Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

5 Yn awr, gan hynny, os gan wrandaw y gwrandêwch ar fy llais, a chadw fy nghyfammod, chwi a fyddwch yn drysor prïodol i mi o flaen yr holl bobloedd: canys eiddo fi yr holl ddaear.

6 A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma y geiriau a leferi di wrth feibion Israel.

7 ¶ A daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchymynasai yr Arglwydd iddo.

8 A’r holl bobl a gyd-attebasant, ac a ddywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr Arglwydd.

9 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf attat mewn cwmmwl tew, fel y clywo y bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i’r Arglwydd.

10 ¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddyw ac yfory; a golchant eu dillad,

11 A byddant barod erbyn y trydydd dydd: o herwydd y trydydd dydd y disgyn yr Arglwydd y’ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai.

12 A gosod derfyn i’r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fynu i’r mynydd, neu gyffwrdd â’i gwrr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â’r mynydd a leddir yn farw.

13 Na chyffyrdded llaw âg ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano yr udgorn yn hirllaes, deuant i’r mynydd.

14 ¶ A Moses a ddisgynnodd o’r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad.

15 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Byddwch barod erbyn y trydydd dydd; nac ewch yn agos at eich gwragedd.

16 A’r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmmwl tew ar y mynydd, a llais yr udgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll.

17 A Moses a ddug y bobl allan o’r gwersyll i gyfarfod â Duw; a hwy a safasant y’ngodre y mynydd.

18 A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, o herwydd disgyn o’r Arglwydd arno mewn tân: a’i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a’r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr.

19 Pan ydoedd llais yr udgorn yn hir, ac yn cryfhâu fwyfwy, Moses a lefarodd; a Duw a attebodd mewn llais.

20 A’r Arglwydd a ddisgynnodd ar fynydd Sinai, ar ben y mynydd: a galwodd yr Arglwydd Moses i ben y mynydd; a Moses a aeth i fynu.

21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i waered, gorchymyn i’r bobl; rhag iddynt ruthro at yr Arglwydd i hylldremmu, a chwympo llawer o honynt.

22 Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd, y rhai a nesânt at yr Arglwydd; rhag i’r Arglwydd ruthro arnynt.

23 A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Ni ddichon y bobl ddyfod i fynu i fynudd Sinai; oblegid ti a dystiolaethaist wrthym, gan ddywedyd, Gosod derfyn ynghylch y mynydd, a sancteiddia ef.

24 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fynu, ac Aaron gyd â thi; ond na ruthred yr offeiriaid a’r bobl, i ddyfod i fynu at yr Arglwydd; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy.

25 Yna yr aeth Moses i waered at y bobl, ac a ddywededd wrthynt.


PENNOD XX.

1 Y deg gorchymyn. 18 Y bobl yn ofni. 20 Moses yn eu cysuro hwy. 22 Gwahardd gaudduwiaeth. 24 Portreiad yr allor.

A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd,

2 Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed.

3 Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.

4 Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear.

5 Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus; yn ymweled âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y dryd-