Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/827

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hwy. Ac na roddwch berchenogaeth iddynt hwy yn Israel; myfi yw eu perchenogaeth hwy.

29 Y bwyd-offrwm, a'r pech-aberth, a'r aberth dros gamwedd, a fwytant hwy; a phob peth cysegredig yn Israel fydd eidd-ynt hwy.

30 A blaenion pob blaenffrwyth o bob peth, a phob offrwm pob dim oll o'ch holl offrymau, fydd eiddo yr offeiriaid: blaenffrwyth eich toes hefyd a roddwch i'r offeiriad, i osod bendith ar dy dy.

31 Na fwytaed yr offeiriaid ddim a fn farw ei hun, neu ysglyfaeth o aderyn neu* o anifail.


PENNOD 45

1 A PHAN rannoch y tir wrth goelbren t1- yn etifeddiaeth, yr offrymwch i'r ARGLWYDD offrwm cysegredig o'r tir; yr hyd fydd pum mil ar hugain o gorsennau o hyd, a dengmil o led. Cysegredig fydd hynny yn ei holl derfyn o amgylch.

2 O hyn y bydd i'r cysegr bum cant ar hyd, a phum cant ar led, yn bedeirongi oddi amgylch; a deg cufydd a deugain, yn faes pentrefol iddo o amgylch.

3 Ac o'r mesur hwn y mesuri bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led; ac yn hwnnw y bydd y cysegr, a'r lle sancteidds iolaf.

4 Y rhan gysegredig o'r tir fydd i'r offeiriaid, y rhai a wasanaethant y cys¬egr, y rhai a nesant i wasanaethu yr AB-GLWYDD; ac efe a fydd iddynt yn lle tar, ac yn gysegrfa i'r cysegr. i 5 A'r pum mil ar hugain o hyd, a't dengmil o led, fydd hefyd i'r Lefiaid y rhai a wasanaethant y tŷ, yn etifeddiaeth ugain o ystafelloedd.

6 Rhoddwch hefyd bum mil o led, a phum mil ar hugain o hyd, yn berchenog¬aeth i'r ddinas, ar gyfer offrwm y rhaa gysegredig: i holl dy Israel y bydd hyn.

7 A rhan fydd i'r tywysog o'r tu yma ac o'r tu acw i offrwm y rhan gysegredig, ac i berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y rhan gysegredig, ac ar gyfer etifeddiaetb y ddinas, o du y gorllewin tua'r gorllewin, ac o du y dwyrain taa'indwyrain-Jai'tfnyd fydd ar gyfer pob un o'r rhannau, o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain.

8 Yn y tir y bydd ei etifeddiaeth ef yn Israel, ac ni orthryma fy nhywysogion fy mhobl i mwy; a'r rhan arall o'r tir a roddant i dŷ Israel yn ôl eu llwythau.

9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Digon i chwi hyn, tywysogion Israel; bwriwch ymaith drawster a difrod, gwnewch hefyd farn a chyfiawnder, tynnwch ymaith eich trethau oddi ar fy mhobl; medd yr Arglwydd DDUW.

10 Bydded gennych gloriannau uniawn, flc cffa uniawn, a bath uniawn.

11 Bydded yr effa a'r bath un fesur; gan gynnwys o'r bath ddegfed ran homer, a'r effa ddegfed ran homer: wrth .yr homer y bydd eu mesur hwynt.

12 Y sici fydd ugain gera: ugain sici,. a phum sici ar hugain, a phymtheg si<d, fydd mane i chwi.

13 Dyma yr offrwm a offrymwch: chweched ran effa o homer o wenith; feU.y y rhoddwch chweched ran effa o homer a haidd.

14 Am ddeddf yr olew, bath o olew, degfed ran bath a roddwch o'r corns, yr hyn yw homer o ddeg bath: oherwydd deg bath yw homer.

15 Un milyn hefyd o'r praidd a offrym¬wch o bob deucant, allan o ddolydd Israel, yn fwyd-offrwm, ac yn boethoffrwm, ac yn aberthau hedd» i -wneuthur cymod drostynt, medd yf Arglwydd DDUW.

16 Holl bobl y tir fyddant dan yi offrwm hwn i'r tywysog yn Israel.

17 Ac ar y tywysog y bydd poethoffrwm, a bwyd-offrwm, a diod-offrwm ar yr uchel wyliau, a'r newyddloerau, a'r Sabothau, trwy holl osodedig wyliau ty Israel; efe a ddarpara bech-aberth, a bwyd-offrwm, a phoethoffrwm, ac aberth¬au hedd, i wneuthur cymod dros dy Israel.

18 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; O fewn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf O'r mis, y cymeri fustach ieuanc perffaithgwbl, ac y puri y cysegr.

19 Yna y cymer yr offeiriad o waed y pech-aberth, ac a'i rhydd ar orsingau y tŷ, ac ar bedair congi