Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/822

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

tu acw; a'i esgynfa oedd wyth o risiau.

35 y Ac efe a'm dug i borth. y gogledd, ac a'i mesurodd wrth y mesurau hyn:

36 Ei ystafelloedd, ei byst, a'i fwau meini, a'r ffenestri iddo o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a'r lled oedd bum cufydd ar hugain.

37 A'i byst oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd ar ei byst o'r tu yma, ac o'r tu acw; a'i esgynfa oedd wyth o risiau.

38 A'r celloedd a'u drysau oedd wrth byst y pyrth, lle y golchent y poethoffrwm.

39 Ac yng nghyntedd y porth yr oedd dau fwrdd o'r tu yma, a dau fwrdd o'r tu acw, i ladd y pocthoffrwm, a'r pech-aberth, a'r aberth dros gamwedd, arnynt.

40 Ac ar yr ystlys oddi allan, lle y dringir i ddrws porth y gogledd, yr oedd dau fwrdd; a dau fwrdd ar yr ystlys arall, yr hwn oedd wrth gyntedd y porth.

41 Pedwar bwrdd oedd o'r tu yma, a phedwar bwrdd o'r tu acw, ar ystlys y porth; wyth bwrdd, ar y rhai y lladdent eu haberthau.

42 A'r pedwar bwrdd i'r poethoffrwm oedd o gerrig nadd, yn un cufydd a hanner o hyd, ac yn un cufydd a hanner o led, ac yn un cufydd o uchder: arnynt hwy hefyd y gosodent yr offer y rhai y lladdent yr offrwm poeth a'r aberth .It: : hwynt.

43 Hefyd yr oedd bachau, o un ddymfedd, wedi eu paratoi o fewn, o amgylch ogylch: a chig yr offrwm oedd ar y byrddau.

44 Ac o'r tu allan i'r porth nesaf i mewn yr oedd ystafelloedd y cantorion o fewn y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn oedd ar ystlys porth y gogledd; a'u hwynebau oedd tua'r deau: un oedd ar ystlys porth y dwyrain, a'i wyneb tua'r gogledd.

45 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr ystafell hon, yr hon sydd a'i hwyncb tua'r deau, sydd i'r offeiriaid, ceidwaid cadwraeth y ty.

46 A'r ystafell yr hon sydd a'i hwyneb tua'r gogledd, sydd i'r offeiriaid, ceidwaid cadwraeth yr allor: y rhai hyn yw meibion Sadoc, y rhai ydynt o feibion Lefi, yn nesau at yr ARGLWYDD i weini iddo.

47 Felly efe a fesurodd y cyntedd, yn gan cufydd o hyd, ac yn gan cufydd o led, yn bedeirongi; a'r allor oedd o flaen y ty.

48 Ac efe a'm dug i borth y tŷ, ac. a fesurodd bob post i'r porth, yn bum cufydd o'r naill du, ac yn bum cufydd o'r tu arall: a lled y porth oedd dri chufydd o'r naill du, a thri chufydd o'r tu arall.

49 Y cyntedd oedd ugain cufydd o hyd, ac un cufydd ar ddeg o led: ac efe a'm dug ar hyd y grisiau ar hyd y rhai y dringent iddo: hefyd yr ydoedd colofnau wrth y pyst, un o'r naill du, ac un o'r tu arall.


PENNOD 41

1 A efe a'm dug i i'r deml, ac a fesurodd y pyst yn chwe chufydd o led o'r naill du, ac yn chwc chufydd o led o'r tu arall, fel yr oedd lled y babell.

2 Lled y drws hefyd oedd ddeg cufydd; ac ystlysau y drws yn bum cufydd o'r naill du, ac yn bum cufydd o'r tu arall: ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ddeugain cufydd, a'r lled yn ugain cufydd.

3 Ac efe a aeth tuag i mewn, ac a fesurodd bost y drws yn ddau gufydd, a'r drws yn chwe chufydd, a lled y drws yn saith gufydd.

4 Ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ugain cufydd; a'r lled yn ugain cufydd o flaen y deml: ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y cysegr sancteiddiolaf.

5 Ac efe a fesurodd bared y ty yn chwe chufydd; a lled pob ystlysgell yn bedwar cufydd o amgylch ogylch i'r ty.

6 A'r celloedd oedd dair, cell ar gell, ac yn ddeg ar hugain o weithiau: ac yr oeddynt yn cyrhaeddyd at bared y ty yr hwn oedd i'r ystafelloedd o amgylch ogylch, fel y byddent ynglyn; ac nid oeddynt ynglyn o fewn pared y ty.

7 Ac fe a ehangwyd, ac oedd yn myned ar dro uwch uwch i'r celloedd: oherwydd tro y ty oedd yn myned i fyny o amgylch y ty: am hynny y ty oedd ehangach oddi amodd; ac felly y dringid o'r isaf i'r uchaf trwy y ganol.

8 Gwelais hefyd uchder y ty o amgylch ogylch: seiliau y celloedd