Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/817

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ddynion; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.


PENNOD 37

1 BU llaw yr ARGLWYDD arnaf, ac a'm fJ dug allan yn ysbryd yr ARGLWYDD, ac a'm gosododd yng nghanol dyffryn, a liwnnw oedd yn l!awn esgyrn.

2 Ac efe a wnaeth i mi fyned heibio iddynt o amgylch ogylch: ac wele hwynt yn ami iawn ar wyneb y dyffryn; wele hefyd, sychion iawn oeddynt.

3 Ac efe a ddywedodd wrthyf. Ha fab dyn, a fydd byw yr esgym hyn? A mi a ddywedais, O Arglwydd DDUW, ti a'i gwyddost.

4 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Profiwyda am yr esgyrn hyn, a dywed wrthynt, O esgyrn sychion, clywch air yr ARGLWYDD.

5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW wrth yr esgym hyn, Wele fi yn dwyn anadl i'ch mewn, fel y byddoch byw.

6 Giau hefyd a roddaf arnoch, a pharaf i Big gyfodi arnoch, gwisgaf chwi hefyd a chroen, a rhoddaf anadl ynoch: fel y byddoch byw, ac y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.

7 Yna y proffwydais fel y'm gorchmynasid; ac fel yr oeddwn yn proffwydo, bu swn, ac wele gynnwrf, a'r esgyrn a ddaethant ynghyd, asgwrn at ei asgwrn.

8 A phan edrychais, wele, cyfodasai giau a chig arnynt, a gwisgasai croen amdanynt; ond nid oedd anadl ynddynt.

9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Proff¬wyda tua'r gwynt, proffwyda, fab dyn, a dywed wrth y gwynt. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; O anadl, tyred oddi wrth y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, fel y byddont byw.

10 Felly y proffwydais fely'm gorchmynasid; a'r anadl a ddaeth ynddynt, a buant fyw, a safasant ar eu traed, yn llu mawr iawn.

11 Yna y dywedodd wrthyf, Ha fab dyn, yr esgyrn hyn ydynt dy Israel oil: wele, dywedant, Ein hesgyrn a wywasant, a'n gobaith a gollodd, torrwyd ni ymaith o'n rhan ni.

12 Am hynny proffwyda, a dywed wrth¬ynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Wele fi yn agori eich beddau, fy mhobl, codaf chwi hefyd o'ch beddau, a dygaf chwi i dir Israel.

13 A chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan agorwyf eich beddau, a phan gyfodwyf chwi i fyny o'ch beddau, fy mhobl;

14 Ac y rhoddwyf fy ysbryd ynoch, ac y byddoch byw, ac y gosodwyf chwi yn eich tir eich hun: yna y cewch wybod mai myfi yr ARGLWYDD a leferais, ac a wneuthum hyn, medd yr ARGLWYDD.

15 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

16 Tithau fab dyn, cymer i ti un pren, ac ysgrifenna arno, I Jwda, ac i feibion Israel ei gyfeillion. A chymer i ti bren arall, ac ysgrifenna arno, I Joseff, pren Effraim, ac i holl dy Israel ei gyfeillion:

17 A chydia hwynt y naill wrth y llall yn un pren i ti; fel y byddont yn un yn dy law di.

18 f A phan lefaro meibion dy bobl wrthyt, gan ddywedyd, Oni fynegi i ni beth yw hyn gennyt?

19 Dywed wrthynt. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn cymryd pren Joseff, yr hwn sydd yn llaw Effraim, a llwythau Israel ei gyfeillion, a mi a'u rhoddaf hwynt gydag ef, sef gyda phren Jwda, ac a'u gwnaf hwynt yn un pren, fel y byddont yn fy llaw yn un.

20 y A bydded yn dy law, o flaen eu llygaid hwynt, y prennau yr ysgrifennych arnynt;

21 A dywed wrthynt. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn cymryd meibion Israel o fysg y cenhedloedd yr aethant atynt, ac mi a'u casglaf hwynt o amgylch, ac a'u dygaf hwynt i'w tir eu hun;

22 A gwnaf hwynt yn un genedl o fewn y tir ym mynyddoedd Israel, ac un brenin fydd yn frenin iddynt oil: ni byddant hefyd mwy yn ddwy genedl, ac ni rennir hwynt mwyach yn ddwy frenhiniaeth:

23 Ac ni ymhalogant mwy wrth eu heilunod, na thrwy eu ffieidd-