y’ngwlad yr Aipht, o gyntaf-anedig anifail: am hynny yr ydwyf yn aberthu i’r Arglwydd bob gwrryw a agoro y groth; ond pob cyntaf-anedig o’m meibion a brynaf.
16 A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn rhagdalau rhwng dy lygaid: canys â llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aipht.
17 ¶ A phan ollyngodd Pharaoh y bobl, ni arweiniodd yr Arglwydd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos: oblegid dywedodd Duw, Rhag i’r bobl edifarhâu pan welant ryfel, a dychwelyd i’r Aipht.
18 Ond Duw a arweiniodd y bobl o amgylch, trwy anialwch y môr coch: ac yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aipht.
19 A Moses a gymmerodd esgyrn Joseph gyd âg ef: o herwydd efe a wnelsai i feibion Israel dyngu trwy lw, gan ddywedyd, Duw a ymwêl â chwi yn ddïau; dygwch chwithau fy esgyrn oddi yma gyd â chwi.
20 ¶ A hwy a aethant o Succoth; ac a wersyllasant yn Etham, y’nghwrr yr anialwch.
21 A’r Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i’w harwain ar y ffordd; a’r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt; fel y gallent fyned ddydd a nos.
22 Ni thynnodd efe ymaith y golofn niwl y dydd, na’r golofn dân y nos, o flaen y bobl.
PENNOD XIV.
1 Duw yn hyfforddi yr Israeliaid yn eu taith. 5 Pharaoh yn erlid ar eu hol hwynt. 10 Yr Israeliaid yn tuchan. 13 Moses yn eu cysuro hwy. 15 Duw yn dysgu i Moses beth a wnai. 19 Y niwl yn symmudo i’r tu ol i’r gwersyll. 21 Yr Israeliaid yn myned trwy y môr coch; 23 a’r Aiphtiaid yn boddi ynddo.
A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Dywed wrth feibion Israel, am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a’r môr, o flaen Baal-sephon: ar ei chyfer y gwersyllwch wrthi y môr.
3 Canys dywed Pharaoh am feibion Israel, Rhwystrwyd hwynt yn y tir; cauodd yr anialwch arnynt.
4 A mi a galedaf galon Pharaoh, fel yr erlidio ar eu hol hwynt: felly y’m gogoneddir ar Pharaoh, a’i holl fyddin; a’r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd. Ac felly y gwnaethant.
5 ¶ A mynegwyd i frenhin yr Aipht, fod y bobl yn ffoi: yna y trodd calon Pharaoh a’i weisionyn erbyn y bobl; a dywedasant, Beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o’n gwasanaethu?
6 Ac efe a daclodd ei gerbyd, ac a gymmerodd ei bobl gyd âg ef.
7 A chymmerodd chwe chant o ddewis gerbydau, a holl gerbydau yr Aipht, a chapteiniaid ar bob un o honynt.
8 A’r Arglwydd a galedasai galon Pharaoh brenhin yr Aipht, ac efe a ymlidiodd ar ol meibion Israel: ond yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw uchel.
9 A’r Aiphtiaid a ymlidiasant ar eu hol hwynt, sef holl feirch a cherbydau Pharaoh, a’i wŷr meirch, a’i fyddin, ac a’u goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr, ger llaw Pihahiroth, o flaen Baal-sephon.
10 ¶ A phan nesaodd Pharaoh, meibion Israel a godasant eu golwg; ac wele yr Aiphtiaid yn dyfod ar eu hol; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd.
11 A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aipht, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o’r Aipht?
12 Onid dyma y peth a lefarasom wrthyt yn yr Aipht, gan ddywedyd, Paid â ni, fel y gwasanaethom yr Aiphtiaid? canys gwell fuasai i ni wasanaethu yr Aiphtiaid, na marw yn yr anialwch.
13 ¶ A Moses a ddywedodd wrth y bobl, Nac ofnwch; sefwch, ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr Arglwydd, yr hwn a wna efe i chwi heddyw; oblegid yr Aiphtiaid y rhai a welsoch chwi heddyw, ni chewch eu gweled byth ond hynny.
14 Yr Arglwydd a ymladd drosoch; am hynny tewch chwi â sôn.
15 ¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Paham y gweiddi arnaf? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt.
16 A chyfod dithau dy wïalen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef: a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych.
17 Wele, fi, ïe, myfi a galedaf galon yr Aiphtiaid, fel y delont ar eu hol