nghwrr ei wisg, ac â'i gwr a gyffwrdd â'r bara, neu â'r cawl, neu â'r gwin, neu â'r olew, neu â dim o'r bwyd, a fyddant hwy sanctaidd? A'r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Na fyddant.
2:13 A Haggai a ddywedodd, Os un a fo aflan gan gorff marw â gyffwrdd â dim o'r rhai hyn, a fyddant hwy aflan? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Byddant aflan.
2:14 Yna yr atebodd Haggai, ac a ddywedodd, Felly y mae y bobl hyn, ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron, medd yr ARGLWYDD; ac felly y mac holl waith eu dwylo, a'r hyn a aberthant yno, yn aflan.
2:15 Ac yr awr hon meddyliwch, atolwg, o'r diwrnod hwn allan a chynt, cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr ARGLWYDD;
2:16 Er pan oedd y dyddiau hynny pan ddelid at dwr o ugain llestraid, deg fyddai; pan ddelid at y gwinwryf i dynnu deg llestraid a deugain o'r cafn, ugain a fyddai yno.
2:17 Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter, ac â chenllysg, yn holl waith eich dwylo; a chwithau ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD.
2:18 Ystyriwch yr awr hon o'r dydd hwn ac er cynt, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, ac ystyriwch o'r dydd y sylfaenwyd teml yr ARGLWYDD.
19 A yw yr had eto yn yr ysgubor? y winwydden hefyd, y ffigysbren, a'r pomgranad, a'r pren olewydd, ni ffrwythasant: o'r dydd hwn allan y bendithiaf chwi.
20 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth eilwaith at Haggai, ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r mis, gan ddywedyd,
21 Llefara wrth Sorobabel tywysog Jwda, gan ddywedyd, Myfi a ysgydwaf y lefoedd a'r ddaear;
22 A mi a ymchwelaf deyrngadair teyrnasoedd, ac a ddinistriaf gryfder breniniaethau y cenhedloedd; ymchwelaf hefyd y cerbydau, a'r rhai a eisteddant ynddynt; a'r meirch a'u marchogion a syrthiant, bob un gan gleddyf ei frawd.
23 Y diwrnod hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y'th gymeraf di, fy ngwas Sorobabel, mab Salathiel, medd yr ARGLWYDD, ac y'th wnaf fel sêl: canys mi a'th ddewisais di, medd ARGLWYDD y lluoedd.
LLYFR ZECHARIAH.
PENNOD 1
1:1 Yn yr wythfed mis o'r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd,
1:2 Llwyr ddigiodd yr ARGLWYDD wrth eich tadau.
1:3 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Dychwelwch ataf fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd ARGLWYDD y lluoedd.
1:4 Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y proffwydi o'r blaen arnynt, an ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Dychwelwch yn awr oddi wrth eich ffyrdd drwg, ac oddi wrth eich gweithredoedd drygionus: ond ni chlywent, ac ni wrandawent arnaf, medd yr ARGLWYDD.
1:5 Eich tadau, pa le y maent hwy? a'r proffwydi, ydynt hwy yn fyw byth?
1:6 Oni ddarfu er hynny i'm geiriau a'm deddfau, y rhai a orchmynnais wrth fy ngweision y proffwydi, oddiwes eich tadau? a hwy a ddychwelasant, ac a dywedasant, Megis y meddyliodd ARGLWYDD y lluoedd wneuthur i ni, yn ôl ein ffyrdd, ac yn ôl ein gweithredoedd ein hun, felly y gwnaeth efe â ni.
1:7 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r unfed mis ar ddeg, hwnnw yw mis Sebat, o'r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd,
1:8 Gwelais noswaith; ac wele w^r yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrt-