rhai a laddwyd a'r cleddyf: i'r cleddyf y rhodd-wyd hi; llusgwch hi a'i lliaws oil.

21 Llefared cryfion y cedym wrthi hi o ganol uffern gyda'i chynorthwywyr: disgynasant, gorweddant yn ddienwaed¬edig, wedi eu lladd a'r cleddyf.

22 Yno y mae Assur a'i holl gynulleidfa, a'i feddau o amgylch; wedi eu lladd oil, a syrthio trwy y cleddyf.

23 Yr hon y rhoddwyd eu beddau ya' ystlysau y pwll, a'i chynulleidfa ydoedd o amgylch ei bedd; wedi eu lladd oil, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a barasattt arswyd yn nhir y rhai byw.

24 Yno y mae Elam a'i holl liaws 6 amgylch ei bedd, wedi eu lladd oil, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a ddisgynasant yn ddienwaededig i'r tir isaf, y rhai a barasant eu harswyd yn rihir y rhai byw; eto hwy a ddygasant eu gwaradwydd gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.;

25 Yng nghanol y rbai lladdedig y gosodasant iddi wely ynghyd a'i holl liaws; a'i beddau o'i amgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededig, a laddwyd a'r cleddyf: er peri eu harswyd yn nhir y rhai byw, eto dygasant eu gwaradwydd gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll: yng nghanol y lladdedigion y rhoddwyd ef.

26 Yno y mae Mesech, Tubal, a'i hoB liaws; a'i beddau o amgylch: y rhai hyntty oll yn ddienwaededig, wedi eu lladd a'r cleddyf, er peri ohonynt eu harswyd yn nhir y rhai byw.

27 Ac ni orweddant gyda'r cedyrn a syrthiasant o'r rhai dienwaededig, y rhai a ddisgynasant i uffern a'u harfau rhyfel: a rhoddasant eu cleddyfau dan eu pennant eithr eu hanwireddau fydd ar eu hesgym hwy, er eu bod yn arswyd i'r cedym ya nhir y rhai byw.

28 A thithau a ddryllir ymysg y rhai dienwaededig, ac a orweddi gyda'r rhai a laddwyd a'r cleddyf.

29 Yno y mae Edom, a'i brenhinoedd., a'i holl dywysogion, y rhai a roddwyd a'u cadernid gyda'r rhai a laddwyd a'r cleddyf: hwy a orweddant gyda'r rhai dienwaededig, a chyda'r rhai a ddisgyn¬nant i'r pwll.

30 Yno y mae hoil dywysogion y gogledd, a'r holl Sidoniaid, y rhai a ddisgynnant gyda'r lladdedigion; gyda'u harswyd y cywilyddiant am eu cadernid; gorwedd¬ant hefyd yn ddienwaededig gyda'r rhai a laddwyd a'r cleddyf, ac a ddygant eu gwaradwydd gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.

31 Pharo a'u gwel hwynt, ac a ymgysura yn ei holl liaws, Pharo a'i holl lu wedi eii lladd a'r cleddyf, medd yr Arglwydd DDUW.

32 Canys rhoddais fy ofn yn nhir y rhai byw; a gwneir iddo orwedd yng nghanol ' y rhai dienwaededig, gyda lladdedigion y cleddyf, sef i Pharo ac i'w holl liaws, medd yr Arglwydd DDUW.


PENNOD 33

1 A DAETH gair yr ARGLWYDD ataf, gan A- ddywedyd,

2 Llefara, fab dyn, wrth feibion dy bobl, a dywed wrthynt. Pan ddygwyf gleddyf ar wlad, a chymryd o bobl y wlad ryw ŵr o'i chyrrau, a'i roddi yn wyliedydd iddynt:

3 Os gwel efe gleddyf yn dyfod ar y wlad, ac utganu mewn utgorn, a rhy-buddio y bobl;