Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

41 A gwisg hwynt am Aaron dy frawd, a’i feibion gyd âg ef: ac enneinia hwynt, cyssegra hwynt hefyd, a sancteiddia hwynt, i offeiriadu i mi.

42 Gwna hefyd iddynt lodrau llïan i guddio eu cnawd noeth: o’r lwynau hyd y morddwydydd y byddant.

43 A byddant am Aaron, ac am ei feibion, pan ddelont i mewn i babell y cyfarfod, neu pan ddelont yn agos at yr allor i weini yn y cyssegr: fel na ddygont anwiredd, a marw. Hyn fydd deddf dragywyddol iddo ef, ac i’w had ar ei ol.


Pennod XXIX.

1 Yr aberth a’r seremonïau a arferid wrth gyssegru yr offeiriaid. 38 Y llosg-offrwm gwastadol. 45 Addewid Duw ar drigo ym mhlith plant Israel.

Dyma hefyd yr hyn a wnei di iddynt i’w cyssegru hwynt, i offeiriadu i mi. Cymmer un bustach ieuangc, a dau hwrdd perffeith-gwbl,

2 A bara croyw, a theisennau croyw wedi eu cymmysgu âg olew, ac afrllad croyw wedi eu hiro âg olew: o beilliaid gwenith y gwnei hwynt.

3 A dod hwynt mewn un cawell, a dwg hwynt yn y cawell, gyd â’r bustach a’r ddau hwrdd.

4 Dwg hefyd Aaron a’i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.

5 A chymmer y gwisgoedd, a gwisg am Aaron y bais, a mantell yr ephod, a’r ephod hefyd, a’r ddwyfronneg; a gwregysa ef â gwregys yr ephod.

6 A gosod y meitr ar ei ben ef, a dod y goron gyssegredig ar y meitr.

7 Yna y cymmeri olew yr enneiniad, ac y tywellti ar ei ben ef, ac yr enneini ef.

8 A dwg ei feibion ef, a gwisg beisiau am danynt.

9 A gwregysa hwynt â gwregysau, sef Aaron a’i feibion, a gwisg hwynt â chapiau: a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragywyddol: a thi a gyssegri Aaron a’i feibion.

10 A phâr ddwyn y bustach ger bron pabell y cyfarfod; a rhodded Aaron a’i feibion eu dwylaw ar ben y bustach.

11 A lladd y bustach ger bron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

12 A chymmer o waed y bustach, a dod ar gyrn yr allor â’th fys; a thywallt yr holl waed arall wrth droed yr allor.

13 Cymmer hefyd yr holl frasder a fydd yn gorchuddio y perfedd, a’r rhwyden a fyddo ar yr afu, a’r ddwy aren, a’r brasder a fyddo arnynt, a llosg ar yr allor.

14 Ond cig y bustach, a’i groen, a’i fiswail, a losgi mewn tân, o’r tu allan i’r gwersyll: aberth dros bechod yw.

15 ¶ Cymmer hefyd un hwrdd; a gosoded Aaron a’i feibion eu dwylaw ar ben yr hwrdd.

16 A lladd yr hwrdd; a chymmer ei waed ef, a thaenella ar yr allor o amgylch.

17 A thorr yr hwrdd yn ddarnau; a golch ei berfedd, a’i draed, a dod hwynt ynghyd â’i ddarnau, ac â’i ben.

18 A llosg yr hwrdd i gyd ar yr allor: poeth-offrwm i’r Arglwydd yw: arogl peraidd, aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.

19 ¶ A chymmer yr ail hwrdd; a rhodded Aaron a’i feibion eu dwylaw ar ben yr hwrdd.

20 Yna lladd yr hwrdd, a chymmer o’i waed, a dod ar gwr isaf clust ddehau Aaron, ac ar gwrr isaf clust ddehau ei feibion, ac ar fawd eu llaw ddehau hwynt, ac ar fawd eu troed dehau hwynt; a thaenella y gwaed arall ar yr allor o amgylch.

21 A chymmer o’r gwaed a fyddo ar yr allor, ac o olew yr enneiniad, a thaenella ar Aaron, ac ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion gyd âg ef: felly sanctaidd fydd efe a’i wisgoedd, ei feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion gyd âg ef.

22 Cymmer hefyd o’r hwrdd, y gwer a’r gloren, a’r gwer sydd yn gorchuddio’r perfedd, a rhwyden yr afu, a’r ddwy aren, a’r gwêr sydd arnynt, a’r ysgwyddog ddehau; canys hwrdd cyssegriad yw:

23 Ac un dorth o fara, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen o gawell y bara croyw, yr hwn sydd ger bron yr Arglwydd.

24 A dod y cwbl yn nwylaw Aaron, ac yn nwylaw ei feibion: a chyhwfana hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd.

25 A chymmer hwynt o’u dwylaw, a llosg ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd ger bron yr Arglwydd: aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.