Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/879

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

1:3 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd,

1:4 Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a'r tŷ hwn yn anghyfannedd?

1:5 Fel hyn gan hynny yn awr y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystryiwch eich ffyrdd.

1:6 Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb, a'r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog.

1:7 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd.

1:8 Esgynnwch i'r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ ; mi a ymfodlonaf ynddo, ac y'm gogoneddir, medd yr ARGLWYDD.

1:9 Edrychasoch am lawer, ac wele, yr oedd yn ychydig; a phan ei dygasoch adref, chwythais arno. Am ba beth ? medd ARGLWYDD y lluoedd. Am fy nhŷ i, yr hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i'w dŷ ei hun.

1:10 Am hynny gwaharddwyd i'r nefoedd oddi arnoch wlitho, a gwaharddwyd i'r ddaear roddi ei ffrwyth.

1:11 Gelwais hefyd am sychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd, ac ar yr ŷ d ac ar y gwin, ac ar yr olew, ac ar yr hyn a ddwg y ddaear allan; ar ddyn hefyd, ac ar anifail, ac ar holl lafur dwylo,

1:12 Yna y gwrandawodd Sorobabel mab Salathiel, a Josua mab Josedec yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr ARGLWYDD eu DUW, ac ar eiriau Haggai y proffwyd, megis yr anfonasai eu HARGLWYDD DDUW hwynt ef; a'r bobl a ofnasant gerbron yr ARGLWYDD.

1:13 Yna Haggai cennad yr ARGLWYDD a lefarodd trwy genadwri yr ARGLWYDD wrth y bobl, gan ddywedyd, Yr wyf fi gyda chwi, medd yr ARGLWYDD.

1:14 Felly y cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac ysbryd Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac ysbryd holl weddill y bobl, a hwy a ddaethant ac a weithiasant y gwaith yn nhŷ ARGLWYDD y lluoedd eu DUW hwynt,

1:15 Y pedwerydd dydd ar hugain o'r chweched mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius y brenin.


PENNOD 2

2:1 Yn y seithfed mis, ar yr unfed dydd ar hugain o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law y proffwyd Haggai, gan ddywedyd,

2:2 Dywed yn awr wrth Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac wrth Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac wrth weddill y bobl, gan ddywedyd,

2:3 Pwy yn eich plith a adawyd, yr hwn a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? a pha fodd y gwelwch chwi ef yr awr hon? onid yw wrth hwnnw yn eich golwg fel peth heb ddim?

2:4 Eto yn awr ymgryfha, Sorobabel, medd yr ARGLWYDD, ac ymgryfha, Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac ymgryfhewch, holl bobl y tir, medd yr ARGLWYDD, a gweithiwch: canys yr ydwyf fi gyda chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd:

2:5 Yn ôl y gair a amodais â chwi pan ddaethoch allan o'r Aifft, felly yr erys fy ysbryd yn eich mysg: nac ofnwch.

2:6 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Unwaith eto, ennyd fechan yw, a mi a ysgydwaf y nefoedd, a'r ddaear, a'r môr, a'r sychdir;

2:7 Ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd a dymuniant yr holl genhedloedd a ddaw; llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniant, medd ARGLWYDD y lluoedd.

2:8 Eiddof fi yr arian, ac eiddof fi yr aur, medd ARGLWYDD y lluoedd.

2:9 Bydd mwy gogoniant y tŷ diwethaf hwn na'r cyntaf, medd ARGLWYDD y lluoedd: ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnefedd, medd ARGLWYDD y lluoedd.

2:10 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd,

11 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Gofyn yr awr hon i'r offeiriaid y gyfraith, gan ddywedyd,

2:12 Os dwg un gig sanctaidd yng