Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/816

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

mwyach yfl amddifaid, medd yr Arglwydd DDUW. '

15 Ac ni adawaf glywed gwaradwydd y cenhedloedd ynot ti mwy, ni ddygi chwaith warth y cenhedloedd mwyach, ac ni wnei mwy i'th genhedloedd syrthio, medd yr Arglwydd DDUW.

16 Daeth hefyd air yr ARGLWYDB ataf, gan ddywedyd,

17 Ha fab dyn, pan oedd ty Israel yn trigo yn eu tir eu hun, hwy a'i halogasant ef a'u ffordd ac a'u gweithredoedd eu hun; eu ffordd ydoedd ger fy mron i fel aflendid gwraig fisglwyfus.

18 Yna y tywelltais fy llid arnynt, am y gwaed a dywalltasent ar y tir, ac am eu dclwau trwy y rhai yr halogascnt ef;

19 Ac a'u gwasgerais hwynt ymhiith y cenhedloedd, a hwy a chwalwyd ar hyd y gwledydd; yn ôl eu ffyrdd ac yn ôl eu gweithredoedd y bernais hwynt.

20 A phan ddaethant at y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd, pan ddywedid wrthynt, Dyma bobl yr ARGLWYDD, ac o'i wlad ef yr aethant allan.

21 Er hynny arbedais hwynt er mwyn fy enw sanctaidd, yr hwn a halogodd ty Israel ymysg y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt.

22 Am hynny dywed wrth dy Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Nid er eich mwyn chwi, ty Israel, yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, ond er mwyn fy enw sanctaidd, yr hwn a halogasoch chwi ymysg y cenhedloedd lle yr aethocfa.

23 A mi a sancteiddiaf fy enw mawr, yr hwn a halogwyd ymysg y cenhedloedd, yr hwn a halogasoch chwi yn eu mysg hwynt; fel y gwypo y cenhedloedd mai myfi yw yr ARGLWYDD, medd yr Ar¬glwydd DDUW, pan ymsancteiddiwyf ynoch o flaen eich llygaid.

24 Canys mi a'ch cymeraf chwi o fysg y cenhedloedd, ac a'ch casglaf chwi o'r holl wiedydd, ac a'ch dygaf i'ch tir eich hun»

25 Ac a daenellaf arnoch ddwfr glanj fel y byddoch lan: oddi wrth eich holl frynti, ac oddi wrth eich holl eilunod, y glanhaf chwi.

26 A rhoddaf i chwi galon newydd» ysbryd newydd hefyd a roddaf o'ch mewa chwi; a thynnafy galon garreg o'ch cnawd chwi, ac mi a roddaf i chwi galon gig.

27 Rhoddaf hefyd fy ysbryd o'ch mown, a gwnaf i chwi rodio yn fy neddl'au, a chadw fy marnedigaethau, a'u gwneuthur.

28 Cewch drigo hefyd yn y tir a roddais i'ch tadau; a byddwch yn bobl i mi, a roinnau a fyddaf DDUW i chwithau.

29 Achubaf cbwi hefyd oddi wrth eich holl aflendid: a galwaf am yr yd,;ic a'i hamlhaf; ac ni roddaf arnoch nrwyn.

30 Amlhaf hefyd ffrwyth y coed, a chynnyrch y maes, fel na ddygoch mwy waradwydd newyn ymysg y cenhedloedd.

31 Yna y cofiwch eich ffyrdd drygionus, a'cli gweithredoedd nid oeddynt dda, a byddwch yn ffiaidd gennych eich AunaSn am eich anwireddau ac am eich ffieidd-dra.

32 Nid er eich mwyn chwi yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, medd yr Arglwydd DDUW; bydded hysbys i chwi; ty Israel, gwridwch a chywilyddiwch am eich ffyrdd eich hun.

33 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Yn y dydd y glanhawyf chwi o'ch holl anwireddau, y paraf hefyd i chwi gyfanheddu y dinasoedd, ac yr adeiledir yr anghyfaneddleoedd.

34 A'r tir anrheithiedig a goleddir, lle y bu yn anrhaith yng ngolwg pob cyni-weirydd.

35 A hwy a ddywedant, Y tir anrheithiedig hwn a aeth fel gardd Eden, a'r dinasoedd anghyfannedd, ac anrheith¬iedig, a dinistriol, a aethant yn gaerog, ac a gyfanheddir.

36 Felly y cenhedloedd y rhai a weddillir o'ch amgylch, a gant wybod mai myfi yr ARGLWYDD sydd yn adeiladu y lleoedd dinistriol, ac yn plannu eich mannau an¬rheithiedig: myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais, ac a'i gwnaf.

37 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Ymofynnir a myfi eto gan dy Israel, i wneuthur hyn iddynt; amlhaf hwynt dynion fel praidd.

38 Fel y praidd sanctaidd, fel praidd Jerwsalem yn ei huchel wyliau, felly y dinasoedd anghyfannedd fyddant lawn o finteioedd o