9 Yna y mesurodd gyntedd y porth yn wyth gufydd, a'i byst yn ddau gufydd, a chyntedd y porth oedd o'r tu mewn.
10 Ac ystafelloedd y porth tua'r dwy-rain oedd dair o'r tu yma, a thair o'r tu acw; un fesur oeddynt ill tair: ac un mesur oedd i'r pyst o'r tu yma ac o'r tu acw.
11 Ac efe a fesurodd led drws y porth yn ddeg cufydd, a hyd y porth yn dri chufydd ar ddeg.
12 A'r terfyn o flaen yr ystafelloedd oedd un cufydd o'r naill du, a'r terfyn o'r tu arall yn un cufydd; a'r ystafelloedd oedd chwe chufydd o'r tu yma, a chwe chufydd o'r tu acw.
13 Ac efe a fesurodd y porth o nen y naill ystafell hyd nen un arall, yn bum cufydd ar hugain o led, drws ar gyfer drws.
14 Ac efe a wnaeth byst o drigain cufydd, a hynny hyd host y cyntedd, o amgylch ogylch y porth.
15 Ac o wyneb porth y dyfodiad i mewn, hyd wyneb cyntedd y porth oddi mewn, yr oedd deg cufydd a deugaui.
16 A ffenestri cyfyng oedd i'r ystafell¬oedd, ac i'w pyst o fewn y porth o am¬gylch ogylch; ac felly yr oedd i'r bwau meini: a ffenestri oedd o amgylch ogylch o fewn; ac yr oedd palmwydd ar bob post.
17 Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf allan, ac wele yno ystafelloedd, a phal-mant wedi ei wneuthur i'r cyntedd o amgylch ogylch; deg ystafell ar hugain oedd ar y palmant.
18 A'r palmant gan ystlys y pyrth ar gyfer hyd y pyrth, oedd y palmant oddi tanodd.
19 Ac efe a fesurodd y lled o wyneb y porth isaf hyd wyneb y cyntedd oddi fewn, yn gan cufydd oddi allan tua'r dwyrain a'r gogledd.
20 A'r porth yr hwn oedd a'i wyneb tua'r gogledd, ar y cyntedd nesaf allan, a fesurodd efe, ei hyd a'i led.
21 A'i ystafelloedd ef oedd dair o'r tu yma, a thair o'r tu acw; ac yr ydoedd ei byst, a'i fwau meini, wrth fesur y porth cyntaf, yn ddeg cufydd a deugain eu hyd, a'r lled yn bum cufydd ar hugain.
22 Eu ffenestri hefyd, a'u bwau meini, a'u palmwydd, oedd wrth fesur y porth oedd a'i wyneb tua'r dwyrain; ar hyd saith o risiau hefyd y dringent iddo; a'i fwau meini oedd o'u blaen hwynt.
23 A phorth y cyntedd nesaf i mewn oedd ar gyfer y porth tua'r gogledd, a thua'r dwyrain: ac efe a fesurodd o borth i borth gan cufydd.
24 Wedi hynny efe a'm dug i tua'r deau, ac wele borth tua'r deau, ac efe a fesurodd ei byst a'i fwau meini wrth y mesurau hyn.
25 Ffenestri hefyd, oedd iddo ac i'w fwau meini, o amgylch ogylch, fel y ffenestri hynny, yn ddeg cufydd a deu¬gain o hyd, ac yn bum cufydd ar hugain o led.
26 Saith o risiau hefyd oedd ei esgynfa ef, a'i fwau meini o'u blaen hwynt: yr oedd hefyd iddo balmwydd, un o'r tu yma, ac un o'r tu acw, ar ei byst ef.
27 Ac yr oedd porth yn y cyntedd nesaf i mewn tua'r deau: ac efe a fesurodd o borth i borth, tua'r deau, gan cufydd.
28 Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf i mewn trwy borth y deau: ac a fesurodd borth y deau wrth y mesurau hyn;
29 A'i ystafelloedd, a'i byst, a'i fwau meini, wrth y mesurau hyn; ac yr oedd ffenestri ynddo, ac yn ei fwau meini, o amgylch ogylch: deg cufydd a deugain oedd yr hyd, a phum cufydd ar hugain y lled.
30 A'r bwau meini o amgylch ogylch oedd bum cufydd ar hugain o hyd, a phum cufydd o led.
31 A'i fwau meini oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst; ac wyth o risiau oedd ei esgynfa ef.
32 Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf i mewn tua'r dwyrain: ac a fesurodd y porth wrth y mesurau hyn.
33 A'i ystafelloedd, a'i byst, a'i fwau meini, oedd wrth y mesurau hyn: ac yr oedd ffenestri ynddo ef, ac yn ei fwau meini, o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a'r lled yn bum cufydd ar hugain.
34 A'i fwau meini oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst o'r tu yma, ac o'r