Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/814

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

dda, ie, mewn porfa fras y porant ar fynyddoedd Israel.

15 Myfi a borthaf fy mhraidd, a myfi a'u gorweddfaf hwynt, medd yr Ar¬glwydd DDUW.

16 Y golledig a geisiaf, a'r darfedig a ddychwelaf, a'r friwedig a rwymaf, a'r lesg a gryfhaf: eithr dinistriaf y fras a'r gref; a barn y porthaf hwynt.

17 Chwithau, fy mhraidd, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Wele fi yn barnu rhwng milyn a milyn, rhwng yr hyrddod a'r bychod.

18 Ai bychan gennych bori ohonoch y borfa dda, oni bydd i chwi sathru dan eich traed y rhan arall o'ch porfeydd? ac yfed ohonoch y dyfroedd dyfnion, oni: bydd i chwi sathru y rhan arall a'ch traed?

19 A'm praidd i, y maent yn pori sathrfa eich traed chwi, a mathrfa eich traed a yfant.

20 Am hynny fel hyn y dywed yr .Arglwydd DDUW wrthynt hwy; Wele myfi, ie, myfi a farnaf rhwng milyn bras a milyn cul.

21 Oherwydd gwthio ohonoch ag ystlys ac ag ysgwydd, a chornio ohonoch a'ch cyrn y rhai llesg oil, hyd oni wasgarasoch hwynt allan:

22 Am hynny y gwaredaf fy mhraidd, fel na byddont mwy yn ysbail; a barnaf rhwng milyn a milyn.

23 Cyfodaf hefyd un bugail arnynt, ac efe a'u portha hwynt, sef fy ngwas Dafydd; efe a'u portha hwynt, ac efe a fydd yn fugail iddynt.

24 A minnau yr ARGLWYDD a fyddaf yn DDUW iddynt, a'm gwas Dafydd yn dywysog yn eu mysg: myfi yr AR¬GLWYDD a leferais hyn.

25 Gwnaf hefyd a hwynt gyfamod heddwch, a gwnaf i'r bwystfil drwg beidio o'r tir: a hwy a drigant yn ddiogel yn yr anialwch, ac a gysgant yn y coedydd.

26 Hwynt hefyd ac amgylchoedd fy mryn a wnaf yn fendith: a gwnaf i'r glaw ddisgyn yn ei amser, cawodydd bendith a fydd.

27 A rhydd pren y maes ei ffrwyth, a'r tir a rydd ei gynnyrch, a byddant yn eu tir eu hun mewn diogelwch, ac a gant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan dorrwyf rwymau cu hiau hwynt, a'u gwared hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwasanaeth ganddynt.

28 Ac ni byddant mwyach yn ysbail i'r cenhedloedd, a bwystfil y tir nis bwyty hwynt; eithr trigant mewn diogelwch, ac ni bydd a'u dychryno.

29 Cyfodaf iddynt hefyd bl.inhigyn enwog, ac ni byddant mwy wedi trengi o newyn yn y tir, ac ni ddygant mwy waradwydd y cenhedloedd.

30 Fel hyn y cant wybod mai myfi yr ARGLWYDD eu Duw sydd gyda hwynt, ac mai hwythau, ty Israel, yw fy mhobl i, medd yr Arglwydd DDUW.

31 Chwithau, fy mhraidd, defaid fy mhorfa, dynion ydych chwi, myfi yw eifch Duw chwi, medd yr Arglwydd DDCW.


PENNOD 35

1 ADAETH gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

2 Gosod dy wyneb, fab dyn, tuag at fynydd Seir, a phroffwyda yn ei erbyn,

3 A dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi i'th erbyn di, mynydd Seir; estynnaf hefyd fy llaw i'th erbyn, a gwnaf di yn anghyfannedd, ac yn ddiffeithwch.

4 Gosodaf dy ddinasoedd yn ddiffeith¬wch, a thithau a fyddi yn anghyfannedd; fel y gwypech mai myfi yw yr ARGLWYDD.

5 Am fod gennyt alanastra tragwyddol, a thywallt ohonot waed meibion Israel a min y cleddyf, yn amser eu gofid, yn amser diwedd eu hanwiredd hwynt:

6 Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd DDUW, mi a'th wnafdi yn waed, a gwaed a'th ymlid di: gan na chasei waed, gwaed a'th ddilyn.

7 Gwnaf hefyd fynydd Seir yn anrhaith ac yn ddiffeithwch; a thorraf ymaith ohono yr hwn a elo allan, a'r hwn a ddychwelo.

8 Llanwaf hefyd ei fynyddoedd ef a'i laddedigion: yn dy fryniau, a'th ddyffrynnoedd, a'th holl afonydd, y syrth y rhai a laddwyd a'r cleddyf.

9 Gwnaf di yn anrhaith tragwyddol, a'th ddinasoedd ni ddychwelant; fel y gwy-poch mai myfi yw yr ARGLWYDD.