Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/826

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gyfreithiau; a gosod dy feddwl ar ddyfodfa y tŷ, ac ar bob mynedfa allan o'r cysegr.

6 A dywed wrth y gwrthryfelgar, sef ty Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Digon i chwi hyn, ty Israel, o'ch holl ffieidd-dra;

7 Gan ddwyn ohonoch ddieithriaid dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, i fod yn fy nghysegr i'w halogi ef, sef fy nhŷ i, pan offrymasoch fy mara, y braster a'r gwaed; a hwy a dorasant fy nghyfamod, oherwydd eich holl ffieidd-dra chwi.

8 Ac ni chadwasoch gadwraeth fy mhethau cysegredig; eithr gosodasoch i chwi eich hunain geidwaid ar fy nghadwraeth yn fy nghysegr.

9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Ni ddaw i'm cysegr un mab dieithr dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, o'r holl feibion dieithr y rhai sydd ymysg meibion Israel.

10 A'r Lefiaid y rhai a giliasant ymhell oddi wrthyf, pan gyfeiliornodd Israel, y rhai a grwydrasant oddi wrthyf ar ôl eu delwau, hwy a ddygant eu hanwiredd.

11 Eto hwy a fyddant yn fy nghysegr, yn weinidogion mewn swydd ym mhyrth y tŷ, ac yn gweini i'r ty: hwy a laddant yr offrwm poeth, ac aberth y bobl, a hwy a safant o'u blaen hwy i'w gwasanaethu hwynt.

12 Oherwydd gwasanaethu ohonynt hwy o flaen eu heilunod, a bod ohonynt i d Israel yn dramgwydd i anwiredd, am hynny y dyrchefais fy llaw yn cu herbyn hwynt, medd yr Arglwydd DDUW, a hwy a ddygant eu hanwiredd.

13 Ac ni ddeuant yn agos ataf fi i offeiriadu i mi, nac i nesau at yr un o'm pethau sanctaidd yn y cysegr sancteidd¬iolaf: eithr dygant eu cywilydd, a'u ffieidd-dra a wnaethant.

14 Eithr gwnaf hwynt yn geidwaid cadwraeth y tŷ, yn ei holl wasanaeth, ac yn yr hyn oll a wneir ynddo. '

15 Yna yr offeiriaid y Lefiaid, meibion Sadoc, y rhai a gadwasant gadwraeth fy nghysegr, pan gyfeiliornodd meibion Israel oddi wrthyf, hwynt-hwy a nesant ataf fi i'm gwasanaethu, ac a safant o'm blaen i offrymu i mi y braster a'r gwaed, medd yr Arglwydd IOR:

16 Hwy a ânt i mewn i'm cysegr, a hwy a nesant at fy mwrdd i'm gwasanaethu, ac a gadwant fy nghadwraeth.

17 A phan ddelont i byrth y cyntedd nesaf i mewn, gwisgant wisgoedd lliain; ac na ddeued gwlân amdanynt, tra y gwasanaethant ym mhyrth y cyntedd nesaf i mewn, ac o fcwn.

18 Capiau lliain fydd am eu pennau hwynt, a llodrau lliain fydd am eu llwynau hwynt: nac ymwregysant a dim a baro chwys.

19 A phan elont i'r cyntedd nesaf allan, sef at y bobl i'r cyntedd oddi allan, diosgant eu gwisgoedd y rhai y gwasanaethasant ynddynt, a gosodant hwynt o fewn celloedd y cysegr, a gwisgant ddillad eraill; ac na chysegrant y bobl a'u gwisg¬oedd.

20 Eu pennau hefyd nid eilliant, ac ni ollyngant eu gwallt yn llaes: gan dalgrynnu talgrynnant eu pennau.

21 Hefyd, nac yfed un offeiriad win, pan ddelont i'r cyntedd nesaf i mewn.

22 Na chymerant chwaith yn wragedd iddynt wraig weddw, neu ysgaredig; eithr morynion o had ty Israel, neu y weddw a fyddo gweddw offeiriad, a gymerant.

23 A dysgant i'm pobl ragor rhwng y sanctaidd a'r halogedig, a gwnant iddynt wybod gwahan rhwng aflan a glân.

24 Ac mewn ymrafael hwy a safant mewn barn, ac a farnant yn ôl fy marned-igaethau i: cadwant hefyd fy nghyfreithiau a'm deddfau yn fy holl uchel wyliau; a sancteiddiant fy Sabothau.

25 Ni ddeuant chwaith at ddyn marw i ymhalogi: eithr wrth dad, ac wrth fam, ac wrth fab, ac wrth ferch, wrth frawd, ac wrth chwaer yr hon ni bu eiddo gŵr, y gallant ymhalogi.

26 Ac wedi ei buredigaeth y cyfrifir iddo saith niwrnod.

27 A'r dydd yr elo i'r cysegr, o fewtt y cyntedd nesaf i mewn, i weini yn y cysegr, offrymed ei bech-aberth, medd yr Arglwydd DDUW.

28 A bydd yn etifeddiaeth iddynt hwy; myfi yw eu hetifeddiaeth