Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

6 ¶ Os tân a dyrr allan, ac a gaiff afael mewn drain, fel y difâer dâs o ŷd, neu ŷd ar ei droed, neu faes; cwbl-daled yr hwn a gynneuodd y tân.

7 Os rhydd un i’w gymmydog arian, neu ddodrefn i gadw, a’i ladratta o dŷ y gwr; os y lleidr a geir, taled yn ddwbl:

8 Os y lleidr ni cheir, dyger perchennog y tŷ at y swyddogion i dyngu, a estynodd efe ei law at ddâ ei gymmydog.

9 Am bob math ar gamwedd, am eidion, am asyn, am ddafad, am ddilledyn, ac am bob peth a gollo yr hwn a ddywedo arall ei fod yn eiddo: deued achos y ddau ger bron y barnwyr; a’r hwn y barno y swyddogion yn ei erbyn, taled i’w gymmydog yn ddwbl.

10 Os rhydd un asyn, neu eidion, neu ddafad, neu un anifail, at ei gymmydog i gadw, a marw o hono, neu ei friwo, neu ei yrru ymaith heb neb yn gweled:

11 Bydded llw yr Arglwydd rhyngddynt ill dau, na roddes efe ei law at ddâ ei gymmydog; a chymmered ei berchennog hynny, ac na wnaed y llall iawn.

12 Ac os gan ladratta y lladrattêir ef oddi wrtho; gwnaed iawn i’w berchennog.

13 Os gan ysglyfaethu yr ysglyfaethir ef; dyged ef yn dystiolaeth, ac na thaled am yr hwn a ysglyfaethwyd.

14 ¶ Ond os benthyccia un gan ei gymmydog ddim, a’i friwo, neu ei farw, heb fod ei berchennog gyd âg ef, gan dalu taled.

15 Os ei berchennog fydd gyd âg ef, na thaled: os llog yw efe, am ei log y daeth.

16 ¶ Ac os huda un forwyn yr hon ni ddyweddïwyd, a gorwedd gyd â hi; gan gynnysgaeddu cynnysgaedded hi yn wraig iddo ei hun.

17 Os ei thad a lwyr-wrthyd ei rhoddi hi iddo, taled arian yn ol gwaddol morynion.

18 ¶ Na chaffed hudoles fyw.

19 ¶ Llwyr-rodder i farwolaeth bob un a orweddo gyd âg anifail.

20 ¶ Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i’r Arglwydd yn unig.

21 ¶ Na orthrymma, ac na flina y dïeithr: canys dïeithriaid fuoch chwithau yn nhir yr Aipht.

22 ¶ Na chystuddiwch un weddw, nac amddifad.

23 Os cystuddiwch hwynt mewn un modd, a gwaeddi o honynt ddim arnaf; mi a lwyr-wrandawaf eu gwaedd hwynt;

24 A’m digofaint a ennyn, a mi a’ch lladdaf â’r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon, a’ch plant yn amddifaid.

25 ¶ Os echwynni arian i’m pobl sydd dlawd yn dy ymyl, na fydd fel occrwr iddynt: na ddod usuriaeth arnynt.

26 Os cymmeri ddilledyn dy gymmydog ar wystl, dyro ef adref iddo erbyn machludo haul:

27 O herwydd hynny yn unig sydd i’w roddi arno ef; hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef: mewn pa beth y gorwedd? A bydd, os gwaedda efe arnaf, i mi wrandaw; canys trugarog ydwyf fi.

28 ¶ Na chabla y swyddogion; ac na felldithia bennaeth dy bobl.

29 ¶ Nac oeda dalu y cyntaf o’th ffrwythau aeddfed, ac o’th bethau gwlybion: dod i mi y cyntaf-anedig o’th feibion.

30 Felly y gwnei am dy eidion, ac am dy ddafad; saith niwrnod y bydd gyd â’i fam, a’r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.

31 ¶ A byddwch yn ddynion sanctaidd i mi: ac na fwyttêwch gig wedi ei ysglyfaethu yn y maes; teflwch ef i’r ci.


PENNOD XXIII.

1 Am enllib, a gau-dystiolaeth. 3, 6 Am gyfiawnder. 4 Am gymmydogaeth. 10 Am y flwyddyn orphwys. 12 Am y Sabbath. 13 Am ddelw-addoliaeth. 14 Am y tair gwyl. 18 Am waed a brasder yr aberth. 20 Addaw angel, a bendithio, os hwy a ufuddhânt.

Na chyfod enllib; na ddod dy law gyd â’r annuwiol i fod yn dyst anwir.

2 ¶ Na ddilyn lïaws i wneuthur drwg; ac nac atteb mewn ymrafael, gan bwyso yn ol llaweroedd, i ŵyro barn.

3 ¶ Na pharcha y tlawd chwaith yn ei ymrafael.

4 ¶ Os cyfarfyddi âg eidion dy elyn, neu â’i asyn, yn myned ar gyfrgoll; dychwel ef adref iddo.

5 Os gweli asyn yr hwn a’th gasâ yn gorwedd dan ei bwn; a beidi â’i gynnorthwyo? gan gynnorthwyo cynnorthwya gyd âg ef.

6 Na ŵyra farn dy dlawd yn ei ymrafael.