Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/888

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

12:8 Y dydd hwnnw yr amddiffyn yr ARGLWYDD breswylwyr Jerwsalem: a bydd y llesgaf ohonynt y dydd hwnnw fel Dafydd; a thy^ Dafydd fydd fel Duw, fel angel yr ARGLWYDD o'u blaen hwynt.

12:9 Y dydd hwnnw y bydd i mi geisio difetha yr holl genhedloedd y sydd yn dyfod yn erbyn Jerwsalem.

12:10 A thywalltaf ar dy^ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerwsalem, ysbryd gras a gweddïau; a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant; galarant hefyd amdano fel un yn galaru am ei unig-anedig, ac ymofidiant amdano ef megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig.

12:11 Y dwthwn hwnnw y bydd galar mawr yn Jerwsalem, megis galar Hadadrimmon yn nyffryn Megidon.

12:12 A'r wlad a alara, pob teulu wrtho ei hun; teulu ty Dafydd wrtho ei hun, a'u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu ty^ Nathan wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain;

12:13 Teulu ty^ Lefi wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu ty^ Simei wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain;

12:14 Yr holl deuluoedd eraill, pob teulu wrtho ei hun, a'u gwragedd wrthynt eu hunain.


PENNOD 13

13:1 Y dydd hwnnw y bydd ffynnon wedi ei hagoryd i dy^ Dafydd, ac i breswylwyr Jerwsalem, i bechod ac aflendid.

13:2 A bydd y dwthwn hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, i mi dorri enwau yr eilunod allan o'r tir, ac nis cofir hwynt mwyach; a gyrraf hefyd y proffwydi ac ysbryd aflendid o'r wlad.

13:3 A bydd pan broffwydo un mwyach, y dywed ei dad a'i fam a'i cenedlasant ef wrtho, Ni chei fyw; canys dywedaist gelwydd yn enw yr ARGLWYDD: a'i dad a'i fam a'i cenedlasant ef a'i gwanant ef pan fyddo yn proffwydo.

13:4 A bydd y dydd hwnnw, i'r proffwydi gywilyddio bob un am ei weledigaeth, wedi iddo broffwydo; ac ni wisgant grys o rawn i dwyllo:

13:5 Ond efe a ddywed, Nid proffwyd ydwyf fi; llafurwr y ddaear ydwyf fi; canys dyn a'm dysgodd i gadw anifeiliaid o'm hieuenctid.

13:6 A dywed un wrtho, Beth a wna y gwelïau hyn yn dy ddwylo? Yna efe a ddywed, Dyma y rhai y'm clwyfwyd â hwynt yn nhy^ fy ngharedigion.

13:7 Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gw^r sydd gyfaill i mi, medd ARGLWYDD y lluoedd: taro y bugail, a'r praidd a wasgerir; a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain.

13:8 A bydd yn yr holl dir, medd yr ARGLWYDD, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a'r drydedd a adewir ynddo.

13:9 A dygaf drydedd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: hwy a alwant ar fy enw, a minnau a'u gwrandawaf: dywedaf, Fy mhobl yw efe; ac yntau a ddywed, Yr ARGLWYDD yw fy NUW.


PENNOD 14

14:1 Wele ddydd yr ARGLWYDD yn dyfod, a rhennir dy ysbail yn dy ganol di.

14:2 Canys mi a gasglaf yr holl genhedloedd i ryfel yn erbyn Jerwsalem: a'r ddinas a oresgynnir, y tai a anrheithir, a'r gwragedd a dreisir; a hanner y ddinas a a allan i gaethiwed, a'r rhan arall o'r bobl nis torrir ymaith o'r ddinas.

14:3 A'r ARGLWYDD a â allan, ac a ryfela yn erbyn y cenhedloedd hynny, megis y dydd y rhyfelodd efe yn nydd y gad.

14:4 A'i draed a safant y dydd hwnnw ar fynydd yr Olewydd, yr hwn sydd ar gyfer Jerwsalem, o du y dwyrain; a mynydd yr Olewydd a hyllt ar draws ei hanner tua'r dwyrain a thua'r gorllewin, a bydd dyffryn mawr iawn: a hanner y mynydd a symud tua'r gogledd, a'i hanner tua'r deau.

14:5 A chwi a ffowch i ddyffryn y mynyddoedd; canys dyffryn y mynyddoedd a gyrraedd hyd Asal: a ffowch fel y ffoesoch rhag y ddaeargryn yn nyddiau Usseia brenin Jwda: a daw yr ARGLWYDD fy NUW, a'r holl saint gyda thi.

14:6 A'r dydd hwnnw y daw i ben,