Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth.

35 A meibion Israel a fwyttasant y manna ddeugain mlynedd, nes eu dyfod i dir cyfanneddol: manna a fwyttasant nes eu dyfod i gwrr gwlad Canaan.

36 A’r omer ydoedd ddegfed ran ephah.

PENNOD XVII.

1 Y bobl yn tuchan am ddwfr yn Rephidim. 5 Duw yn eu hanfon hwy am ddwfr i’r graig yn Horeb. 8 Gorchfygu Amalec trwy ddal dwylaw Moses i fynu. 15 Moses yn adeiladu yr allor JEHOFAH-Nissi.

A holl gynnulleidfa meibion Israel a aethant o anialwch Sin, wrth eu teithiau, yn ol gorchymyn yr Arglwydd, ac a wersyllasant yn Rephidim: ac nid oedd dwfr i’r bobl i yfed.

2 Am hynny y bobl a ymgynhenasant â Moses, ac a ddywedasant, Rhoddwch i ni ddwfr i yfed. A dywedodd Moses wrthynt, Paham yr ymgynhennwch â mi? Paham y temtiwch yr Arglwydd?

3 A’r bobl a sychedodd yno am ddwfr; a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses, ac a ddywedodd, Paham y peraist i ni ddyfod i fynu o’r Aipht, i’n lladd ni, a’n plant, a’n hanifeiliaid, â syched?

4 A Moses a lefodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, Beth a wnaf i’r bobl hyn? ar ben ychydig etto hwy a’m llabyddiant i.

5 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cerdda o flaen y bobl, a chymmer gyd â thi o henuriaid Israel: cymmer hefyd dy wïalen yn dy law, yr hon y tarewaist yr afon â hi, a cherdda.

6 Wele, mi a safaf o’th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan o honi, fel y gallo y bobl yfed. A Moses a wnaeth felly y’ngolwg henuriaid Israel.

7 Ac efe a alwodd enw y lle Massah, a Meribah; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio yr Arglwydd, gan ddywedyd, A ydyw yr Arglwydd yn ein plith, ai nid yw?

8 ¶ Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd âg Israel yn Rephidim.

9 A dywedodd Moses wrth Josua, Dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd âg Amalec: y fory mi a safaf ar ben y bryn, a gwïalen Duw yn fy llaw.

10 Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymladdodd âg Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fynu i ben y bryn.

11 A phan godai Moses ei law, y byddai Israel yn drechaf; a phan ollyngai ei law i lawr, Amalec a fyddai drechaf.

12 A dwylaw Moses oedd drymion; a hwy a gymmerasant faen, ac a’i gosodasant dano ef; ac efe a eisteddodd arno: ac Aaron a Hur a gynhaliasant ei ddwylaw ef, un ar y naill du, a’r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddwylaw ef sythion nes machludo yr haul.

13 A Josua a orchfygodd Amalec a’i bobl â min y cleddyf.

14 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifena hyn mewn llyfr, yn goffadwriaeth; a mynega i Josua: canys gan ddilëu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd.

15 A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH-Nissi.

16 Canys efe a ddywedodd, O herwydd tyngu o’r Arglwydd, y bydd i’r Arglwydd ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.

PENNOD XVIII.

1 Jethro yn dwyn at Moses ei wraig a’i ddau fab. 7 Moses yn ei groesawu ef. 13 Yntau yn derbyn cynghor Jethro. 27 Jethro yn ymadael.

Pan glywodd Jethro, offeiriad Midian, chwegrwn Moses, yr hyn oll a wnaethai Duw i Moses, ac i Israel ei bobl, a dwyn o’r Arglwydd Israel allan o’r Aipht;

2 Yna Jethro, chwegrwn Moses, a gymmerodd Sephorah gwraig Moses, (wedi ei hebrwng hi yn ei hol,)

3 A’i dau fab hi; o ba rai enw un oedd Gersom: oblegid efe a ddywedasai, Dïeithr fûm mewn gwlad estronol.

4 Ac enw y llall oedd Eliezer: o herwydd Duw fy nhad oedd gynhorthwy i mi, eb efe, ac a’m hachubodd rhag cleddyf Pharaoh.

5 A Jethro, chwegrwn Moses, a ddaeth â’i feibion a’i wraig at Moses i’r anialwch, lle yr ydoedd efe yn gwersyllu ger llaw mynydd Duw.

6 Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Myfi Jethro, dy chwegrwn di, sydd yn dyfod attat ti, a’th wraig a’i dau fab gyd â hi.

7 ¶ A Moses a aeth allan i gyfar-