yr hwn y rhennwch y tir yn etifeddiaeth i ddeuddeg llwyth Israel: Joseff a gaiffddwy o rannau.
14 Hefyd chwi a'i hetifeddwch ef, bob un cystal a'i gilydd; am yr hwn y tyngais ar ei roddi i'ch tadau: a'r tir hwn a syrth i chwi yn etifeddiaeth.
15 A dyma derfyn y tir o du y gogledd, o'r môr mawr tua Hethlon, ffordd yr eir i Sedad:
16 Hannath, Berotha, Sibraim, yr hwn sydd rhwng terfyn Damascus a therfyn Hamath: Hasarhattichon, yr hwn sydd ar derfyn Hauran.
17 A'r terfyn o'r môr fydd Hasarenan, terfyn Damascus, a'r gogledd tua'r gogledd, a therfyn Hamath. A dyma du y gogledd.
18 Ac ystlys y dwyrain a fesurwch o Hauran, ac o Damascus, ac o Gilead, ac o dir Israel wrth yr lorddonen, o'r terfyn hyd for y dwyrain. A dyma du y dwyrain.
19 A'r ystlys deau tua'r deau, o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades, yr afon hyd y môr mawr. A dyma yr ystlys ddeau tua Theman.
20 A thu y gorilewin fydd y môr mawr, o'r terfyn hyd oni ddeler ar gyfer Hamath. Dyma du y gorilewin.
21 Felly y rhennwch y tir hwn i chwi, yn ôl llwythau Israel.
22 Bydd hefyd i chwi ei rannu ef wrth goelbren yn etifeddiaeth i chwi, ac i'r dieithriaid a ymdeithiant yn eich mysg, y rhai a genhedia blant yn eich plith: a byddant i chwi fel un wedi ei eni yn y wlad ymysg meibion Israel; gyda chwi y cant etifeddiaeth ymysg llwythau Israel.
23 A bydd, ym mha Iwyth bynnag yr ymdeithio y dieithr, yno y rhoddwch ei etifeddiaeth ef, medd yr Arglwydd DDUW.
PENNOD 48
1 A DYMA enwau y llwythau. O gŵr y gogledd ar duedd ffordd Hethlon, ffordd yr eir i Hamath, Hasar-enan, terfyn Damascus tua'r gogledd, i duedd Hamath, (canys y rhai hyn oedd ei derfynau dwyrain a gorilewin,) rhan i Dan.
2 Ac ar derfyn Dan, o du y dwyrain hyd du y gorilewin, rhan i Aser.
3 Ac ar derfyn Aser, o du y dwyrain hyd du y gorilewin, i Nafftali ran.
4 Ac ar derfyn Nafftali, o du y dwyrain hyd du y gorilewin, i Manasse ran.
5 Ac ar derfyn Manasse, o du y dwyrain hyd du y gorilewin, i Effraim ran.
6 Ac ar derfyn Effraim, o du y dwyrain hyd du y gorilewin, i Reuben ran.
7 Ac ar derfyn Reuben, o du y dwyrain hyd du y gorilewin, i Jwda ran.
8 Ac ar derfyn Jwda, o du y dwyrain hyd du y gorilewin, y bydd yr offrwm a offrymoch yn bum mil ar hugain o gorsennau o led, ac o hyd fel un o'r rhannau, o du y dwyrain hyd du y gorilewin; a'r cysegr fydd yn ei ganol.
9 Yr offrwm a offrymoch i'r ARGLWYDD fydd bum mil ar hugain o hyd, a dengm; oled.
10 Ac eiddo y rhai hyn fydd yr offrwm cysegredig, sef eiddo yr offeiriaid, fydd pum mil ar hugain tua'r gogledd o hyd, a dengmil tua'r gorilewin o led; felly deng-mil tua'r dwyrain o led, a phum mil ar hugain tua'r deau o hyd: a chysegr yr ARGLWYDD fydd yn ei ganol.
11 I'r offeiriaid cysegredig o feibion Sadoc y bydd, y rhai a gadwasant fy nghadwraeth, y rhai ni chyfeiliornasant pan gyfeiliornodd plant Israel, megis y cyfeiliornodd y Lefiaid.
12 A bydd eiddynt yr hyn a offrymir o offrwm y tir, yn sancteiddbeth cysegredig wrth derfyn y Lefiaid.
13 A'r Lefiaid a gant, ar gyfer terfyn yr offeiriaid, bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led: pob hyd fydd bum mil ar hugain, a'r lled yn ddengmil.
14 Hefyd ni werthant ddim ohono, ac ni chyfnewidiant, ac ni throsglwyddant flaenffrwyth y tir; oherwydd cysegredig yw i'r ARGLWYDD.
15 (] A'r pum mil gweddill o'r lled, ar gyfer y pum mil ar hugain, fydd digysegredig, yn drigfa ac yn faes pentrefol i'r ddinas; a'r ddinas fydd yn ei ganol.