Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/812

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

4 Yna yr hwn a glywo lais yr utgorn, ac ni chymer rybudd; eithr dyfod o't cleddyf a'i gymryd ef ymaith, ei waed fydd ar ei ben ei hun.

5 Efe a glybu lais yr utgorn, ac ni chymerodd rybudd; ei waed fydd arno: ond yr hwn a gymero rybudd, a wared ei enaid.

6 Ond pan welo y gwyliedydd y cleddyf yn dyfod, ac ni utgana mewn utgorn, a'r bobl heb eu rhybuddio; eithr dyfod o'r cleddyf a chymryd un ohonynt, efe a ddaliwyd yn ei anwiredd, ond mi a ofynnaf ei waed ef ar law y gwyliedydd.

7 Felly dithau, fab dyn, yn wyliedydd y'th roddais i dŷ Israel; fel y clywech air o'm genau, ac y rhybuddiech hwynt oddi wrthyf fi.

8 Pan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Ti annuwiol, gan farw a fyddi farw; oni leferi di i rybuddio yr annuwiol o'i ffordd, yr annuwiol hwn a fydd marw yn ei anwiredd, ond ar dy law di y gofynnaf ei waed ef.

9 Ond os rhybuddi di yr annuwiol o'i ffordd, i ddychwelyd ohoni; os efe ni ddychwel o'i ffordd, efe fydd farw yn ei anwiredd, a thithau a waredaist dy enaid.

10 y Llefara hefyd wrth dy Israel, ti fab dyn, Fcl hyn gan ddywedyd y dywedwch; Os yw cin hanwireddau a'n pechodau arnom, a ninnau yn dihoeni ynddynt, ,pa fodd y byddem ni byw?

11 Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd DDUW, nid ymhoffaf ym marwolaeth yr annuwiol; ond troi o'r annuwiol oddi wrth ei ffordd, a byw: dychwelwch, dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus; canys, ty Israel, paham y byddwch feirw?

12 Dywed hefyd, fab dyn, wrth feibion dy bobl, Cyfiawnder y cyfiawn nis gwared ef yn nydd ei anwiredd: felly am annuw-ioldeb yr annuwiol, ni syrth efe o'i herwydd yn y dydd y dychwelo oddi wrth ei anwiredd; ni ddichon y cyfiawn chwaith fyw oblegid ei gyfiawnder, yn y dydd y pecho.

13 Pan ddywedwyf wrth y cyfiawn, Gan fyw y caiff fyw; os efe a hydera ar ei gyfiawnder, ac a wna anwiredd, ei holl gyfiawnderau ni chofir; ond am ei anwir¬edd a wnaeth, amdano y bydd efe marw.

14 A phan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Gan farw y byddi farw; os dychwel efe oddi wrth ei bechod, a gwneuthur barn a chyfiawnder;

15 Os yr annuwiol a ddadrydd wysti, ac a rydd yn ei ôl yr hyn a dreisiodd, a rbodio yn neddfau y bywyd, heb wneuthur an¬wiredd; gan fyw y bydd efe byw, ni bydd marw:

16 Ni choffeir iddo yr holl bechodau a bechodd: barn a chyfiawnder a wnaeth; efe gan fyw a fydd byw.

17 A meibion dy bobl a ddywedant, Nid yw union ffordd yr ARGLWYCD: eithr eu ffordd hwynt nid yw union. '

18 Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, etc a fydd marw ynddynt.

19 A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei annuwiotdeby a gwneuthuB barn a chyfiawnder, yn y rhai hynny ybydd efe byw.

20 Eto chwi a ddywedwch nad union ffordd yr ARGLWYDD. Barnaf chwi, ty Israel, bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun.

21 y Ac yn y degfed mis o'r ddeuddeg-fed flwyddyn o'n caethgludiad ni, ar y pumed dydd o'r mis, y daeth un a ddianghasai o Jerwsalem ataf fi, gan ddywedyd, Trawyd y ddinas.

22 A llaw yr ARGLWYDD a fuasai arnaf yn yr hwyr, cyn dyfod y dihangydd, ac a agorasai fy safn, nes ei ddyfod atafy bore; ie, ymagorodd fy safn, ac ni bflm fad mwyach.

23 Yna y daeth .gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,:

24 Ha fab dyn, preswylwyr y diffeithwch hyn yn nhir Israel ydynt yn llefaru, gan ddywedyd, Abraham oedd un, ac a feddiannodd y tir; ninnau ydym lawer, i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth.

25 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yr ydych yn bwyta ynghyd a'r gwaed, ac yn dyr-. chafu eich llygaid at eich gau dduwiau, ac yn tywallt gwaed; ac a feddiennwch chwi y tir?