Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/831

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

16 A dyma ei fesurau ef; Ystlys y gogledd fydd bum cant a phedair mil, ac ystlys y deau yn bum cant a phedair mil, felly o du y dwyrain yn bum cant a phedair mil, a thua'r gorllewin yn bum cant a phedair mil.

17 A maes pentrefol y ddinas fydd hefyd tua'r gogledd yn ddeucant a deg a deu¬gain, ac yn ddeucant a deg a deugain tua'r deau, ac yn ddeucant a deg a deugain tua'r dwyrain, ac yn ddeucant a deg a deugain tua'r gorllewin.

18 A'r gweddill o'r hyd, ar gyfer offrwm y rhan gysegredig, fydd yn ddengmil tua'r dwyrain, ac yn ddengmil tua'r gorllewin: ac ar gyfer offrwm y rhan gysegredig y bydd; a'i gnwd fydd yn ymborth i weinidogion y ddinas.

19 A gweinidogion y ddinas a'i gwasanaethant o holl Iwythau Israel.

20 Yr holl offrwm fydd bum mil ar hugain, wrth bum mil ar hugain: yn bedeirongi yr offrymwch yr offrwm cys-egredig, gyda pherchenogaeth y ddinas. r

21 A'r hyn a adewir fydd i'r tywysog, oddeutu yr offrwm cysegredig, ac o berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y pum mil ar hugain o'r offrwm tua therfyn y dwyrain, a thua'r gorllewin, ar gyfer y pum mil ar hugain tua therfyn y gorllewin, gyferbyn a rhannau y tywysog: a'r offrwm cysegredig fydd; a chysegrfa y ty fydd yng nghanol hynny.

22 Felly o berchenogaeth y Lefiaid, ac o berchenogaeth y ddinas, yng nghanol yr hyn sydd i'r tywysog rhwng terfyn Jwda a therfyn Benjamin, eiddo y tywys¬og fydd.

23 Ac am y rban arall o'r llwythau, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd rhan i Benjamin.

24 Ac ar derfyn Benjamin, o du y dwy¬rain hyd du y gorllewin, y bydd rfaan i Simeon.

25 Ac ar derfyn Simeon, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Issachar.

26 Ac ar derfyn Issachar, o du y dwy¬rain hyd du y gorllewin, rhan i Sabulon.

27 Ac ar derfyn Sabulon, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Gad. (,a8 Ac ar derfyn Gad, ar y tu deau tua'r deau, y terfyn fydd o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades, a hyd yr afon tua'r môr mawr.

29 Dyma y tir a rennwch wrth goelbren yn etifeddiaeth i Iwythau Israel, a dyma eu rhannau hwynt, medd yr Arglwydd DDUW.

30 Dyma hefyd fynediad altan y ddinas, o du y gogledd pum cant a phedair mil o fesurau.

31 A phyrth y ddinas fydd ar enwau llwythau Israel: tri phorth tua'r gogledd; porth Reuben yn un, portb Jwda yn un, porth Lefi yn un.

32 Ac ar du y dwyrain pum cant a phedair mil: a thri phorth; sef porth Joseffyn un, porth Benjamin yn un, porth Dan yn un.

33 A thua'r deau pum cant a phedair mil o fesurau: a thri phorth; porth Simeon yn un, a phorth Issachar yn un, a phorth Sabulon yn un.

34 Tua'r gorllewin y bydd pum cant a phedair mil, a'u tri phorth; porth Gad yn un, porth Aser yn un, a phorth Nafftali ya un.

35 Deunaw mil o fesurau oedd hi o amgylch: ac enw y ddinas o'r dydd hwnnw allan fydd, Yr ARGLWYDD sydd yno.