Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/930

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

27:15 Ac ar yr ŵyl honno yr arferai’r rhaglaw ollwng yn rhydd i’r bobl un carcharor, yr hwn a fynnent.

27:16 Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas.

27:17 Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd, Peilat a ddywedodd wrthynt. Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas, ai’r Iesu, yr hwn a elwir Crist?

27:18 Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef.

27:19 ¶ Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â’r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o’i achos ef.

27:20 A’r archoffeiriaid a’r henuriaid a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barabbas, ac y difethent yr Iesu.

27:21 A’r rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt. Pa un o’r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwythau a ddywedasant, Barabbas.

27:22 Peilat a ddywedodd wrthynt. Pa beth gan hynny a wnaf i’r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croeshoelier ef.

27:23 A’r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croeshoelier ef.

27:24 ¶ A Peilat, pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf, a gymerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo gerbron y bobl, gan ddywedyd, Dieuog ydwyf fi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi.

27:25 A’r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.

27:26 ¶ Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt: ond yr Iesu a fflangellodd efe, ac a’i rhoddes i’w groeshoelio.

27:27 Yna milwyr y rhaglaw a gymerasant yr Iesu i’r dadleudy, ac a gynullasant ato yr holl fyddin.

27:28 A hwy a’i diosgasant ef, ac a roesant amdano fantell o ysgarlad.

27:29 ¶ A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a’i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddeau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a’i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenin yr Iddewon.

27:30 A hwy a boerasant arno, ac a gymerasant y gorsen, ac a’i trawsant ar ei ben.

27:31 Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a’i diosgasant ef o’r fantell, ac a’i gwisgasant â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant ef ymaith i’w groeshoelio.

27:32 Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a’i enw Simon; hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef.

27:33 ¶ A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle’r benglog,

27:34 Hwy a roesant iddo i’w yfed, finegr yn gymysgedig a bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed.

27:35 Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd, Hwy a ranasant fy nillad. yn eu plith, ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren.

27:36 A chan eistedd, hwy a’i gwyliasant ef yno:

27:37 A gosodasant hefyd uwch ei ben ef ei achos yn ysgrifenedig, HWN YW IESU, BRENIN YR IDDEWON.

27:38 Yna y croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy.

27:39 ¶ A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau,

27:40 A dywedyd, Ti yr hwn a ddinistri’r deml, ac a’i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun. Os ti yw Mab Duw, disgyn oddi ar y groes.

27:41 A’r un modd yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar, gyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, a ddywedasant,

27:42 Efe a waredodd eraill, ei hunan nis gall efe ei waredu. Os Brenin Israel yw, disgynned yr awron oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo.

27:43 Ymddiriedodd yn Nuw; gwareded efe ef yr awron, os efe a’i myn ef: canys efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf.

27:44 A’r un peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groeshoeliasid gydag ef.

27:45 Ac o’r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.

27:46 Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan