Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

11 A gwaith naddwr mewn maen, fel naddiadau sêl, y neddi di y ddau faen, âg enwau meibion Israel: gwna hwynt â boglynau o aur o’u hamgylch.

12 A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr ephod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel. Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt ger bron yr Arglwydd ar ei ddwy ysgwydd, yn goffadwriaeth.

13 ¶ Gwna hefyd foglynau aur;

14 A dwy gadwyn o aur coeth yn eu pennau: o blethwaith y gwnei hwynt; a dod y cadwynau plethedig y’nglŷn wrth y boglynau.

15 ¶ Gwna hefyd ddwyfronneg barnedigaeth, o waith cywraint; ar waith yr ephod y gwnei hi: o aur, sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd, y gwnei hi.

16 Pedeirongl fydd hi yn ddau ddyblyg; yn rhychwant ei hŷd, ac yn rhychwant ei lled.

17 Llanw hi yn llawn o feini, sef pedair rhes o feini: un rhes fydd sardius, a thophaz, a smaragdus: hyn fydd y rhes gyntaf.

18 A’r ail res fydd carbuncl, saphir, ac adamant.

19 A’r drydedd res fydd lygur, ac acat, ac amethyst.

20 Y bedwaredd res fydd beryl, ac onix, a jasbis: byddant wedi eu gosod mewn aur yn eu lleoedd.

21 A’r meini fyddant âg enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ol eu henwau hwynt; o naddiad sêl, bob un wrth ei enw y byddant, yn ol y deuddeg llwyth.

22 ¶ A gwna ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith, o aur coeth.

23 Gwna hefyd ar y ddwyfronneg ddwy fodrwy o aur, a dod y ddwy fodrwy wrth ddau gwrr y ddwyfronneg.

24 A dod y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy y ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg.

25 A’r ddau ben arall i’r ddwy gadwyn blethedig dod y’nglŷn wrth y ddau foglyn, a dod ar ysgwyddau yr ephod o’r tu blaen.

26 ¶ Gwna hefyd ddwy fodrwy o aur, a gosod hwynt ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr ephod o’r tu mewn.

27 A gwna ddwy fodrwy o aur, a dod hwynt ar ddau ystlys yr ephod oddi tanodd, tu a’i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr ephod.

28 A’r ddwyfronneg a rwymant â’u modrwyau wrth fodrwyau yr ephod â llinyn o sidan glas, fel y byddo oddi ar wregys yr ephod, fel na ddattoder y ddwyfronneg oddi wrth yr ephod.

29 A dyged Aaron, yn nwyfronneg y farnedigaeth, enwau meibion Israel ar ei galon, pan ddelo i’r cyssegr, yn goffadwriaeth ger bron yr Arglwydd yn wastadol.

30 ¶ A dod ar ddwyfronneg y farnedigaeth, yr Urim a’r Thummim; a byddant ar galon Aaron pan elo i mewn ger bron yr Arglwydd: ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei galon, ger bron yr Arglwydd, yn wastadol.

31 ¶ Gwna hefyd fantell yr ephod oll o sidan glas.

32 A bydd twll yn ei phen uchaf hi, ar ei chanol: gwrym o waith gwehydd o amgylch y twll, megis twll llurig, fydd iddi, rhag rhwygo.

33 ¶ A gwna ar ei godrau hi bomgranadau o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, ar ei godrau o amgylch; a chlych o aur rhyngddynt o amgylch.

34 Cloch aur a phomgranad, a chloch aur a phomgranad, ar odrau y fantell o amgylch.

35 A hi a fydd am Aaron wrth weini: a cheir clywed ei swn ef pan ddelo i’r cyssegr, ger bron yr Arglwydd, a phan elo allan; fel na byddo farw.

36 ¶ Gwna hefyd ddalen o aur coeth; a nâdd arni, fel naddiadau sêl, sancteiddrwydd i’r Arglwydd.

37 A gosod hi wrth linyn o sidan glas, a bydded ar y meitr: o’r tu blaen i’r meitr y bydd.

38 A hi a fydd ar dalcen Aaron, fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd a gyssegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd: ac yn wastad y bydd ar ei dalcen ef, fel y byddo iddynt ffafr ger bron yr Arglwydd.

39 ¶ Gweithia âg edau a nodwydd y bais o lïan main, a gwna feitr o lïan main; a’r gwregys a wnei o wnïadwaith.

40 ¶ I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau; gwna hefyd iddynt gapiau, er gogoniant a harddwch.