Eithr o’r diwedd fe a ddaeth dau gau dyst,
26:61 Ac ddywedasant, Hwn a ddywedodd, Mi a allaf ddinistrio teml Dduw, a’i hadeiladu mewn tri diwrnod.
26:62 A chyfododd yr archoffeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A atebi di ddim? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn?
26:63 Ond yr Iesu a dawodd. A’r archoffeiriad gan ateb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy’r Duw byw, ddywedyd ohonot i ni, ai tydi yw y Crist, Mab Duw.
26:64 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch Fab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod ar gymylau’r nef.
26:65 Yna y rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, Efe a gablodd: pa raid inni mwy wrth dystion? wele, yr awron clywsoch ei gabledd ef.
26:66 Beth dybygwch chwi? Hwythau gan ateb a ddywedasant, Y mae efe yn euog o farwolaeth.
26:67 Yna y poerasant yn ei wyneb, ac a’i cernodiasant; eraill a’i trawsant ef â gwiail,
26:68 Gan ddywedyd, Proffwyda i ni, O Grist, pwy yw’r hwn a’th drawodd?
26:69 ¶ A Phedr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwynig ato, ac a ddywedodd, A thithau oeddit gydag Iesu y Galilead.
26:70 Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd.
26:71 A phan aeth efe allan i’r porthy gwelodd un arall ef; a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, Yr oedd hwn hefyd gyda’r Iesu o Nasareth.
26:72 A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dyn.
26:73 Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, ac a ddywedasant wrth Pedr, Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt; canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo.
26:74 Yna y dechreuodd efe regi a thyngu, Nid adwaen i y dyn. Ac yn y man y canodd y ceiliog.
26:75 A chofiodd Pedr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasai wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, ti a’m gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.
PENNOD 27
27:1 A phan ddaeth y bore, cydymgynghorodd yr holl archoffeiriaid, a henuriaid y bobl, yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth.
27:2 Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant ef i Pontius Peilat y rhaglaw.
27:3 ¶ Yna pan welodd Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i’r archoffeiriaid a’r henuriaid,
27:4 Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwythau a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di.
27:5 Ac wedi iddo daflu’r arian yn y deml, efe a ymadawodd, ac a aeth ac a ymgrogodd.
27:6 A’r archoffeiriaid a gymerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlon i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa, canys gwerth gwaed ydyw.
27:7 Ac wedi iddynt gydymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithriaid.
27:8 Am hynny y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hyd heddiw.
27:9 (Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremeias y proffwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feibion Israel;
27:10 Ac a’u rhoesant hwy am faes y crochenydd, megis y gosododd yr Arglwydd i mi.)
27:11 A’r Iesu a safodd gerbron y rhaglaw: a’r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.
27:12 A phan gyhuddid ef gan yr archoffeiriaid a’r henuriaid, nid atebodd efe ddim.
27:13 Yna y dywedodd Peilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di?
27:14 Ac nid atebodd efe iddo i un gair; fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr.