Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/819

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

iwyf ynot ti, Gog, o flaen eu llygaid hwynt.

17 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Ai tydi yw yr hwn y lleferais amdano yn y dyddiau gynt, trwy law fy ngweision, proffwydi Israel, y rhai a broffwydasant y dyddiau hynny flynyddoedd lawer, y dygwn di yn eu herbyn hwynt?

18 A bydd yn y dydd hwnnw, yn y dydd y delo Gog yn erbyn tir Israel, medd yr Arglwydd DDUW, i'm llid gyfodi yn fy soriant.

19 Canys yn fy eiddigedd, ac yn angerdd fy nicllonedd y dywedais, Yn ddiau bydd yn y dydd hwnnw ddychryn mawr yn nhir Israel;

20 Fel y cryno pysgod y môr, ac ehediaid y nefoedd, a bwystfilod y maes, a phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a phob dyn ar wyneb y ddaear, ger fy mron i; a'r mynyddoedd a ddryllir i lawr, a'r grisiau a syrthiant, a phob mur a syrth i lawr.

21 A mi a alwaf am gleddyf yn ei erbyn trwy fy holl fynyddoedd, medd yr Arglwydd DDUW: cleddyf pob un fydd yn erbyn ei frawd.

22 Mi a ddadleuaf hefyd yn ei erbyn ef & haint ac a gwaed: glawiaf hefyd guriaw, a cherrig cenllysg, tân a brwmstan, arno ef, ac ar ei holl fyddinoedd, ac ar y bob-loedd lawer sydd gydag ef.

23 Fel hyn yr ymfawrygaf, ac yr ymsancteiddiaf; a pharaf fy adnabod yng ngolwg cenhedloedd lawer, fel y gwy-pont mai myfi yw yr ARGLWTOD.


PENNOD 39

1 Proffwyda hefyd, fab dyn, yn erbyn Gog, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn dy erbyn di, Gog, pen-tywysog Mesech a Thubal.

2 A mi a'th ddychwelaf, ac ni adawaf ohonot ond y chweched ran, ac a'th ddyg-af i fyny o ysdysau y gogledd, ac a'th ddygafar fynyddoedd Israel:

3 Ac a drawaf dy fwa o'th law aswy, a gwnafi'th saethau syrthio o'th law ddeau.

4 Ar fynyddoedd Israel y syrthi, tt a'th holl fyddinoedd, a'r bobloedd sydd gyda thi: i'r ehediaid, i bob rhyw aderyn, ac i fwystfilod y maes, y'th roddaf i'th ddifa.

5 Ar wyneb y maes y syrthi; canys myfi a'i dywedais, medd yr Arglwydd DDUW.

6 Anfonaf hefyd dan ar Magog, ac ymysg y rhai a breswyliant yr ynysoedd yn ddifraw; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.

7 Felly y gwnaf adnabod fy enw sancr-sddd yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni adawaf halogi fy enw sanctaidd rowy; a'r cenhedloedd a gant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, y Sanct yn Israel.

8 Wele efe & ddaeth, ac a ddarfu, medd yr Arglwydd DDUW; dyma y diwrnod am yr hwn y dywedais.

9 A phreswylwyr dinasoedd Israel a ânt allan, ac a gyneuant ac a losgant yr arfau, a'r darian a'r astalch, y bwa a'r saethau, a'r llawffon a'r waywffbn; ie, Uosgant hwynt yn tân saith mlynedd.

10 Ac ni ddygant goed o'r maes, ac ni thorrant ddim o'r coedydd; canys a'r arfau y cyneuant dan: a hwy a ysbeiliaat eu hysbeilwyr, ac a ysglyfaethant oddi ar eu hysglyfaethwyr, medd yr Arglwydd DDUW.

11 Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i mi roddi i Gog Ie bedd yno yn Israel, dyffryn y fforddolion o du dwyrain y môr: ac efe a gae ffroenau y fforddolion: ac yno y claddant Gog a'i holl dyrfa, a galwant ef Dyffryn Hamon-gog.

12 A thŷ Israel fydd yn eu claddu hwynt saith mis, er mwyn glanhau y tir.

13 Ie, holl bobl y tir a'u claddant; a hyn fydd enwog iddynt y dydd y'm gogonedder, medd yr Arglwydd DDOW.

14 A hwy a neilltuant wyr gwastadol, y rhai a gyniweiriant trwy y wlad i gladdu gyda'r fforddolion y rhai a adawyd ar wyneb y ddaear, i'w glanhau hi: ymhen saith mis y chwiliant.

15 A'r tramwywyr a gyniweiriant trwy y tir, pan welo un asgwrn dyn, efe a gyfyd nod wrtho, hyd oni chladdo y claddwyr ef yn nyffryn Hamon-gog.

16 Ac enw y ddinas hefyd fydd