Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharaoh, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar eu farchogion.

18 A’r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan y’m gogoneddir ar Pharaoh, ar ei gerbydau, ac ar ei farchogion.

19 ¶ Ac angel Duw, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symmudodd, ac a aeth o’u hol hwynt; a’r golofn niwl a aeth ymaith o’u tu blaen hwynt, ac a safodd o’u hol hwynt.

20 Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Aiphtiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmmwl ac yn dywyllwch i’r Aiphtiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos.

21 A Moses a estynodd ei law ar y môr: a’r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ol, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.

22 A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o’r tu deau, ac o’r tu aswy.

23 ¶ A’r Aiphtiaid a erlidiasant, ac a ddaethant ar eu hol hwynt; sef holl feirch Pharaoh, a’i gerbydau, a’r farchogion, i ganol y môr.

24 Ac ar y wyliadwriaeth fore yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Aiphtiaid trwy y golofn dân a’r cwmmwl, ac a derfysgodd fyddin yr Aiphtiaid.

25 Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau; ac yr oeddynt yn gyrru yn drwm: fel y dywedodd yr Aiphtiaid, Ffown oddi wrth Israel; oblegid yr Arglwydd sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Aiphtiaid.

26 ¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law ar y môr; fel y dychwelo’r dyfroedd ar yr Aiphtiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion.

27 A Moses a estynodd ei law ar y môr: a dychwelodd y môr cyn y bore i’w nerth; a’r Aiphtiaid a ffoisant yn ei erbyn ef: a’r Arglwydd a ddymchwelodd yr Aiphtiaid yng nghanol y môr.

28 A’r dyfroedd a ddychwelasant, ac a orchuddiasant gerbydau, a marchogion: a holl fyddin Pharaoh, y rhai a ddaethant ar eu hol hwynt i’r môr: ni adawyd o honynt gymmaint ag un.

29 Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych y’nghanol y môr: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, ar y llaw ddeau, ac ar y llaw aswy.

30 Felly yr Arglwydd a achubodd Israel y dydd hwnnw o law yr Aiphtiaid: a gwelodd Israel yr Aiphtiaid yn feirw ar fin y môr.

31 A gwelodd Israel y grymmusder mawr a wnaeth yr Arglwydd yn erbyn yr Aiphtiaid: a’r bobl a ofnasant yr Arglwydd, ac a gredasant i’r Arglwydd ac i’w was ef Moses.


PENNOD XV.

1 Cân Moses. 2 Y bobl ag eisieu dwfr arnynt. 23 Chwerw ddyfroedd Marah. 25 Pren yn eu pereiddio hwy. 27 Deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thri ugain, yn Elim.

Yna y canodd Moses a meibion Israel y gân hon i’r Arglwydd, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Canaf i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn rhagorol iawn: taflodd y march a’i farchog i’r môr.

2 Fy nerth a’m cân yw yr Arglwydd; ac y mae efe yn iachawdwriaeth i mi: efe yw fy Nuw, efe a ogoneddaf fi; Duw fy nhad, a mi a’i dyrchafaf ef.

3 Yr Arglwydd sydd ryfelwr: yr Arglwydd yw ei enw.

4 Efe a daflodd gerbydau Pharaoh a’i fyddin yn y môr: ei gapteiniaid dewisol a foddwyd yn y môr coch.

5 Y dyfnderau a’u toesant hwy; disgynasant i’r gwaelod fel carreg.

6 Dy ddeheulaw, Arglwydd, sydd ardderchog o nerth; a’th ddeheulaw, Arglwydd, a ddrylliodd y gelyn.

7 Ym mawredd dy ardderchowgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i’th erbyn: dy ddigofaint a anfonaist allan, ac efe a’u hysodd hwynt fel sofl.

8 Trwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd ynghyd: y ffrydiau a safasant fel pentwr; y dyfnderau a geulasant y’nghanol y môr.

9 Y gelyn a ddywedodd, Mi a erlidiaf, mi a oddiweddaf, mi a rannaf yr yspail; caf fy ngwynfyd arnynt; tynnaf fy nghleddyf, fy llaw a’u difetha hwynt.

10 Ti a chwythaist â’th wynt; y môr a’u todd hwynt: soddasant fel plwm yn y dyfroedd cryfion.

11 Pwy sydd debyg i ti, O Arglwydd, ym mhlith y duwiau? pwy fel tydi yn ogoneddus mewn sanct-