Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/946

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid a efe i mewn iddi.

10:16 Ac efe a’u cymerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylo arnynt, ac a’u bendithiodd.

10:17 ¶ Ac wedi iddo fyned allan i’r ffordd, rhedodd un ato, a gostyngodd iddo, ac a ofynnodd iddo, O Athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol?

10:18 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid oes neb da ond un, sef Duw.

10:19 Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Na chamgolleda, Anrhydedda dy dad a’th fam.

10:20 Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, y rhai hyn i gyd a gedwais o’m hieuenctid.

10:21 A’r Iesu gan edrych arno, a’i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, a chymer i fyny y groes, a dilyn fi.

10:22 Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer.

10:23 ¶ A’r Iesu a edrychodd o’i amgylch, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw!

10:24 A’r disgyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a atebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anodd yw i’r rhai sydd â’u hymddiried yn eu golud fyned i deyrnas Dduw!

10:25 Y mae yn haws i gamel fyned trwy grau’r nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.

10:26 A hwy a synasant yn ddirfawr, gan ddywedyd wrthynt eu hunain, A phwy a all fod yn gadwedig?

10:27 A’r Iesu, wedi edrych arnynt, a ddywedodd, Gyda dynion amhosibl yw, ac nid gyda Duw: canys pob peth sydd bosibl gyda Duw.

10:28 ¶ Yna y dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ddilynasom di.

10:29 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o’m hachos i a’r efengyl,

10:30 A’r ni dderbyn y can cymaint yr awron y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, â thiroedd, ynghyd âg erlidiau; ac yn y byd a ddaw, fywyd tragwyddol.

10:31 Ond llawer rhai cyntaf a fyddant ddiwethaf; a’r diwethaf fyddant gyntaf.

10:32 ¶ Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Jerwsalem; ac yr oedd yr Iesu yn myned o’u blaen hwynt: a hwy a frawychasant; ac fel yr oeddynt yn canlyn, yr oedd arnynt ofn. Ac wedi iddo drachefn gymryd y deuddeg, efe a ddechreuodd fynegi iddynt y pethau a ddigwyddent iddo ef:

10:33 Canys wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid, ac i’r ysgrifenyddion; a hwy a’i condemniant ef i farwolaeth, ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd:

10:34 A hwy a’i gwatwarant ef, ac a’i fflangellant, ac a boerant arno, ac a’i lladdant: a’r trydydd dydd yr atgyfyd.

10:35 ¶ A daeth ato Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, gan ddywedyd, Athro, ni a fynnem wneuthur ohonot i ni yr hyn a ddymunem.

10:36 Yntau a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi?

10:37 Hwythau a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, a’r llall ar dy aswy, yn dy ogoniant.

10:38 Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o’r cwpan yr wyf fi yn ei yfed? a’ch bedyddio â’r bedydd y’m bedyddir i ag ef?

10:39 A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn, A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o’r cwpan yr yfwyf fi; ac y’ch bedyddir â’r bedydd y bedyddir finnau:

10:40 Ond eistedd ar fy neheulaw a’m haswy, nid eiddof fi ei roddi; ond i’r rhai y darparwyd.

10:41 A phan glybu’r deg, hwy a ddechreuasant fod yn anfodlon ynghylch Iago ac Ioan.

10:42 A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi