Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/947

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

a wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra-arglwyddiaethu arnynt; a’u gwŷr mawr hwynt yn tra-awdurdodi arnynt.

10:43 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith, bydded weinidog i chwi;

10:44 A phwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb.

10:45 Canys ni ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.

10:46 ¶ A hwy a ddaethant i Jericho. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o Jericho, efe a’i ddisgyblion, a bagad o bobl, Bartimeus ddall, mab Timeus, oedd yn eistedd ar fin y ffordd, yn cardota.

10:47 A phan glybu mai’r Iesu o Nasareth ydoedd, efe a ddechreuodd lefain, a dywedyd, Iesu, mab Dafydd, trugarha wrthyf.

10:48 A llawer a’i ceryddasant ef, i geisio ganddo dewi: ond efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf.

10:49 A’r Iesu a safodd, ac a archodd ei alw ef. A hwy a alwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Cymer galon; cyfod: y mae efe yn dy alw di.

10:50 Ond efe, wedi taflu ei gochl ymaith a gyfododd, ac a ddaeth at yr Iesu.

10:51 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti? A’r dall a ddywedodd wrtho, Athro, caffael ohonof fy ngolwg.

10:52 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: dy ffydd a’th iachaodd. Ac yn y man y cafodd efe ei olwg, ac efe a ddilynodd yr Iesu ar hyd y ffordd.


PENNOD 11

11:1 Ac wedi eu dyfod yn agos i Jerwsafem, i Bethffage a Bethania, hyd fynydd yr Olewydd, efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion,

11:2 Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymaith i’r pentref sydd gyferbyn â chwi: ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb; gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ymaith.

11:3 Ac os dywed neb wrthiych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho; ac yn ebrwydd efe a’i denfyn yma.

11:4 A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws oddi allan, mewn croesffordd; ac a’i gollyngasant ef yn rhydd,

11:5 A rhai o’r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi, yn gollwng yr ebol yn rhydd?

11:6 A hwy a ddywedasant wrthynt fel y gorchmynasai yr Iesu: a hwy a adawsant iddynt fyned ymaith.

11:7 A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu, ac a fwriasant eu dillad arno; ac efe a eisteddodd arno.

11:8 A llawer a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd; ac eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar y ffordd.

11:9 A’r rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ô1, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna; Bendigedig fyddo’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd;

11:10 Bendigedig yw’r deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tad Dafydd; Hosanna yn y goruchaf.

11:11 A’r Iesu a aeth i mewn i Jerwsalem, ac i’r deml: ac wedi iddo edrych ar bob peth o’i amgylch, a hi weithian yn hwyr, efe a aeth allan i Fethania gyda’r deuddeg.

11:12 ¶ A thrannoeth, wedi iddynt ddyfod allan o Fethania, yr oedd arao chwant bwyd.

11:13 Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond y dail: canys nid oedd amser ffigys.

11:14 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth ohonot byth mwy. A’i ddisgyblion ef a glywsant.

11:15 ¶ A hwy a ddaethant i Jerwsalem. A’r Iesu a aeth i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml; ac a ymchwelodd drestlau’r arianwyr, a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod: