Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/820

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Hamona. Felly y glanhant y wlad.

17 Tithau fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Dywed wrth bob rhyw aderyn, ac wrth holl fwystfilod y maes, Ymgesglwch, a deuwch; ymgynullwch oddi amgylch at fy aberth yi ydwyf fi yn ei aberthu i chwi, aberth mawr ar fynyddoedd Israel, fel y bwyt-aoch gig, ac yr yfoch waed.

18 Cig y cedyrn a fwytewch, a chwi a yfwch waed tywysogion y ddaear, hyrddod, wyn, a bychod, bustych, yn basgedigion Basan oil.

19 Bwytewch hefyd fraster hyd ddigon, ac yfwch waed hyd oni feddwoch, o'tn haberth a aberthai& i chwL

20 Felly y'ch diwellir ar fy mwrdd i a meirch a cherbydau, a gwyr cedyrn a phob rhyfelwr, medd yr Arglwydd DDUW.

21 A gosodaf fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a'r holl genhedloedd a gant weled fy marnedigaeth yr hon a wneuthum, a'm llaw yr hon a osodais arnynt.

22 A thŷ Israel a gant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eu Duw hwynt o'r dydd hwnnw allan.

23 Y cenhedloedd hefyd a gant wybod mai am eu hanwiredd eu nun y caethgludwyd ty Israel: oherwydd gwneuthur ohonynt gamwedd i'm herbyn, am hynny y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt, ac y rhoddais hwynt yn llaw eu gelynion: felly hwy a syrthiasant oll trwy y cleddyf.

24 Yn ôl eu haflendid eu nun, ac yn ôl eu hanwireddau, y gwneuthum a hwynt, ac y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt.

25 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Yr awr hon y dy-chwelaf gaethiwed Jacob, tosturiaf hefyd wrth holl dy Israel, a gwynfydaf dros fy enw sanctaidd;

26 Wedi dwyn ohonynt eu gwarad-wydd, a'u holl gamweddau a wnaethant i'm herbyn, pan drigent yn eu tir eu hun yn ddifraw, a heb ddychrynydd.

27 Pan ddychwelwyf hwynt oddi wrth y bobloedd, a'u casglu hwynt o wiedydd eu gelynion, ac y'm sancteiddier ynddynt yng ngolwg cenhedloedd lawer;

28 Yna y cant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eu Duw hwynt, yr hwn a'u caethgludais hwynt ymysg y cenhed¬loedd, ac a'u cesglais hwynt i'w tir eu hun, ac ni adewais mwy un ohonynt yno.

29 Ni chuddiaf chwaith fy wyneb mwy oddi wrthynt: oherwydd tywelltais fy ysbryd ar dy Israel, medd yr Arglwydd DDUW.


PENNOD 40

1 YN y burned flwyddyn ar hugain o'n caethgludiad ni, yn nechrau y flwyddyn, ar y dcgted dydd o'r mis, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddcg wedi taro y ddinas, o fewn corff y dydd hwnnw y daeth llaw yr ARGLWYDD amaf, at; a'm dug yno. ,

2 Yng ngweledigaethau Duw y dtig efe fi i dir Israel, ac a'm gosododd at fynydd uchel iawn, ac amo yr oedd megii adail dinas o du y deau.

3 Ac efe a'm dug yno: ac wele ŵr a'? welediad fel gwelediad pres, ac yn ei law linyn Um, a chorsen fesur: ac yr ydoedd efe yn sefyll yn y porth.

4 A dywedodd y gŵr wrthyf. Ha fab dyn, gwel a'th lygaid, gwrando hefyd a'th glustiau, a gosod dy galon ar yr hyn oll a ddangoswyf i tx: oherwydd er mwyn dangos i ti hyn y'th ddygwyd yma: mynega i dŷ Israel yr hyn oll a well.

5 Ac wele fur o'r tu allan i'r ty o amgylch ogylch: a chorsen fesur yn llaw y gŵr, yn chwe chufydd o hyd, wrth gufydd a dyrnfedd: ac efe a fesurodd led yr adeiladaeth yn un gorsen, a'r uchder yn un gorsen.

6 Ac efe a ddaeth i'r porth oedd a'i wyneb tua'r dwyrain, ac a ddringodd ar hyd ei risiau ef, ac a fesurodd riniog y porth yn un gorsen o led, a'r rhiniog arall yn un gorsen o led.

7 A phob ystafell oedd un gorsen o hyd, ac un gorsen o led: a phum cufydd oedd rhwng yr ystafelloedd: a rhiniog y porth, wrth gyntedd y porth o'r tu mewn, oedd un gorsen.

8 Efe a fesurodd hefyd gyntedd y porth oddi fewn, yn un gorsen.