Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/825

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

11 Ac os cywilyddiant am yr hyn oll a wnaethant, hysbysa iddynt ddult y tŷ, a'i osodiad, a'i fynediadau allan, a'i ddyfodiadau i mewn, a'i holl ddull, a'i holl ddeddfau, a'i holl ddull, a'i holl gyfreithiau; ac ysgrifenna o flaen eu llygaid hwynt, fel y cadwont ei holl ddull ef, a'i holl ddeddfau, ac y gwnelont hwynt.

12 Dyma gyfraith y ty; Ar ben y mynydd y bydd ei holl derfyn ef, yn gysegr sancteiddiolaf o amgylch ogylch. Wele, dyma gyfraith y ty.

13 A dyma fesurau yr allor wrth gufyddau. Y cufydd sydd gufydd a dyrnfedd; y gwaelod fydd yn gufydd, a'r lled yn gufydd, a'i hymylwaith ar ei min o amgylch fydd yn rhychwant: a dyma Ie uchaf yr allor.

14 Ac o'r gwaelod ar y llawr, hyd yr ystol isaf, y bydd dau gufydd, ac un cufydd o led; a phedwar cufydd o'r ystol leiaf hyd yr ystol fwyaf, a chufydd o led.

15 Felly yr allor fydd bedwar cufydd; ac o'r allor y bydd hefyd tuag i fyny bed-war o gyrn.

16 A'r allor fydd ddeuddeg cufydd o hyd, a deuddeg i5 led, yn ysgwar yn ei phedwar ystlys.

17 A'r ystol fydd bedwar cufydd ar ddeg o hyd, a phedwar ar ddeg o led, yn ei phedwar ystlys; a'r ymylwaith o am¬gylch iddi yn hanner cufydd; a'i gwaelod yn gufydd o amgylch: a'i grisiau yn edrych tua'r dwyrain.

18 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Dyma ddeddfau yr allor, yn y dydd y gwneler hi, i boethoffrymu poethoffrwm arni, ac i daenellu gwaed ami.

19 Yna y rhoddi at yr offeiriaid y Lefiaid, (y rhai sydd o had Sadoc yn nesau ataf fi, medd yr Arglwydd DDUW, i'm gwasanaethu,) fustach ieuanc yn bech-aberth.

20 A chymer o'i waed ef, a dyro ar ei phedwar corn hi, ac ar bedair congi yr ystol, ac ar yr ymyi o amgylch: fel hyn y glanhei ac y cysegri hi.

21 Cymeri hefyd fustach y pech-aberth, ac efe a'i llysg ef yn y lle nodedig i'r tŷ, o'r tu allan i'r cysegr.

22 Ac ar yr ail ddydd ti a offrymi fwch geifr perffaithgwbl yn bech-aberth; a hwy a lanhant yr allor, megis y glanhasant hi a'r bustach.

23 Pan orffennych ei glanhau, ti a offrymi fustach ieuanc perffaithgwbl, a hwrdd perffaithgwbl o'r praidd.

24 Ac o flaen yr ARGLWYDD yr offrymi hwynt; a'r offeiriaid a fwriant halen arnynt, ac a'u hoffrymant hwy yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD.

25 Saith niwrnod y darperi fwch yn bech-aberth bob dydd; darparant hefyd fustach ieuanc, a hwrdd o'r praidd, o rai ' perffaithgwbl.

26 Saith niwmod y cysegrant yr allor, ac y glanhant hi, ac yr ymgysegrant.

27 A phan ddarffo y dyddiau hyn, bydd ar yr wythfed dydd, ac o hynny allan, i'r offeiriaid offrymu ar yr allor eich poethoffrymau a'ch ebyrth hedd: a mi a fyddaf fodlon i chwi, medd yr Arglwydd DDUW.


PENNOD 44

1 A efe a wnaeth i mi ddychwelyd ar hyd ffordd porth y cysegr nesaf allan, yr hwn sydd yn edrych tua'r dwyrain, ac yr oedd yn gaead.

2 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Y porth hwn fydd gaead; nid agorir ef, ac nid a neb i mewn trwyddo ef: oherwydd ARGLWYDD DDUW Israel a aeth i mewn trwyddo ef; am hynny y , bydd yn gaead.

3 I'r tywysog y mae; y tywysog, efe a eistedd ynddo i fwyta bara o flaen yr ARGLWYDD: ar hyd ffordd cyntedd y porth hwnnw y daw efe i mewn, a hyd ffordd yr un yr a efe allan.

4 S] Ac efe a'm dug i ffordd porth y gogledd o flaen y ty: a mi a edrychais, ac wele, llanwasai gogoniant yr ARGLWYDD dŷ yr ARGLWYDD: a mi a synhiais ar fy wyneb.

5 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Gosod dy galon, fab dyn, a gwel a'th lygaid, clyw hefyd a'th glustiau, yr hyn oll yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthyt, am holl ddeddfau ty yr ARGLWYDD, ac am ei holl