Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/813

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

26 Sefyll yr ydych ar eich cleddyf, gwnaethoch ffieidd-dra, halogasoch hefyd bob un wraig ei gymydog; ac a fedd¬iennwch chwi y tir?

27 Fel hyn y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Fel mai byw fi, trwy y cleddyf y syrth y rhai sydd yn y diffeithwch; a'r hwn sydd ar wyneb y macs, i'r bwystfil y rhoddaf ef i'w fwyta; a'r rhai sydd yn yr amddiffynfeydd ac roewn ogofeydd, a fyddant feirw o'r haint.

28 Canys gwnaf y tir yn anrhaith, ie, yn anrhaith; a balchder ei nerth ef a baid, ac anrheittiir mynyddoedd Israel, heb gyniweirydd ynddynt.

29 A chiint wybod mai myfi yw yr ARGI.WYDD, pan wnclwyt'y tir yn anrhaith, ie, yn unrh.iilli,;nn cu holl ffieidd-dra a wnaethanl. .

30 Tithau fab dyn, meibion dy bwBl sydd yn siarad i'th erbyn wrth y parwydydd, ac o fewn drysau y tai, ac yn dy-wedyd y naill wrth y llall, pob un wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Deuwch, atolwg, a gwrandewch beth yw y gair sydd yn dyfod oddi wrth yr ARGLWYDD.

31 Deuant hefyd atat fel y daw y bobl, ac eisteddant o'th flaen fel fy mhobl, gwrandawant hefyd dy eiriau, ond nis gwnant hwy: canys a'u geneuau y dangosant gariad, a'u calon sydd yn myned ar ôl eu cybydd-dod.

32 Wele di hefyd iddynt fel can cariad un hyfrydlais, ac yn canu yn dda: canys gwrandawant dy eiriau, ond nis gwnant hwynt.

33 A phan ddelo hyn, (wele efyn dyfod,) yna y cant wybod fod proffwyd yn eu mysg.


PENNOD 34

1 A GAIR yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd, .

2 Proffwyda, fab dyn, yn erbyn bugeil-iaid Israel; proffwyda, a dywed wrthynt, wrth y bugeiliaid, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Gwae fugeiliaid Israel y rhai sydd yn eu porthi eu hunain: oni phortha y bugeiliaid y praidd?

3 Y braster a fwytewch, a'r gwlân a wisgwch, y bras a leddwch; ond ni phorthwch y praidd.

4 Ni chryfhasoch y rhai llesg, ac ni feddyginiaethasoch y glaf, ni rwymasoch y ddrylliedig chwaith, a'r gyfeiliornus ni ddygasoch adref, a'r golledig ni cheis-iasoch; eithr llywodraethasoch hwynt a thrais ac a chreulondeb.

5 A hwy a wasgarwyd o eisiau bugail: a buant yn ymborth i holl fwystfilod y maes, pan wasgarwyd hwynt.

6 Fy nefaid a grwydrasant ar hyd yr holl fynyddoedd, ac ar bob bryn uchel: ie, gwasgarwyd fy mhraidd ar hyd holl wyneb y ddaear, ac nid oedd a'u ceisiai, nac a ymofynnai amdanynt.

7 Am hynny, fugeiliaid, gwrandewch air yr ARGLWYDD.

8 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd DDUW, am fod fy mhraidd yn ysbail, a bod fy mhraidd yn ymborth i holl fwyst¬filod y maes, o eisiau bugail, ac na cheis-iodd fy mugeiliaid fy mhraidd, eithr y bugeiliaid a'u porthasant eu hun, ac ni phorthasant fy mhraidd:

9 Am hynny, O fugeiliaid, gwrandewch air yr ARGLWYDD.

10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn erbyn y bugeiliaid: a .gofynnaf fy mhraidd ar eu dwylo hwynt, a gwnaf iddynt beidio a phorthi y praidd; a'r bugeiliaid ni phorthant eu hun mwy: canys gwaredaf fy mhraidd o'u safn hwy, fel na byddont yn ymborth iddynt.

11 Canys fel hyn y dywed yr Ar¬glwydd DDUW, Wele myfi, ie, myfi a ymofynnaf am fy mhraidd, ac a'u ceisiaf hwynt.

12 Fel y cais bugail ei ddiadell ar y dydd y byddo ymysg ei ddefaid gwasgaredig, felly y ceisiaf finnau fy nefaid, ac a'u gwaredaf hwynt o bob lle y gwasgarer hwynt iddo ar y dydd cymylog a thywyll. .

13 A dygaf hwynt allan o fysg y bob-'loedd, a chasglaf hwynt o'r tiroedd, a dygaf hwynt i'w tir eu hun, a phorthaf hwynt ar fynyddoedd Israel wrth yr afonydd, ac yn holl drigfannau y wlad.

14 Mewn porfa dda y porthaf hwynt, ac ar uchel fynyddoedd Israel y bydd eu corlan hwynt: yno y gorweddant mewn corlan