eiddrwydd, yn ofnadwy mewn moliant, yn gwneuthur rhyfeddodau?
12 Estynaist dy ddeheulaw; llyngcodd y ddaear hwynt.
13 Arweiniaist yn dy drugaredd y bobl y rhai a waredaist: yn dy nerth y tywysaist hwynt i anneddle dy sancteiddrwydd.
14 Y bobloedd a glywant, ac a ofnant: dolur a ddeil breswylwyr Palestina.
15 Yna y synna ar dduciaid Edom: cedyrn hyrddod Moab, dychryn a’u deil hwynt: holl breswylwyr Canaan a doddant ymaith.
16 Ofn ac arswyd a syrth arnynt; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o’th bobl di, Arglwydd, nes myned o’r bobl a ennillaist ti trwodd.
17 Ti a’u dygi hwynt i mewn, ac a’u plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth, y lle a wnaethost, O Arglwydd, yn anneddle i ti, y cyssegr, Arglwydd, a gadarnhaodd dy ddwylaw.
18 Yr Arglwydd a deyrnasa byth ac yn dragwydd.
19 O herwydd meirch Pharo, a’i gerbydau, a’i farchogion, a aethant i’r môr, a’r Arglwydd a ddychwelodd ddyfroedd y môr arnynt: ond meibion Israel a aethant ar dir sych y’nghanol y môr.
20 ¶ A Miriam y brophwydes, chwaer Aaron, a gymmerodd dympan yn ei llaw, a’r holl wragedd a aethant allan ar ei hol hi, â thympanau ac â dawnsiau.
21 A dywedodd Miriam wrthynt, Cenwch i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn ardderchog; bwriodd y march a’r marchog i’r môr.
22 Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch; ac aethant allan i anialwch Sur: a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch, ac ni chawsant ddwfr.
23 ¶ A phan ddaethant i Marah, ni allent yfed dyfroedd Marah, am eu bod yn chwerwon: o herwydd hynny y gelwir ei henw hi Marah.
24 A’r bobl a duchanasant yn erbyn Moses, gan ddywedyd, Beth a yfwn ni?
25 Ac efe a waeddodd ar yr Arglwydd; a’r Arglwydd a ddangosodd iddo ef bren; ac efe a’i bwriodd i’r dyfroedd, a’r dyfroedd a bereiddiasant: yno y gwnaeth efe ddeddf a chyfraith, ac yno y profodd efe hwynt,
26 Ac a ddywedodd, Os gan wrandaw y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, ac os gwnei di yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ef, a rhoddi clust i’w orchmynion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef; ni roddaf arnat un o’r clefydau a roddai ar yr Aiphtiaid; o herwydd myfi yw yr Arglwydd dy iachawdwr di.
27 ¶ A daethant i Elim; ac yno yr oedd deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thri ugain: a hwy a wersyllasant yno wrth y dyfroedd.
PENNOD XVI.
1 Yr Israeliaid yn dyfod i Sin; 2 ac yn tuchan o eisieu bara. 4 Duw yn addaw iddynt fara o’r nefoedd. 11 Danfon soflieir, 14 a manna. 16 Trefn y manna. 25 Na cheid ef ar y dydd Sabbath. 32 Cadw llonaid omer o hono ef.
A hwy a symmudasant o Elim; a holl gynnulleidfa meibion Israel a ddaethant i anialwch Sin, yr hwn sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed dydd o’r ail fis, wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aipht.
2 A holl gynnulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron, yn yr anialwch.
3 A meibion Israel a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw trwy law yr Arglwydd y’ngwlad yr Aipht, pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig, ac yn bwytta bara ein gwala: ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn, i ladd yr holl dyrfa hon â newyn.
4 ¶ Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, mi a wlawiaf arnoch fara o’r nefoedd: a’r bobl a ânt allan, ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd; fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fy nghyfraith, ai nas gwnant.
5 Ond ar y chweched dydd y darparant yr hyn a ddygant i mewn; a hynny fydd dau cymmaint ag a gasglant beunydd.
6 A dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel, Yn yr hwyr y cewch wybod mai yr Arglwydd a’ch dug chwi allan o wlad yr Aipht.
7 Y bore hefyd y cewch weled gogoniant yr Arglwydd; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr Arglwydd: a pha beth ydym ni, i chwi i duchan i’n herbyn?
8 Moses hefyd a ddywedodd, Hyn fydd pan roddo yr Arglwydd i