Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iddi; yna aed hi allan yn rhad heb arian.

12 ¶ Rhodder i farwolaeth y neb a darawo wr, fel y byddo marw.

13 Ond yr hwn ni chynllwynodd, ond rhoddi o Dduw ef yn ei law ef, mi a osodaf i ti fan lle y caffo ffoi.

14 Ond os daw dyn yn rhyfygus ar ei gymmydog, i’w ladd ef trwy dwyll; cymmer ef i farwolaeth oddi wrth fy allor.

15 ¶ Y neb a darawo ei dad, neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.

16 ¶ Yr hwn a ladrattao ddyn, ac a’i gwertho, neu os ceir ef yn ei law ef, rhodder ef i farwolaeth.

17 ¶ Rhodder i farwolaeth yr hwn a felldithio ei dad, neu ei fam.

18 ¶ A phan ymrysono dynion, a tharo o’r naill y llall â charreg, neu â dwrn, ac efe heb farw, ond gorfod iddo orwedd;

19 Os cyfyd efe, a rhodio allan wrth ei ffon; yna y tarawydd a fydd dïangol: yn unig rhodded ei golled am ei waith, a chan feddyginiaethu meddyginiaethed ef.

20 ¶ Ac os tery un ei wasanaethwr, neu ei wasanaeth-ferch, â gwïalen, fel y byddo farw dan ei law ef; gan ddïal dïaler arno.

21 Ond os erys ddiwrnod, neu ddau ddiwrnod, na ddïaler arno; canys gwerth ei arian ei hun ydoedd efe.

22 ¶ Ac os ymrafaelia dynion, a tharo o honynt wraig feichiog, fel yr êl ei beichiogi oddi wrthi, ac heb fod marwolaeth: gan gospi cosper ef, fel y gosodo gwr y wraig arno; a rhodded hynny trwy farnwyr.

23 Ac os marwolaeth fydd; rhodder einioes am einioes,

24 Llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,

25 Llosg am losg, archoll am archoll, a chlais am glais.

26 ¶ Os tery un lygad ei wasanaethwr, neu lygad ei wasanaeth-ferch, fel y llygro ef; gollynged ef yn rhydd am ei lygad:

27 Ac os tyrr efe ymaith ddant ei wasanaethwr, neu ddant ei wasanaeth-ferch; gollynged ef yn rhydd am ei ddant.

28 ¶ Ac os ŷch a gornia wr neu wraig, fel y byddo farw: gan labyddio llabyddier yr ŷch, ac na fwyttâer ei gig ef; ac aed perchen yr ŷch yn rhydd.

29 Ond os yr ŷch oedd yn cornio o’r blaen, a hynny trwy dystion wedi ei hysbysu i’w berchennog; ac efe heb ei gadw ef, ond lladd o hono wr neu wraig: yr ŷch a labyddir, a’i berchennog a roddir i farwolaeth hefyd.

30 Os iawn a roddir arno, rhodded werth am ei einioes, yn ol yr hyn oll a osoder arno.

31 Os mab a gornia efe, neu ferch a gornia efe; gwneler iddo yn ol y farnedigaeth hon.

32 Ond os gwasanaethwr neu wasanaeth-ferch a gornia yr ŷch; rhodded i’w perchennog ddeg sicl ar hugain o arian, a llabyddier yr ŷch.

33 ¶ Ac os egyr gwr bydew, neu os cloddia un bydew, ac heb gau arno; a syrthio yno ŷch, neu asyn;

34 Perchen y pydew a dâl am danynt: arian a dâl efe i’w perchennog; a’r anifail marw a fydd iddo yntau.

35 ¶ Ac os ŷch gwr a dery ŷch ei gymmydog, fel y byddo efe farw; yna gwerthant yr ŷch byw, a rhannant ei werth ef, a’r ŷch marw a rannant hefyd.

36 Neu os gwybuwyd ei fod ef yn ŷch hwyliog o’r blaen, a’i berchennog heb ei gadw ef; gan dalu taled ŷch am ŷch, a bydded y marw yn eiddo ef.


PENNOD XXII.

1 Am ladrad. 5 Am golled. 7 Am sarhâd. 14 Am fenthyg. 16 Am anniweirdeb. 18 Am ddewiniaeth. 19 Am orwedd gyd âg anifail. 20 Am ddelw-addoliaeth. 21 Am ddïeithriaid, a gweddwon, ac amddifaid. 25 Am usuriaeth. 26 Am wyston. 28 Am barch i swyddogion. 29 Am flaen-ffrwythau.

Os lladratta un ŷch neu ddafad, a’i ladd, neu ei werthu; taled bùm ŷch am ŷch, a phedair dafad am ddafad.

2 Os ceir lleidr yn torri , a’i daro fel y byddo farw; na choller gwaed am dano.

3 Os bydd yr haul wedi codi arno, coller gwaed am dano; efe a ddyly gwbl-dalu: oni bydd dim ganddo, gwerther ef am ei ladrad.

4 Os gan gael y ceir yn ei law ef y lladrad yn fyw, o eidion, neu asyn, neu ddafad; taled yn ddwbl.

5 ¶ Os pawr un faes, neu winllan, a gyrru ei anifail i bori maes un arall; taled o’r hyn goreu yn ei faes ei hun, ac o’r hyn goreu yn ei winllan ei hun.