Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/881

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

wydd y rhai oedd yn y pant; ac o'i ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynion.

1:9 Yna y dywedais, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf, Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn.

1:10 A'r gw^r, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, a atebodd ac a ddywedodd, Dyma y rhai a hebryngodd yr ARGLWYDD i ymrodio trwy y ddaear.

1:11 A hwythau a atebasant angel yr ARGLWYDD, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, Rhodiasom trwy y ddaear; ac wele yr holl ddaear yn eistedd, ac yn llonydd.

1:12 Ac angel yr ARGLWYDD a atebodd ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, pa hyd na thrugarhei wrth Jerwsalem, a dinasoedd Jwda, wrth y rhai y digiaist y deng mlynedd a thrigain hyn?

1:13 A'r ARGLWYDD a atebodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi, â geiriau daionus, a geiriau comfforddus.

1:14 A'r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthyf, Gwaedda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Deliais eiddigedd mawr dros Jerwsalem a thros Seion:

1:15 A digiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd difraw; y rhai pan ddigiais ychydig, hwythau a gynorthwyasant y niwed.

1:16 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dychwelais at Jerwsalem â thrugareddau: fy nhy^ a adeiledir ynddi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a llinyn a estynnir ar Jerwsalem.

1:17 Gwaedda eto, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Fy ninasoedd a ymehangant gan ddaioni, a'r ARGLWYDD a rydd gysur i Seion eto, ac a ddewis Jerwsalem eto.

1:18 A chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele, bedwar corn.

1:19 A dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn? Dywedodd yntau wrthyf, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, Israel, a Jerwsalem.

1:20 A'r ARGLWYDD a ddangosodd i mi bedwar saer hefyd.

1:21 Yna y dywedais, I wneuthur pa beth y daw y rhai hyn? Ac efe a lefarodd, gan ddywedyd, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, fel na chodai un ei ben: ond y rhai hyn a ddaethant i'w tarfu hwynt, i daflu allan gyrn y Cenhedloedd, y rhai a godasant eu cyrn ar wlad Jwda i'w gwasgaru hi.


PENNOD 2

2:1 Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele w^r, ac yn ei law linyn mesur.

2:2 A dywedais, I ba le yr ei di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, I fesuro Jerwsalem, i weled beth yw ei lled hi, a pheth yw ei hyd hi.

2:3 Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan i'w gyfarfod ef.

2:4 Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhed, llefara wrth y llanc hwn, gan ddywedyd Jerwsalem a gyfanheddir fel maestrefi rhag amled dyn ac anifail o'i mewn.

2:5 Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch, medd yr ARGLWYDD, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.

2:6 Ho, ho, deuwch allan, a ffowch o wlad y gogledd, medd yr ARGLWYDD: canys taenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd, medd yr ARGLWYDD.

2:7 O Seion, ymachub, yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babilon.

2:8 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ar ôl y gogoniant y'm hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a'ch ysbeiliasant chwi: canys a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef.

2:9 Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt, a byddant yn ysglyfaeth i'w gweision: a chânt wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd.

2:10 Cân a llawenycha, merch Seion: canys wele fi yn dyfod; a mi a drigaf yn dy ganol di, medd yr ARGLWYDD.

2:11 A'r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr ARGLWYDD, ac a fyddant bobl i mi: a mi a drigaf yn dy ganol di; a chei wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd atat.

2:12 A'r ARGLWYDD a etifedda Jwda, ei ran yn y tir sanctaidd, ac a ddewis Jerwsalem drachefn.