Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/887

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

11:1 Libanus, agor dy ddorau, fel yr yso y tân dy gedrwydd.

11:2 Y ffynidwydd, udwch; canys cwympodd y cedrwydd, difwynwyd y rhai ardderchog: udwch, dderw Basan; canys syrthiodd coedwig y gwin-gynhaeaf.

11:3 Y mae llef udfa y bugeiliaid! am ddifwyno eu hardderchowgrwydd: llef rhuad y llewod ieuainc! am ddifwyno balchder yr Iorddonen.

11:4 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD fy NUW; Portha ddefaid y lladdfa;

11:5 Y rhai y mae eu perchenogion yn eu lladd, heb dybied eu bod yn euog; a’u gwerthwyr a ddywedant, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, am fy nghyfoethogi; a'u bugeiliaid nid arbedant hwynt.

11:6 Canys nid arbedaf mwyach drigolion y wlad, medd yr ARGLWYDD; ond wele fi yn rhoddi y dynion bob un i law ei gymydog, ac i law ei frenin; a hwy a drawant y tir, ac nid achubaf hwynt o'u llaw hwy.

11:7 A mi a borthaf ddefaid y lladdfa, sef chwi, drueiniaid y praidd. A chymerais i mi ddwy ffon; un a elwais Hyfrydwch, a'r llall a elwais Rhwymau; a mi a borthais y praidd.

11:8 A thorrais ymaith dri bugail mewn un mis; a'm henaid a alarodd arnynt hwy, a'u henaid hwythau a'm ffieiddiodd innau,

11:9 Dywedais hefyd, Ni phorthaf chwi: a fyddo farw, bydded farw; ac y sydd i'w dorri ymaith, torrer ef ymaith, a'r gweddill, ysant bob un gnawd ei gilydd.

11:10 A chymerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fy nghyfamod yr hwn a amodaswn a'r holl bobl.

11:11 A'r dydd hwnnw y torrwyd hi: ac felly y gwybu trueiniaid y praidd, y rhai oedd yn disgwyl wrthyf fi, mai gair yr ARGLWYDD oedd hyn.

11:12 A dywedais wrthynt, Os gwelwch yn dda, dygwch fy ngwerth; ac onid e, peidiwch: a'm gwerth a bwysasant yn ddeg ar hugain o arian.

11:13 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Bwrw ef i'r crochenydd: pris teg â'r hwn y'm prisiwyd ganddynt. A chymerais y deg ar hugain arian, a bwriais hwynt i dy^ yr ARGLWYDD, i'r crochenydd.

11:14 Yna mi a dorrais fy ail ffon, sef Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.

11:15 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cymer eto i ti offer bugail ffôl.

11:16 Canys wele fi yn codi bugail yn y tir, yr hwn ni ofwya y cuddiedig, ni chais yr ieuanc, ni feddyginiaetha y briwedig, a fyddo yn sefyll ni phortha; ond bwyty gig y bras, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt.

11:17 Gwae yr eilun bugail, yn gadael y praidd: y cleddyffydd ar ei fraich, ac ar ei lygad deau: ei fraich gan wywo a wywa, a'i lygad deau gan dywyllu a dywylla.


PENNOD 12

12:1 Baich gair yr ARGLWYDD i Israel, medd yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd, ac yn sylfaenu y ddaear, ac yn llunio ysbryd dyn ynddo.

12:2 Wele fi yn gwneuthur Jerwsalem yn ffiol gwsg i'r bobloedd oll o amgylch, pan fyddont yn y gwarchae yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Jerwsalem.

12:3 A bydd y dwthwn hwnnw i mi wneuthur Jerwsalem yn faen trwm i'r holl bobloedd: pawb a ymlwytho ag ef yn ddiau a rwygir, er ymgasglu o holl genhedloedd y ddaear yn ei erbyn ef.

12:4 Y diwrnod hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y trawaf bob march â syndra, a'i farchog ag ynfydrwydd; ac agoraf fy llygaid ar dy Jwda, a thrawaf holl feirch y bobl â dallineb.

12:5 A thywysogion Jwda a ddywedant yn eu calon, Nerth i mi fydd preswylwyr Jerwsalem yn ARGLWYDD y lluoedd eu DUW hwynt.

12:6 Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Jwda fel aelwyd o dân yn y coed, ac fel ffagl dân mewn ysgub o wellt; ac ysant ar y llaw ddeau ac ar yr aswy, yr holl bobloedd o amgylch: a Jerwsalem a gyfanheddir drachefn yn ei lle ei hun, yn Jerwsalem.

12:7 Yr ARGLWYDD a geidw bebyll Jwda yn gyntaf, megis nad ymfawrygo gogoniant ty^ Dafydd, a gogoniant preswylwyr Jerwsalem, yn erbyn Jwda.