Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/931

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist?

27:47 A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Eleias.

27:48 Ac yn y fan un ohonynt a redodd, ac a gymerth ysbwng, ac a’i llanwodd o finegr, ac a’i rhoddodd ar gorsen, ac a’i diododd ef.

27:49 A’r lleill a ddywedasant. Paid, edrychwn a ddaw Eleias i’w waredu ef.

27:50 ¶ A’r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â’r ysbryd.

27:51 Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered: a’r ddaear a grynodd, a’r meini a holltwyd:

27:52 A’r beddau a agorwyd; a llawer o gyrff y saint a hunasent a gyfodasant,

27:53 Ac a ddaethant allan o’r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer.

27:54 Ond y canwriad, a’r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a’r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydoedd hwn.

27:55 Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef:

27:56 Ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joses, a mam meibion Sebedeus.

27:57 ¶ Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Arimathea, a’i enw Joseff, yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i’r Iesu:

27:58 Hwn a aeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. Yna y gorchmynnodd Peilat roddi’r corff.

27:59 A Joseff wedi cymryd y corff, a’i hamdôdd â lliain glân,

27:60 Ac a’i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ae a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith.

27:61 Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a’r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â’r bedd.

27:62 ¶ A thrannoeth, yr hwn sydd ar ôl y darpar-ŵyl, yr ymgynullodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid at Peilat,

27:63 Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gof gennym ddywedyd o’r twyllwr hwnnw, ac efe eto yn fyw, Wedi tridiau y cyfodaf.

27:64 Gorchymyn gan hynny gadw’r bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd; rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos, a’i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diwethaf yn waeth na’r cyntaf.

27:65 A dywedodd Peilat wrthynt, Y mae gennych wyliadwriaeth; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch.

27:66 A hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen, gyda’r wyliadwriaeth.


PENNOD 28

28:1 A yn niwedd y Saboth, a hi yn dyddhau i’r dydd cyntaf o’r wythnos, daeth Mair Magdalen, a’r Fair arall, i edrych y bedd.

28:2 Ac wele, bu daeargryn mawr: canys disgynnodd angel yr Arglwydd o’r nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno.

28:3 A’i wynepryd oedd fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira.

28:4 A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac a aethant megis yn feirw.

28:5 A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd.

28:6 Nid yw efe yma: canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd.

28:7 Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i’w ddisgyblion, gyfodi ohono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Galilea: yno gwelwch ef. Wele, dywedais i chwi.

28:8 Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd, gydag ofn â llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion ef.

28:9 ¶ Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i’w ddisgyblion ef, wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy a ddaethant, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a’i haddolasant.