Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

7 ¶ A gwna lenni o flew geifr, i fod yn babell-lèn ar y tabernacl: un llèn ar ddeg a wnei.

8 Hŷd un llèn fydd deg cufydd ar hugain, a lled un llèn fydd pedwar cufydd; a’r un mesur fydd i’r un llèn ar ddeg.

9 A chydia bùm llèn wrthynt eu hun, a chwe llèn wrthynt eu hun; a dybla’r chweched lèn ar gyfer wyneb y babell-lèn.

10 A gwna ddeg dolen a deugain ar ymyl y naill lèn, ar y cwrr, yn y cydiad cyntaf; a deg dolen a deugain ar ymyl y llèn arall, yn yr ail gydiad.

11 A gwna ddeg bach a deugain o bres; a dod y bachau yn y dolennau, a chylymma’r babell-lèn, fel y byddo yn un.

12 A’r gweddill a fyddo dros ben o lenni y babell-lèn, sef yr hanner llèn weddill, a fydd y’ngweddill ar du cefn y tabernacl;

13 Fel y byddo o’r gweddill gufydd o’r naill du, a chufydd o’r tu arall, o hŷd y babell-lèn: bydded hynny dros ddau ystlys y tabernacl, o’r tu yma ac o’r tu accw, i’w orchuddio.

14 A gwna dô i’r babell-lèn o grwyn hyrddod wedi eu lliwo yn gochion, a thô o grwyn daearfoch yn uchaf.

15 ¶ A gwna i’r tabernacl ystyllod o goed Sittim, yn eu sefyll.

16 Deg cufydd fydd hŷd ystyllen, a chufydd a hanner cufydd fydd lled pob ystyllen.

17 Bydded dau dyno i un bwrdd, wedi eu gosod mewn trefn, bob un ar gyfer eu gilydd: felly y gwnei am holl fyrddau y tabernacl.

18 A gwna ystyllod i’r tabernacl, ugain ystyllen o’r tu dehau, tu a’r dehau.

19 A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen; dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno.

20 A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du y gogledd, ugain ystyllen,

21 A deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.

22 Hefyd i ystlys y tabernacl, o du’r gorllewin, y gwnei chwech ystyllen.

23 A dwy ystyllen a wnei i gonglau y tabernacl, yn y ddau ystlys.

24 A byddant wedi eu cyssylltu oddi tanodd; byddant hefyd wedi eu cyd-gydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau; i’r ddwy gongl y byddant.

25 A byddant yn wyth ystyllen, a’u morteisiau arian yn un fortais ar bymtheg; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.

26 ¶ Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl,

27 A phùm barr i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phùm barr i ystyllod ystlys y tabernacl i’r ddau ystlys tu a’r gorllewin.

28 A’r barr canol y’nghanol yr ystyllod, a gyrhaedd o gwrr i gwrr.

29 Gosod hefyd aur dros yr ystyllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau trwyddynt: gwisg y barrau hefyd âg aur.

30 A chyfod y taberanacl wrth ei bortreiad, yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

31 ¶ A gwna wahanlen o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, ac o lïan main cyfrodedd: â cherubiaid o waith cywraint y gwnei hi.

32 A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur, a’u pennau o aur, ar bedair mortais arian.

33 ¶ A dod y wahanlen wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno, o fewn y wahanlen, arch y dystiolaeth: a’r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng y cyssegr a’r cyssegr sancteiddiolaf.

34 Dod hefyd y drugareddfa ac arch y dystiolaeth yn y cyssegr sancteiddiolaf.

35 A gosod y bwrdd o’r tu allan i’r wahanlen, a’r canhwyllbren gyferbyn â’r bwrdd ar y tu dehau i’r tabernacl: a dod y bwrdd ar du y gogledd.

36 A gwna gaeadlen i ddrws y babell o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, ac o lïan main cyfrodedd o wnïadwaith.

37 A gwna i’r gaeadlen bùm colofn o goed Sittim, a gwisg hwynt âg aur, a’u pennau fydd o aur: a bwrw iddynt bùm mortais bres.


PENNOD XXVII.

1 Allor y poeth-offrwm, a’i llestri. 9 Cynteddfa y tabernacl wedi ei gau â llenni ac â cholofnau. 18 Mesur y cynteddfa. 20 Yr olew i’r lamp.

Gwna hefyd allor o goed Sittim, o bùm cufydd o hŷd, a phùm cufydd o led: yn bedeirongl y bydd yr allor, a’i huchder o dri chufydd.