Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fod â’i chwegrwn; ac a ymgrymmodd, ac a’i cusanodd; a chyfarchasant well bob un i’w gilydd: a daethant i’r babell.

8 A Moses a fynegodd i’w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr Arglwydd i Pharaoh ac i’r Aiphtiaid, er mwyn Israel; a’r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o’r Arglwydd hwynt.

9 A llawenychodd Jethro oherwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Israel; yr hwn a waredasai efe o law yr Aiphtiaid.

10 A dywedodd Jethro, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a’ch gwaredodd o law yr Aiphtiaid, ac o law Pharaoh; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Aiphtiaid.

11 Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr Arglwydd na’r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch o hono, yr oedd efe yn uwch na hwynt.

12 A Jethro, chwegrwn Moses, a gymmerodd boeth-offrwm ac ebyrth i Dduw: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwytta bara gyd â chwegrwn Moses, ger bron Duw.

13 ¶ A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu y bobl: a safodd y bobl ger bron Moses, o’r bore hyd yr hwyr.

14 A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oil yr ydoedd efe yn ei wneuthur i’r bobl, efe a ddywedodd. Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i’r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o’r bore hyd yr hwyr?

15 A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod y bobl yn dyfod attaf i ymgynghori â Duw.

16 Pan fyddo iddynt achos, attaf fi y deuant; a myfi sydd yn barnu rhwng pawb a’i gilydd, ac yn hysbysu deddfau Duw a’i gyfreithiau.

17 A dywedodd chwegrwn Moses wrtho, Nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur.

18 Tydi a lwyr ddiffygi, a’r bobl yma hefyd y rhai sydd gyd â thi: canys rhy drwm yw’r peth i ti; ni elli ei wneuthur ef dy hun.

19 Gwrando ar fy llais i yn awr; mi a’th gynghoraf di, a bydd Duw gyd â thi: Bydd di dros y bobl ger bron Duw, a dwg eu hachosion at Dduw.

20 Dysg hefyd iddynt y deddfau a’r cyfreithiau; a hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a’r gweithredoedd a wnant.

21 Ac edrych dithau allan o’r holl bobl am wŷr nerthol, yn ofni, Duw, gwŷr geirwir, yn casâu cybydd-dod; a gosod y rhai hyn arnynt hwy, yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, ac yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.

22 A barnant hwy y bobl bob amser: ond dygant bob peth mawr attat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr ysgafnhêi arnat dy hun,a hwynt-hwy a ddygant y baich gyd â thi.

23 Os y peth hyn a wnei, a’i orchymyn o Dduw i ti; yna ti a elli barhâu, a’r holl bobl hyn a ddeuant i’w lle mewn heddwch.

24 A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe.

25 A Moses a ddewisodd wŷr grymmus allan o holl Israel, ac a’u rhoddodd hwynt yn bennaethiaid ar y bobl; yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.

26 A hwy a farnasant y bobl bob amser: y pethau caled a ddygent at Moses, a phob peth bychan a farnent hwy eu hunain.

27 ¶ A Moses a ollyngodd ymaith ei chwegrwn; ac efe a aeth adref i’w wlad.

PENNOD XIX.

1 Y bobl yn dyfod i Sinai. 3 Cennadwriaeth Duw at y bobl trwy law Moses allan o’r mynydd. 8 Dwyn atteb y bobl at Dduw. 10 Parottôi y bobl erbyn y trydydd dydd. 12 Ni wasanaetha cyffwrdd â’r mynydd. 16 Dychrynllyd bresennoldeb Duw ar y mynydd.

Yn y trydydd mis, wedi dyfod meibion Israel allan o wlad yr Aifft, y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai.

2 Canys hwy a aethant o Rephidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai, gwersyllasant hefyd yn yr anialwch: ac yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd.

3 A Moses a aeth i fynu at Dduw: a’r Arglwydd a alwodd arno ef o’r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel;

4 Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i’r Aiphtiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y’ch dygais attaf fi fy hun.