Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/824

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

allan oedd ddeg cufydd a deugam: ac wele,-o fiaen y deml yr oedd can cufydd.

9 Ac oddi tan yr ystafeHoedd hyn yr ydoedd mynediad i mewn o du y dwy¬rain, ffordd yr elid iddynt hwy o'r cyn¬tedd nesaf allan.

10 O fewn tewder mur y cyntedd tua'r dwyrain, ar gyfer y llannerch neilltuol, ac ar gyfer yr adeiladaeth, yt oedd yr ystafelloedd.

11 A'r ffordd o'u blaen hwynt oedd fel gwelediad yr ystafelloedd y rhai oedd tua'r gogledd; un hyd a hwynt oeddynt, ac un lled a hwynt: a'u holl fynediad allan oedd yn ôl eu dull hwynt, ac yn ôl eu drysau hwynt.

12 Ac fel drysau yr ystafelloedd y rhai oedd tua'r deau, yr oedd drws ym mhen y ffordd, y ffordd ym mhen y mur yn union tua'r dwyrain, yn y ddyfodfa i mewn.

13 H Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y deau, y rhai sydd ar gyfer y llannerch neilltuol, ystafelloedd sanctaidd yw y rhai hynny, lle y bwyty yr offeiriaid y rhai a nesant at yr ARGLWYDD, y pethau sanct¬aidd cysegredig: yno y gosodant y sanct¬aidd bethau cysegredig, a'r bwyd-of&wifl, a'r pech-aberth, a'r aberth dros gamwedd; canys y lle sydd sanctaidd.

14 A phan elo yr offeiriaid i mewn iddynt, nid ânt allan o'r cysegr i'r cyntedd nesaf allan, eithr yno y gosodant eu dillad y rhai y gwasanaethant ynddynt, am eu bod yn sanctaidd; ac a wisgarit wisgoedd eraill, ac a nesant at yr hyn a berthyn i'r bobl.

15 Pan orffenasai efe fesuro y ty oddi fewn, efe a'm dug i tua'r porth sydd a'i wyneb tua'r dwyrain, ac a'i mesurodd efp amgylch ogylch.

16 Efe a fesurodd du y dwyrain SL chorsen fesur, yn bum cant o gorsennau, wrth y gorsen fesur oddi amgylch.

17 Efe a fesurodd du y gogledd yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur oddi amgylch.

18 Y tu deau a fesurodd efe yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur.

19 Efe a aeth o amgylch i du y gorllewin, ac a fesurodd bum can corsen, wrth y goisen fesur.

20 Efe a fesurodd ei bedwar ystlys ef: mur oedd iddo ef o amgylch ogylch, yn bum can corsen o hyd, ac yn bum can corsen o led, i wahanu rhwng y cysegr a'r digysegr.


PENNOD 43

1 A efe a'm dug i'r porth, sef y porth sydd yn edrych tua'r dwyrain.

2 Ac wele ogoniant Duw Israel yn dyfod o ffordd y dwyrain; a'i lais fel swn dyfroedd lawer, a'r ddaear yn disgleirio o'i ogoniant ef.

3 Ac yr oedd yn ôl gwelediad y weledigaeth a welais, sef yn ôl y weledigaeth a welais pan ddeuthum i ddifetha y ddinas; a'r gweledigaethau oedd fel y weledigaeth a welswn wrth afon Chebar: yna y syrthiais ar fy wyneb.

4 A gogoniant yr ARGLWYDD a ddaeth i'r ty ar hyd ffordd y porth sydd a'i wyneb tua'r dwyrain.

5 Felly yr ysbryd a'm cododd, ac a'M dug i'r cyntedd nesaf i mewn; ac wele, llanwasai gogoniant yr ARGLWYDD y ty;

6 Clywn ef befyd yn llefaru wrthyf o'r ty; ac yr oedd y gŵr yn sefyll yn fy ymyl.

7 Ac efe a ddywedodd wrthyf. Ha fab dyn, dyma Ie fy ngorseddfa, a lle gwadnau fy nhraed, lle y trigaf ymysg meibion Israel yn dragywydd; a'm benw sanctaidd ni haloga ty Israel mwy, na hwynt-hwy, na'u brenhinoedd, trwy eu puteindra, na thrwy gyrff meirw eu bren¬hinoedd yn eu huchel leoedd.

8 Wrth osod cu rhimog wrth fy rhiniog i, a'u gorsm wrth fy ngorsin i, a phared rhyngof fi a hwynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd a'u ffieidd-dra y rhai a wnaethant: am hynny mi a'u hysais hwy yn fy llid.

9 Fellhant yr awr hon eu puteindra, a chelanedd eu brenhinoedd oddi wrthyf fi, a mi a drigaf yn eu mysg hwy yn dragy¬wydd.

10 Ti fab dyn, dangos y ty i dŷ Israel, fel y cywilyddiont am eu hanwireddau; a mesurant y portrciad.