Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

deg a thri ugain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell.

2 Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fynu gyd âg ef.

3 ¶ A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau yr Arglwydd, a’r holl farnedigaethau. Ac attebodd yr holl bobl yn un-air, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd.

4 A Moses a ysgrifennodd holl eiriau yr Arglwydd; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor îs law y mynydd, a deuddeg colofn, yn ol deuddeg llwyth Israel.

5 Ac efe a anfonodd langciau meibion Israel; a hwy a offrymmasant boeth-offrymmau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd.

6 A chymmerodd Moses hanner y gwaed, ac a’i gosododd mewn cawgiau, a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor.

7 Ac efe a gymmerth lyfr y cyfammod, ac a’i darllenodd lle y clywai y bobl. A dywedasant, Ni a wnawn, ac a wrandâwn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd.

8 A chymmerodd Moses y gwaed, ac a’i taenellodd ar y bobl; ac a ddywedodd, Wele waed y cyfammod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi, yn ol yr holl eiriau hyn.

9 ¶ Yna yr aeth Moses i fynu, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thri ugain o henuriaid Israel.

10 A gwelsant Dduw Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saphir, ac fel corph y nefoedd o ddisgleirder.

11 Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond gwelsant Dduw, a bwyttasant ac yfasant.

12 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Tyred i fynu attaf i’r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti lechau cerrig, a chyfraith, a gorchymynion, y rhai a ysgrifenais, i’w dysgu hwynt.

13 A chododd Moses, a Josua ei weinidog; ac aeth Moses i fynu i fynydd Duw.

14 Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, Arhoswch ni yma, hyd oni ddelom ni attoch drachefn: ac wele, Aaron a Hur gyd â chwi; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo, deued attynt hwy.

15 A Moses a aeth i fynu i’r mynydd; a chwmmwl a orchuddiodd y mynydd.

16 A gogoniant yr Arglwydd a arhôdd ar fynydd Sinai, a’r cwmmwl a’i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmmwl.

17 A’r golwg ar ogoniant yr Arglwydd oedd fel tân yn difa ar ben y mynydd, y’ngolwg meibion Israel.

18 A Moses a aeth i ganol y cwmmwl, ac a aeth i fynu i’r mynydd: a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.


PENNOD XXV.

1 Pa beth sydd raid i’r Israeliaid ei offrwm tu ag at wneuthur y babell. 10 Dull yr arch. 17 Y drugareddfa a’r cerubiaid. 23 Y bwrdd a’i arlwy. 31 Y canhwyllbren a’i offer.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Dywed wrth feibion Israel, am ddwyn o honynt i mi offrwm: gan bob gwr ewyllysgar ei galon y cymmerwch fy offrwm.

3 A dyma yr offrwm a gymmerwch ganddynt; aur, ac arian, a phres,

4 A sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main, a blew geifr,

5 A chrwyn hyrddod yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,

6 Olew i’r goleuni, llysieuau i olew yr ennaint, ac i’r pêr-arogl-darth,

7 Meini onix, a meini i’w gosod yn yr ephod, ac yn y ddwyfronneg.

8 A gwnant i mi gyssegr; fel y gallwyf drigo yn eu mysg hwynt.

9 Yn ol holl waith y tabernacl, a gwaith ei holl ddodrefn y rhai yr ydwyf yn eu dangos i ti, felly y gwnewch.

10 ¶ A gwnant arch o goed Sittim, o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.

11 A gwisg hi âg aur coeth; o fewn ac oddi allan y gwisgi hi: a gwna arni goron o aur o amgylch.

12 Bwrw iddi hefyd bedair modrwy aur, a dod ar ei phedair congl; dwy fodrwy ar un ystlys iddi, a dwy fodrwy ar yr ystlys arall iddi.

13 A gwna drosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt âg aur.

14 A gosod y trosolion trwy y modrwyau gan ystlys yr arch, i ddwyn yr arch arnynt.

15 Ym modrwyau yr arch y bydd