Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y trosolion; na symmuder hwynt oddi wrthi.

16 A dod yn yr arch y dystiolaeth a roddaf i ti.

17 A gwna drugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled.

18 A gwna ddau gerub o aur; o gyfanwaith morthwyl y gwnei hwynt, yn nau gwrr y drugareddfa.

19 Un cerub a wnei yn y naill ben, a’r cerub arall yn y pen arall: o’r drugareddfa ar ei dau ben hi y gwnewch y cerubiaid.

20 A bydded y cerubiaid yn lledu eu hesgyll i fynu, gan orchuddio y drugareddfa â’u hesgyll, a’u hwynebau bob un at ei gilydd: tu a’r drugareddfa y bydd wynebau y cerubiaid.

21 A dod y drugareddfa i fynu ar yr arch, ac yn yr arch dod y dystiolaeth a roddaf i ti.

22 A mi a gyfarfyddaf â thi yno, ac a lefaraf wrthyt oddi ar y drugareddfa, oddi rhwng y ddau gerub y rhai a fyddant ar arch y dystiolaeth, yr holl bethau a orchymynwyf wrthyt i feibion Israel.

23 ¶ A gwna di fwrdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hŷd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.

24 A gosod aur coeth drosto, a gwna iddo goron o aur o amgylch.

25 A gwna iddo wregys o led llaw o amgylch, a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch.

26 A gwna iddo bedair modrwy o aur, a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a fyddant ar ei bedwar troed.

27 Ar gyfer cylch y bydd y modrwyau, yn lleoedd i’r trosolion i ddwyn y bwrdd.

28 A gwna y trosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt âg aur, fel y dyger y bwrdd arnynt.

29 A gwna ei ddysglau ef, a’i lwyau, a’i gaeadau, a’i phïolau, y rhai y tywelltir â hwynt: o aur coeth y gwnei hwynt.

30 A dod ar y bwrdd y bara dangos ger bron fy wyneb yn wastadol.

31 ¶ Gwna hefyd ganhwyllbren: o aur pur yn gyfanwaith y gwneir y canhwyllbren; ei baladr, ei geingciau, ei bedyll, ei gnapiau, a’i flodau, a fyddant o’r un.

32 A bydd chwe chaingc yn dyfod allan o’i ystlysau; tair caingc o’r canhwyllbren o un tu, a thair caingc o’r canhwyllbren o’r tu arall.

33 Tair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar un gaingc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gaingc arall: felly ar y chwe chaingc a fyddo yn dyfod allan o’r canhwyllbren.

34 Ac yn y canhwyllbren y bydd pedair padell ar waith almonau, a’u cnapiau a’u blodau.

35 A bydd cnap dan ddwy gaingc o hono, a chnap dan ddwy gaingc o hono, a chnap dan ddwy gaingc o hono, yn ol y chwe chaingc a ddeuant o’r canhwyllbren.

36 Eu cnapiau a’u ceingciau a fyddant o’r un: y cwbl fydd aur coeth o un cyfanwaith morthwyl.

37 A thi a wnei ei saith lusern ef, ac a oleui ei lusernau ef, fel y goleuo efe ar gyfer ei wyneb.

38 A bydded ei efeiliau a’i gafnau o aur coeth.

39 O dalent o aur coeth y gwnei ef, a’r holl lestri hyn.

40 Ond gwel wneuthur yn ol eu portreiad hwynt, a ddangoswyd i ti yn y mynydd.


PENNOD XXVI.

1 Deg llèn y tabernacl. 7 Yr un llèn ar ddeg o flew geifr. 14 Y babell-lèn o grwyn hyrddod. 15 Byrddau y tabernacl, gyd â’u morteisiau a’u barrau. 31 Y wahanlen i’r arch. 36 Y gaeadlen i’r drws.

Y tabernacl hefyd a wnei di o ddeg llèn o lïan main cyfrodedd, ac o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad: yn gerubiaid o gywreinwaith y gwnei hwynt.

2 Hŷd un llèn fydd wyth gufydd ar hugain, a lled un llèn fydd pedwar cufydd: yr un mesur a fydd i’r holl lenni.

3 Pùm llèn a fyddant y’nglŷn bob un wrth ei gilydd; a phùm llèn eraill a fyddant y’nglŷn wrth ei gilydd.

4 A gwna ddolennau o sidan glas ar ymyl un llèn, ar y cwrr, yn y cydiad; ac felly y gwnei ar ymyl eithaf llèn arall, yn yr ail gydiad.

5 Deg dolen a deugain a wnei di i un llèn, a deg dolen a deugain a wnei ar gwrr y llèn a fyddo yn yr ail gydiad: y dolennau a dderbyniant bob un ei gilydd.

6 Gwna hefyd ddeg bach a deugain o aur, a chydia â’r bachau y llenni bob un wrth ei gilydd, fel y byddo yn un tabernacl.