Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/828

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ystol yr allor, ac ar orsingau porth y cyntedd nesaf i mewn.

20 Felly y gwnei hefyd ar y seithfed dydd o'r mis, dros y neb a becho yn amryfus, a thros yr ehud: felly y purwch yty.

21 Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, y bydd i chwi y pasg; gwyl fydd i chwi saith niwrnod: bara croyw a fwytewch.

22 A'r tywysog a ddarpara ar y dydd hwnnw drosto ei hun, a thros holl bobliy wlad, fustach yn bech-aberth.

23 A saith niwrnod yr wyl y darpara efe yn offrwm poeth i'r ARGLWYDD, saith o fustych, a saith o hyrddod perffaithgwbl, bob dydd o'r saith niwrnod; a bwch geifr yn bech-aberth bob dydd.

24 Bwyd-offrwm hefyd a ddarpara efe, sef effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a hin o olew gyda'r effa.

25 Yn y seithfed mis, ar y pymthegfed dydd o'r mis, y gwna y cyffelyb ar yr wyl dros saith niwrnod; sef fel y pech-aberth, fel y poethoffrwm, ac fel y bwyd-offrwm, ac fel yr olew.


PENNOD 46

1 FEL hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Forth y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua'r dwyrain, fydd yn gaead y chwe diwrnod gwaith; ond ar y dydd Saboth yr agorir ef, ac efe a agorir ar ddydd y newyddloer.

2 A'r tywysog a ddaw ar hyd ffordd cyntedd y porth oddi allan, ac a saif wrth orsing y porth; a'r offeiriaid a ddarparant ei boethoffrwm ef a'i aberthau hedd, ac efe a addola wrth riniog y porth: ac a a allan: a'r porth ni chaeir hyd yr hwyr.

3 Pobl y tir a addolant hefyd wrth ddrws y porth hwnnw, ar y Sabothau ac ar y newyddloerau, o flaen yr ARGLWYDD.

4 A'r offrwm poeth a offrymo y tywysog i'r ARGLWYDD ar y dydd Saboth, fydd ehwech o wyn perffaithgwbl, a bwrdd perffaitn-gwbl:

5 A bwyd-offrwm o effa gyda'r hwrdd< a rhodd ei law o fwyd-offrwm gyda'r wyil, a hin o olew gyda'r effa.

6 Ac ar ddydd y newyddloer, bustach. ieuanc perffaithgwbl, a chwech o wyn a hwrdd; perffaithgwbl fyddant.

7 Ac efe a ddarpara effa gyda'r bustach, ac effa gyda'r hwrdd, yn fwyd-offrwm; a chyda'r wyn fel y cyrhaeddo ei law ef, a hin o olew gyda phob effa.

8 A phan ddelo y tywysog i mewn, at hyd ffordd cyntedd y porth y daw i mewn, ac ar hyd y ffordd honno yr a allan.

9 A phan ddelo pobl y tir o flaen yt ARGLWYDD ar y gwyliau gosodedig, yr hwn a ddelo i mewn ar hyd ffordd porth y gogledd i addoli, a a allan i ffordd porth y deau; a'r hwn a ddelo ar hyd ffordd porth y deau, a a allan ar hyd ffordd porth y gogledd: na ddychweled i ffordd y porth y daeth i mewn trwyddo, eithr eled allan ar ei gyfer.

10 A phan ddelont hwy i mewn, y daw y tywysog yn eu mysg hwy; a phan elont allan, yr a yntau allan.

11 Ac ar y gwyliau a'r uchel wyliau hefyd y bydd y bwyd-offrwm o effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a rhodd ei law gyda'r wyn, a hin o olew gyda'r effa.

12 A phan ddarparo y tywysog boethoffrwm gwirfodd, neu aberthau hedd gwirfodd i'r ARGLWYDD, yna yr egyr un iddo y porth sydd yn edrych tua'r dwy¬rain, ac efe a ddarpara ei bocthoffrwm a'i aberthau hedd, fel y gwnaeth ar y dydd Saboth; ac a a allan: ac un a gae y porth ar ôl ei fyned ef allan.

13 Oen biwydd perffaithgwbl hefyd a ddarpen yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD beunydd: o fore i fore y darperi ef.

14 Darperi hefyd yn fwyd-offrwm gydag ef o fore i fore, chweched ran effa, a thrydedd ran hin o olew, i gymysgu y peilliaid, yn fwyd-offrwm i'r AR¬GLWYDD, trwy ddeddf dragwyddol byth.

15 Fel hyn y darparant yr oen, a'r twyd-offrwm, a'r olew, o fore i fore, yn boethoffrwm gwastadol.

16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Os rhydd y tywysog rodd i neb o'i feibion o'i etifeddiaeth,