Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/818

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

dra, nac yn eu holl anwireddau: eithr cadwaf hwynt o'u holl drigfaon, y rhai y pechasant ynddynt, a mi a'u glanhaf hwynt; fel y byddont yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwythau.

24 A'm gwas Dafydd fydd frenin arnynt; ie, un bugail fydd iddynt oil: yn fy marnedigaethau hefyd y rhodiant, a'm deddfau a gadwant ac a wnant.

25 Trigant hefyd yn y tir a roddais i'm gwas Jacob, yr hwn y trigodd eich tadau ynddo; a hwy a drigant ynddo, hwy a'u meibion, a meibion eu meibion byth; a Dafydd fy ngwas fydd dywysog iddynt yn dragywydd.

26 Gwnaf hefyd a hwynt gyfamod hedd; amod tragwyddol a fydd;. a hwynt: a gosodaf hwynt, ac a'u hamlhaf, a rhoddaf maestrefydd; af at y rhai llonydd, y rhai fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragy¬wydd.

27 A'm tabernad fydd gyda hwynt; ie, myfi a fyddaf iddynt yn DDUW, a hwythau a fyddant i mi yn bobl.

28 A'r cenhedloedd a gant wybod mai myfi yr ARGLWYDD sydd yn sancteiddio Israel; gan fod fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd.


PENNOD 38

1 A GAIR yr ARGLWYDD a ddaeth ytaf, gan ddywedyd,

2 Gosod dy wyneb, fab dyn, yn erbyn Gog, tir Magog, pen-tywysog Mesech a Thubal, a phroffwyda yn ei erbyn,

3 A dywed, Fel hyn y dywed yr Ar¬glwydd DDUW; Wele fi yn dy erbyn di, Gog, pen-tywysog Mesech a Thubal.

4 Dychwelaf di hefyd, a rhoddaf fachau yn dy fochgernau, a mi a'th ddygaf allan, a'th holl lu, y meirch a'r marchogion, wedi eu gwisgo i gyd a phob rhyw arfau, yn gynulleidfa fawr a tharianau ac estylch, hwynt oll yn dwyn cleddyfau:

5 Persia, Ethiopia, a Libya, gyda hwynt; hwynt oll yn dwyn tarian a helm:

6 Gomer a'i holl fyddinoedd; ty Togarma o ystlysau y gogledd, a'i holl fyddinoedd; a phobl lawer gyda thi.

7 Ymbaratoa, ie, paratoa i ti dy hun, ti a'th holl gynulleidfa y rhai a ymgynullasant atat, a bydd yn gadwraeth iddynt.

8 Wedi dyddiau lawer yr ymwelir a thi; yn y Mynyddoedd diwethaf y deui i dir wedi ei ddwyn yn ei ôl oddi wrth y cleddyf, wedi ei gasglu o bobloedd lawer yn erbyn mynyddoedd Israel, y rhai a fuant yn anghyfannedd bob amser: eithr efe a ddygwyd allan o'r bobloedd, a hwynt oll a drigant mewn diogelwch.

9 Dringi hefyd fel tymesti; deui, a byddi fel cwmwl i guddio y ddaear, ti a'th holl fyddinoedd, a phobloedd lawer gyda thi.

10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Bydd hefyd yn y dydd hwnnw i bethau ddyfod i'th feddwl, a thi a feddyli feddwl drwg.

11 A thi a ddywedi. Mi a af i fyny i wlad sydd yn preswylio yn ddiogel, gan drigo oll heb gaerau, ac heb drosolion na dorau iddynt,

12 I ysbcilio ysbail, i ysglyfaethu ysglyfaeth, i ddychwelyd dy law ar anghyf-aneddleoedd, y rhai a gyfanheddir yr awr hon, ac ar y bobl a gasglwyd o'r cenhed¬loedd, y rhai a ddarparasant anifeiliaid a golud, ac ydynt yn trigo yng nghanol y wlad.

13 Seba, a Dedan, a marchnadyddion Tarsis hefyd, a'u holl lewod ieuainc, a ddywedant wrthyt, Ai i ysbeilio ysbail y daethost ti? ai i ysglyfaethu ysglyfaeth y cesglaist y gynulleidfa? ai i ddwyn ymaith arian ac aur, i gymryd anifeiliaid a golud, i ysbeilio ysbail fawr?

14 y Am hynny proffwyda, fab dyn, a dywed wrth Gog, Fel hyn y dywed y? Arglwydd DDUW; Y dydd hwnnw, pac breswylio fy mhobl Israel yn ddiofal, om chei di wybod?

15 A thi a ddeui o'th fangre dy hun u ystlysau y gogledd, ti, a phobl lawer gyd; thi, hwynt oll yn marchogaeth ar feirchJ yn dyrfa fawr, ac yn llu Iluosog.

16 A thi a ei i fyny yn erbyn fy mhobl Israel, fel cwmwl i guddio y ddaear: yr y dyddiau diwethaf y bydd hyn; a m. a'th ddygaf yn erbyn fy nhir, fel yi adwaeno y cenhedloedd fi, pan ymsancteidd