Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/823

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

oedd gorsen helaeth o chwe chufydd mawrion.

9 A thcwder y mur yr hwn oedd i'r gell o'r tu allan, oedd bum cufydd; a'r gweddill oedd Ie i'r celloedd y rhai oedd o fewn.

10 A rhwng yr ystafelloedd yr oedd lled ugain cufydd ynghylch y ty o amgylch ogylch.

11 A drysau yr ystlysgell oedd tua'r llannerch weddill; un drws tua'r gogledd, ac un drws tua'r deau: a lled y fan -a weddillasid oedd bum cufydd o amgylch ogylch.

12 A'r adeiladaeth yr hon oedd o flaen y llannerch neilltuol, ar y cwr tua'r gorilewin, oedd ddeg cufydd a thri-gain o led; a mur yr adeiladaeth oedd bum cufydd o dewder o amgylch ogylch, a'i hyd oedd ddeg cufydd a phedwar ugain.

13 Ac efe a fesurodd y tŷ, yn gan cufydd o hyd; a'r llannerch neilltuol, a'r adeiiadaeth, a'i pharwydydd, yn gan cufydd o hyd.

14 A lled wyneb y tŷ, a'r llannerch neilltuol tua'r dwyrain, oedd gan cufydd.

15 Ac efe a fesurodd hyd yr adeiladaeth ar gyfer y llannerch neilltuol yr hon oedd o'r tu cefn iddo, a'i ystafelloedd o'r naill du, ac o'r tu arall, yn gan cufydd, gyda'r deml oddi fewn, a drysau y cyntedd.

16 Y gorsingau, a'r ffenestri cyfyng, a'i ystafelloedd o amgylch ar eu tri uchder» ar gyfer y rhiniog a ystyllenasid a choed o amgylch ogylch, ac o'r llawr hyd y ffenestri, a'r ffenestri hefyd a ystyllen¬asid,

17 Hyd uwchben y drws, a hyd y ty o fewn ac allan, ac ar yr holl bared o amgylch ogylch o fewn ac allan, wrth fesurau.

18 A cheriwbiaid hefyd ac a phalmwydd y gweithiasid ef, palmwydden rhwng pob dau geriwb: a dau wyneb oedd i bob ceriwb.

19 Canys wyneb dyn oedd tua'r balm-wydden o'r naill du, ac wyneb Hew tua'r balmwydden o'r tu arall: yr oedd wedi ei weithio ar hyd y ty o amgylch ogylch.

20 Ceriwbiaid a phalmwydd a weithiasid o'r ddaear hyd oddi ar y drws, ac ar bared y deml.

21 Pedwar ochrog oedd pyst y derol, ac wyneb y cysegr; gwelediad y naill fel gwelediad y llall.

22 Yr allor bren oedd dri chufydd ei huchdcr, a'i hyd yn ddau gufydd: a'i chonglau, a'i huchdei, a'i pharwydydd, oedd o bren. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y bwrdd sydd gerbron yr ARGLWYDD.

23 Ac yr ydoedd daa ddrws i'r deml ac i'r cysegr:

24 A dwy ddor i'r drysau, sef dwy ddor blygedig; dwy ddor i'r naill ddrws, a dwy ddor i'r llall.

25 A gwnaethid arnynt, ar ddrysau y deml, geriwbiaid a phalmwydd, fel y gwnaetbid ar y parwydydd: ac yr oedd trawstiau coed ar wyneb y cyntedd o's tu allan.

26 Ffenestri cyfyng hefyd a phalmwydd oedd o bob tu, ar ystlysau y portb, ac ar ystafelloedd y tŷ, a'r trawstiau.


PENNOD 42

1 A efe a'ai dug i'r cyntedd nesaf allan, y ffordd tua'r gogledd; ac a'm dug i'r ystafell oedd ar gyfer y llannerch neilltuol, yr hon oedd ar gyfer yr adail tua'r gogledd.

2 Drws y gogledd oedd ar gyfer hyd y can cufydd, a lled y deg cufydd a deugain,

3 Ar gyfer yr ugain cufydd y rhai oedd i'r cyntedd nesaf i mewn, ac ar gyfer y palmant yr hwn oedd i'r cyntedd nesaf allan, yr ydoedd ystafell ar gyfer ystafeU yn dri uchder.

4 Ac o flaen yr ystafelloedd yr oedd rhodfa yn ddeg cufydd o led oddi fewn, ffordd o un cufydd, a'u drysau tua'r gogledd.

5 A'r ystafelloedd uchaf oedd gulion: oherwydd yr ystafelloedd oeddynt uwca na'r rhai hyn, na'r rhai isaf ac na'r rhai canol o'r adeiladaeth.

6 Canys yn dri uchder yr oeddynt hwy, ac heb golofnau iddynt fel colofnau y cynteddoedd: am hynny yr oeddynt hwy yn gyfyngach na'r rhai isaf ac na'r rhai canol o'r llawr i fyny.

7 A'r mur yr hwn oedd o'r tu allan ar gyfer yr ystafelloedd, tua'r cyntedd nesaf allan o flaen yr ystafelloedd, oedd ddeg cufydd a deugam ei hyd.

8 Oherwydd hyd yr ystafelloedd y rhai oedd yn y cyntedd nesaf