Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

2 A gwna ei chyrn ar ei phedair congl: o’r un y bydd ei chyrn; a gwisg hi â phres.

3 Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw, a’i rhawiau, a’i chawgiau, a’i chigweiniau, a’i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o bres.

4 A gwna iddi alch o bres, ar waith rhwyd; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl.

5 A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd, fel y byddo y rhwyd hyd hanner yr allor.

6 A gwna drosolion i’r allor, sef trosolion o goed Sittim; a gwisg hwynt â phres.

7 A dod ei throsolion trwy y modrwyau; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor, i’w dwyn hi.

8 Gwna hi âg ystyllod yn gau: fel y dangoswyd i ti yn y mynydd, felly y gwnant hi.

9 ¶ A gwna gynteddfa y tabernacl ar y tu dehau, tu a’r dehau: llenni’r cynteddfa a fyddant lïan main cyfrodedd, o gàn cufydd o hŷd, i un ystlys.

10 A’i hugain colofn, a’u hugain mortais, fydd o bres: pennau y colofnau, a’u cylchau, fydd o arian.

11 Felly o du’r gogledd ar hŷd, y bydd llenni o gàn cufydd o hŷd, a’u hugain colofn, a’u hugain mortais, o bres; a phennau’r colofnau, a’u cylchau, o arian.

12 ¶ Ac i led y cynteddfa, o du y gorllewin, y bydd llenni o ddeg cufydd a deugain: eu colofnau fyddant ddeg, a’u morteisiau yn ddeg.

13 A lled y cynteddfa, tu a’r dwyrain, o godiad haul, a fydd ddeg cufydd a deugain.

14 Y llenni o’r naill du a fyddant bymtheg cufydd; eu colofnau yn dair, a’u morteisiau yn dair.

15 Ac i’r ail du y bydd pymtheg llèn; eu tair colofn, a’u tair mortais.

16 ¶ Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o ugain cufydd, o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, ac o lïan main cyfrodedd o wnïadwaith; eu pedair colofn, a’u pedair mortais.

17 Holl golofnau y cynteddfa o amgylch a gylchir âg arian; a’u pennau yn arian, a’u morteisiau yn bres.

18 ¶ Hŷd y cynteddfa fydd gàn cufydd, a’i led yn ddeg a deugain o bob tu; a phùm cufydd o uchder o lïan main cyfrodedd, a’u morteisiau o bres.

19 Holl lestri y tabernacl yn eu holl wasanaeth, a’i holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa, fyddant o bres.

20 ¶ A gorchymyn dithau i feibion Israel ddwyn o honynt attat bur olew yr olewydden coethedig, yn oleuni, i beri i’r lamp losgi yn wastad.

21 Ym mhabell y cyfarfod, o’r tu allan i r wahanlen, yr hon fydd o flaen y dystiolaeth, y trefna Aaron a’i feibion hwnnw, o’r hwyr hyd y bore, ger bron yr Arglwydd: deddf dragywyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.


PENNOD XXVIII.

1 Neillduo Aaron a’i feibion i swydd yr offeiriaid. 2 Gorchymyn gwisgoedd sanctaidd. 6 Yr ephod. 15 Y ddwyfronneg a’r deuddeg maen gwerthfawr. 30 Yr Urim a’r Thummim. 31 Mantell yr ephod, gyd â’i phomgranadau a’i chlych. 36 Dalen y meitr. 39 Y bais wnïadwaith. 40 Gwisgoedd meibion Aaron.

A chymmer Aaron dy frawd attat, a’i feibion gyd âg ef, o blith meibion Israel, i offeiriadu i mi; sef Aaron, Nadab ac Abihu, Eleazar ac Ithamar, meibion Aaron.

2 Gwna hefyd wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, er gogoniant a harddwch.

3 A dywed wrth yr holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i âg ysbryd doethineb, am wneuthur o honynt ddillad Aaron i’w sancteiddio ef, i offeiriadu i mi.

4 A dyma y gwisgoedd a wnant. Dwyfronneg, ac ephod, mantell hefyd, a phais o waith edau a nodwydd, meitr, a gwregys: felly y gwnant wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, ac i’w feibion, i offeiriadu i mi.

5 Cymmerant gan hynny aur, a sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main.

6 ¶ A gwnant yr ephod o aur, sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd, o waith cywraint.

7 Dwy ysgwydd fydd iddi wedi eu cydio wrth ei dau gwrr; ac felly y cydir hi ynghyd.

8 A gwregys cywraint ei ephod ef yr hwn fydd arni, fydd o’r un, yn un-waith â hi; o aur, sidan glas, a phorphor, ysgarlad hefyd, a llïan main cyfrodedd.

9 Cymmer hefyd ddau faen onix, a nâdd ynddynt enwau meibion Israel:

10 Chwech o’u henwau ar un maen, a’r chwe henw arall ar yr ail maen, yn ol eu genedigaeth.